Eitem Rhaglen

Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd I’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y Cytundeb Cyflawni drafft sy’n cynnwys amserlen ddrafft a Chynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Nodwyd, yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion o Lywodraeth Cymru, bod addasiadau i’r amserlen ddrafft yng ‘Ngham 3’ o fis Mai 2025 i Fai 2026. Dywedodd bod bwriad i fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ym mis Mai 2028. Bydd y Cynllun Cynnwys Cymunedau’n ymgorffori’r dulliau ymgysylltu er mwyn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Cwblheir ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos rhwng 23 Mai, 2024 a 4 Gorffennaf, 2024, a hynny mewn perthynas â’r Cytundeb Cyflawni. Nododd y bydd y Pwyllgor yn cael ei gynghori mewn perthynas â sylwadau a dderbynnir mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd yn cael cyfle i wneud unrhyw addasiadau priodol i’r Cynllun Cyflawni mewn perthynas â sylwadau o’r fath. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Medi 2024 am ystyriaeth, ac yn dilyn hynny, bydd y Cytundeb Cyflawni’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gymeradwyaeth.

 

Wrth adolygu’r adroddiad, cafodd y materion canlynol eu trafod yn y Pwyllgor:-

 

·        Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol mewn perthynas â’r polisïau cynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio mai prif bwnc y cyfarfod hwn yw’r Cynllun Cyflawni a’r Cynllun Cynnwys Cymunedau, a bydd polisïau cynllunio’n cael eu trafod yn y dyfodol;

·      Gofynnwyd sut fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddarparu ac a fydd digwyddiadau ar gyfer cynnwys cymunedau. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch sut fydd swyddogion yn monitro’r ymatebion a dderbynnir ac a fydd y broses drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ddigonol er mwyn casglu ymatebion gan amrywiaeth eang o drigolion. Mynegwyd nad yw’r holl drigolion yn gallu defnyddio adnoddau ar-lein, ac a roddwyd ystyriaeth i ddarparu copïau o’r ddogfen mewn cyfleusterau eraill ledled yr Ynys h.y. canolfannau hamdden. Dywedodd ei bod yn bwysig tynnu sylw at yr angen i drigolion ymateb i’r broses ymgynghori ar y dechrau. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd y broses ymgynghori ddechreuol yn digwydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, yn Swyddfeydd y Cyngor a drwy MônFM. Gwneir cyswllt uniongyrchol gyda rhanddeiliaid statudol. Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu monitro yn ystod y cyfnod ymgynghori gan fod y broses yn digwydd am gyfnod byr. Bydd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn cael eu trefnu ar gyfer y camau dilynol wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol;

·      Cyfeiriwyd at y rheswm pam bod angen Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ynys Môn yn lle’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd cyfredol. Gofynnwyd cwestiynau am oblygiadau cost mewn perthynas â staffio’r Uned Polisi Cynllunio. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y cytundeb cydweithio gyda Chyngor Gwynedd wedi dod i ben, a bod y ddwy Awdurdod wedi cwblhau adolygiad a arweiniodd at wneud penderfyniad i ddod â’r cydweithio i ben rhwng y ddwy awdurdod. Aeth ymlaen i ddweud pan fydd y broses ar gyfer cwblhau’r Cynllun Datblygu Lleol ar waith, bydd mwy o fanylion ar gael mewn perthynas â goblygiadau cost. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod gofyniad statudol ar awdurdodau cynllunio i baratoi Cynllun Datblygu Lleol, a bod y costau cysylltiedig â pharatoi Cynllun angen eu cyfrifo wrth i’r cynllun cyfredol ddod i ben yn 2026.

·      Er y byddai’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn adeiladu ar waith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd cyfredol, bydd cyfran o’r polisïau cynllunio cyfredol yn parhau ar waith. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a fyddai amserlenni ar gyfer datblygu Cynllun Datblygu Lleol yn lleihau, ac a ellir mabwysiadu polisïau cyfredol cyn 2028. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod angen glynu wrth yr amserlen sydd wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

·      Cyfeiriwyd at y Canllawiau Cynllunio Atodol ac a all y Pwyllgor hwn gyfrannu at unrhyw gais ar gyfer addasu’r polisiau hyn. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd yn rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol i adolygu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyfredol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·          Cytuno gyda’r addasiad priodol i ddogfen y Cytundeb Cyflawni;

·          I gefnogi’r Cytundeb Cyflawni drafft;

I gefnogi’r gwaith o ymgymryd â chyfnod ymgynghori cyhoeddus o chwe wythnos;

·          I ddirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio (mewn ymgynghoriad gyda’r Deilydd Portffolio) i wneud mân addasiadau pellach er cywirdeb yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus sydd ar ddechrau.

 

Dogfennau ategol: