Eitem Rhaglen

Newid i'r Cyfansoddiad: Cynllun Dirprwyo i Swyddogion

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i sefydlu cynllun dirprwyo i sicrhau bod Cyngor yn cyflawni ei swyddogaeth statudol mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sy'n Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd.

 

Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Ynys Ynni drosolwg o broses archwilio'r NSIP a rôl statudol y Cyngor mewn perthynas ag NSIP a dywedodd ei bod yn ystyried bod angen sefydlu cynllun dirprwyo i sicrhau y gall y Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn effeithiol o ran ymwneud â phrosiect mawr sy'n Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol er mwyn gallu cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau a bennir gan yr Arolygiaeth Gynllunio a chymryd rhan yn y broses archwilio naill ai drwy wrandawiadau neu ymchwiliadau. Gan mai’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n gosod amserlen yr archwiliad, nid yw'n bosibl sicrhau bod y dyddiadau cau i'r Cyngor gyflwyno sylwadau a thystiolaeth yn cyd-fynd â chylch pwyllgorau'r Cyngor. Am y rheswm hwn, gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gefnogi cynllun dirprwyo sy'n caniatáu i'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn perthynas â NSIP. Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Ynys Ynni sicrwydd y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud ym mhob cam i roi cyfle i gymaint o fewnbwn gwleidyddol â phosibl drwy drefniadau llywodraethu presennol.

 

Yn yr un modd, nid yw'r amserlen archwilio a gadarnhawyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn caniatáu digon o amser i gyfieithu ceisiadau’r Cyngor erbyn y dyddiad cau. Felly gwneir cais i wyro oddi wrth ofynion polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn caniatáu i'r gwaith o gyfieithu ceisiadau'r Cyngor ar gyfer y broses archwilio gael ei wneud ar ôl y dyddiad cau. Ni fydd hyn yn cael effaith ar gydymffurfio â safonau darparu gwasanaeth statudol, sy’n sicrhau gohebiaeth Gymraeg/ddwyieithog gyda’r cyhoedd a phobl eraill yng Nghymru. Darperir fersiwn Gymraeg o geisiadau'r Cyngor bob amser ac ni fydd unrhyw ddogfen yn cael ei chyhoeddi nac ar gael i’r cyhoedd nes bod cyfieithiad Cymraeg ar gael.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Nicola Roberts eu bod wedi trafod yn anffurfiol y posibilrwydd o ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio i dynnu sylw at y ffaith nad yw’r amserlen archwilio fel y'i pennwyd yn caniatáu i’r cyngor gyflwyno dogfennau dwyieithog, gyda'r bwriad o adolygu'r amserlen ar gyfer y dyfodol fel bod modd gwneud hynny.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai llythyr i'r perwyl hwnnw'n cael ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cefnogi’r canlynol -

 

·         I ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu pa bynnag wedi ei ddirprwyo i Ddeilydd Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

·           Y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.

 

·           Caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei hanfon at yr Arolygaeth Gynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad ei angen oherwydd nad yw amserlen archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).

 

Dogfennau ategol: