7.1 – FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed
7.2 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran
7.3 – FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
Cofnodion:
7.1 FPL/2023/328 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y capel i fod yn 3 uned wyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yng Nghapel Jerwsalem, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais Aelodau Lleol oherwydd pryderon ynglŷn â phroblemau parcio a thraffig a gorgrynhoad o lety gwyliau yn yr ardal.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod safle’r cais wedi’i leoli y tu mewn i ffin ddatblygu Llangoed ac roedd yr adeilad yn arfer cael ei ddefnyddio fel Capel, sy’n dod o dan Ddosbarth Defnydd D1. Nododd bod nifer uchel o wrthwynebiadau wedi dod i law mewn perthynas â’r cais ac 1 llythyr o blaid. Gwrthodwyd cynllun tebyg ar gyfer pedair uned wyliau yn 2022. Mae’r cynllun wedi cael ei ddiwygio i ddarparu 3 uned yn lle 4 ac mae Nodiadau Technegol ynglŷn â’r briffordd wedi cael eu darparu sy’n cadarnhau bod digon o le parcio ger y safle ar gyfer y datblygiad hwn. Hefyd, mae’r cais yn cynnwys achos busnes manwl sy’n dangos bod y cynnig yn hyfyw. Cydnabyddir bod y cynnig yn rhagori fymryn ar y trothwy o 15% a osodwyd ar gyfer cartrefi gwyliau, sy’n 15.36% ar hyn o bryd, fodd bynnag bydd y cynnig yn helpu i ddod ag eiddo gwag yng nghanol y pentref yn ôl i ddefnydd. Mae hefyd yn hanfodol ystyried y defnydd cyfreithiol y gellir ei wneud o’r adeilad, sef defnydd D1. Gellid defnyddio’r adeilad fel neuadd gymunedol neu fel crèche, ac fe allai hynny gael mwy o effaith ar draffig a pharcio na thair uned gwyliau. Bydd amodau ynghlwm ag unrhyw ganiatâd a roddir yn ogystal. O ran y pryderon ynglŷn â’r briffordd mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y cynnig ac mae Nodiadau Technegol ynglŷn â’r briffordd wedi cael eu cyflwyno gyda’r cynnig diweddaraf. Gan fod y cynnig diweddaraf ar gyfer 3 uned yn hytrach na 4 mae’r Awdurdod Priffyrdd bellach yn fodlon y gellir hwyluso parcio sy’n gysylltiedig â’r datblygiad drwy ddefnyddio’r ardal a nodir fel Parth A. Pe byddai problem yn codi’i ben yn sgil cymeradwyo’r cais hwn byddai’r Awdurdod Priffyrdd yn adolygu’r sefyllfa ac yn ystyried gorchymyn rheoli traffig er mwyn rheoli’r parcio y tu allan i’r siop. O ran mwynderau preswyl, mae'r cynnig wedi cael ei ddiwygio yn ystod cyfnod y cais i sicrhau na fydd y datblygiad yn edrych dros yr eiddo cyfagos i gyfeiriad y de. Bydd pob ffenestr ar yr ochr ddeheuol a chefn yn defnyddio gwydr aneglur. Hefyd, mae’r cynnig yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â gofynion Polisi AMG 5, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a’r newidiadau diweddaraf i bennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru sy’n trafod cynnal a gwella bioamrywiaeth.
Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol.
Roedd y datganiad yn cyfeirio at y gwrthwynebiad i’r datblygiad yn lleol a chan y Cyngor Cymuned. Mae diffyg parcio ar gyfer y datblygiad ac mae’r ymgeisydd wedi ceisio mynd i’r afael â’r mater yn y dogfennau ategol, ond nid yw trigolion yn credu bod y materion parcio wedi cael eu datrys, yn enwedig ger y siop leol. Mae’n amlwg bod diffyg cyfleusterau parcio yn yr ardal gan fod ceir yn gorfod parcio ar y stryd, a byddai’r cerbydau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cynnig yn ychwanegu at y broblem. Nid yw’r parthau parcio a nodwyd yn realistig ac nid ydynt yn ystyried hawliau’r trigolion lleol sy’n byw yn yr ardal, sy’n cael trafferth dod o hyd i lefydd parcio gan nad oes ganddynt ddreif neu garej. Mae’r data’n dangos mai 15.36% yw canran yr ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Llangoed, ac mae hyn yn uwch na’r trothwy o 15%. Dylid glynu wrth y canran o 15% ac nid ei gynyddu. Mae perygl y gallai’r datblygiad hwn osod cynsail ac y bydd nifer o geisiadau tebyg yn cael eu cyflwyno am lety gwyliau yn ardal Llangoed ac ar hyd a lled yr Ynys.
Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol.
Roedd y datganiad yn nodi bod y datblygiad yng Nghapel Jerwsalem yn gwbl anaddas gan y bydd yn ychwanegu at y problemau parcio a thraffig ym mhentref Llangoed. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad safle fis diwethaf, mae’r safle gyferbyn â’r unig siop yn y pentref, sy’n brysur ofnadwy. Nid oes unrhyw lefydd parcio addas i gyfeiriad y Neuadd Bentref nac i’r cyfeiriad arall tuag at y cae pêl-droed. Roedd gan yr Adran Briffyrdd bryderon ynglyn â’r cais gwreiddiol ddiwedd 2023 ac roedd y Cynghorydd Pritchard yn ei chael hi’n anodd deall sut y mae’r cais newydd hwn yn lliniaru’r pryderon hyn a’i bod yn amlwg i bawb a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle nad yw’r asesiad traffig yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa. Yn ogystal â’r pryderon parcio dylid glynu wrth y trothwy o 15%, sydd wedi cael ei bennu ar gyfer unedau llety gwyliau yn yr ardal, neu bydd gennym ganran uwch o lawer yn y pen draw ac nid yw hynny’n dderbyniol i’n cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol, ei fod yn cytuno â datganiadau ei gyd-aelodau lleol. Dywedodd bod eiddo preswyl bob ochr i’r capel. Mae gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal gyda 15.36% o’r eiddo yn yr ardal naill ai’n ail gartrefi neu’n llety hunanarlwyo, sy’n uwch na’r trothwy o 15%. Fodd bynnag, nid yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys llety AirBnB, a byddai’r canran yn uwch o lawer pe byddent wedi cael eu cynnwys. Cyfeiriodd at y problemau parcio yn y pentref a dywedodd bod yr holl barthau parcio a nodwyd, sef parthau A, B ac C, yn llawn yn ystod yr ymweliad safle, er ei bod hi ar adeg o’r dydd lle’r oedd pobl yn y gwaith. Gall y datblygiad arfaethedig olygu efallai y bydd chwe cherbyd yn ychwanegol yn yr ardal ac o bosib trelars a beiciau dŵr (jet skis). Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i ddweud bod y cais blaenorol am 4 uned wyliau wedi cael ei wrthod gan fod gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal ac oherwydd y traffig a’r gofynion parcio ychwanegol. Dywedodd nad oedd yn deall sut y gellid cyfiawnhau cymeradwyo’r cais y tro hwn dim ond am fod nifer yr unedau wedi lleihau o 4 i 3. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais gan nad yw’r ddarpariaeth parcio yn ddigonol ac oherwydd y problemau traffig yn yr ardal.
Mewn ymateb i ddatganiadau’r Aelodau Lleol, roedd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio yn derbyn bod y ddarpariaeth o lety gwyliau fymryn yn uwch na’r trothwy o 15% sydd wedi’i nodi yn y Canllaw Cynllunio Atodol yn ardal Llangoed, ond byddai gwrthod am y rheswm hwn yn debygol o arwain at apêl ac mae PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) wedi cymeradwyo ceisiadau tebyg yn y gorffennol. Roedd yn derbyn bod nifer uchel o draffig yn yr ardal a bod siop gerllaw a bod trigolion yn parcio ar y stryd, ond wrth ymweld â’r ardal roedd llefydd gwag ym mharth parcio A ac yn y maes parcio gerllaw.
Roedd y Cynghorydd Jackie Lewis yn dymuno cael gwybod pryd yr oedd yr Asesiad Rheoli Traffig wedi cael ei gynnal ac roedd o’r farn bod problemau traffig a pharcio yn yr ardal gerllaw’r datblygiad hwn ac y byddai’r galw am lefydd parcio yn cynyddu dros fisoedd yr haf, yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn llety AirBnB. Dywedodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig bod yr Asesiad Rheoli Traffig wedi cael ei gynnal pan gyflwynwyd y cais blaenorol am 4 uned wyliau a hynny rhwng 7.00 a.m., a 9.30 a.m., a 4.00 p.m. a 8.00 p.m. Nododd bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi ymweld â’r safle pan gyflwynwyd y cais a daeth i’r casgliad bod capasiti yn yr ardal i ymorol am y cerbydau ychwanegol a fyddai’n gysylltiedig â’r datblygiad hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod y llety AirBnB, a all fod â mwy nag un teulu’n aros ynddynt, yn ychwanegu at y problemau parcio a thraffig. Nododd y byddai canran yr ail gartrefi a llety hunanarlwyo yn uwch o lawer na’r trothwy o 15% pe byddai’r data’n cynnwys llety AirBnB. Dywedodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio nad oes gofyniad i gynnwys llety AirBnB yn y data ar ail gartrefi a llety gwyliau.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans bod ganddo bryderon y gallai’r hen Gapel ddadfeilio os na ellir dod o hyd i ddefnydd arall i’r adeilad. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod cyfleusterau parcio digonol yn yr ardal. Cynigodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Nid chefnogwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams bod canran yr ail gartrefi a llety gwyliau yn yr ardal eisoes yn uwch na’r trothwy o 15% ac roedd o’r farn y byddai’r orddarpariaeth yn amlwg pe byddai’r 102 o lety AirBnB sy’n cael eu hysbysebu i’w gosod am wythnos ym mis Medi yn ardal Biwmares a Llanddona yn cael eu cynnwys yn y data. Dywedodd na fydd cartrefi ar gael i bobl leol fyw yn y pentref yn fuan iawn a bod ward Seiriol ‘dan ei sang’ o unedau gwyliau. Cynigodd y Cynghorydd Williams bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod canran y llety gwyliau yn ardal Llangoed eisoes dros y trothwy o 15%, heb gynnwys y nifer uchel o lety AirBnB sydd yn yr ardal. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd John I Jones.
Fe wnaeth y Cynghorydd Liz Wood atal ei phleidlais gan nad oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn mynd â chanran y llety gwyliau yn ardal Llangoed y tu hwnt i’r trothwy o 15% a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (a chan nad yw niferoedd y llety AirBnB wedi eu cynnwys yn y ffigyrau llety gwyliau ac y byddai eu cynnwys yn mynd â’r ffigwr ymhell y tu hwnt i’r trothwy o 15%).
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Swyddogion i ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.)
7.2 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, gwneud addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran
(Datganodd y Cynghorydd John I Jones ddiddordeb personol (ond nid un a oedd yn rhagfarnu) yn gysylltiedig â’r cais. Dywedodd ei fod wedi derbyn cyngor a’i fod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2023 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Tachwedd 2023. Yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2023 penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan eu bod o’r farn nad oeddent wedi derbyn digon o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun draenio i’w galluogi i ddod i benderfyniad ynglŷn â’r cais.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio nad yw materion yn ymwneud â dŵr wyneb yn rhan o’r broses Cynllunio, serch hynny penderfynodd y datblygwr ddarparu’r wybodaeth yma i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i benderfyniad gael ei wneud. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad pwyllgor, roedd y datblygwr wedi derbyn caniatâd SuDS (System Ddraenio Gynaliadwy) gan yr Awdurdod Lleol fel y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB). Yn dilyn trafodaethau â Dŵr Cymru a’r tîm SAB, mae’r cynllun draenio wedi cael ei ddiwygio’n foddhaol ac o ganlyniad mae’r pryderon a godwyd yn flaenorol wedi cael eu datrys. Yn y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023, penderfynodd yr aelodau wrthod y cais a’r unig reswm a roddwyd oedd nad oeddent wedi derbyn digon o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun draenio i’w galluogi i wneud penderfyniad. Gan fod caniatâd SuDS bellach wedi’i roi gan y SAB, ystyrir fod yr unig reswm dros wrthod y cais wedi’i ddatrys ac nad oes unrhyw reswm dros gadarnhau’r penderfyniad hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Arfon Wyn, Aelod Lleol, mai’r prif reswm pam y dylid gwrthod y cais hwn yw bod y tir yn gorslyd yn yr ardal hon. Mae Grŵp Partneriaeth Llifogydd Dwyran yn cadw llygaid ar y sefyllfa’n ddyddiol ac mae mwyafrif yr aelodau’n byw ger safle Taldrwst. Dywedodd bod rhaid ystyried y pryderon sydd gan y trigolion lleol hyn, sy’n poeni y gall carthffosiaeth lifo i’w cartrefi o’r suddfannau dŵr ar y safle. Aeth ymlaen i ddweud bod Lôn Fain yn gul iawn, a bod plant ysgol o’r ystâd uwch ben safle Taldrwst yn cerdded ar hyd y lôn yma. Mae gwelededd o’r gyffordd sy’n ymuno a’r lôn tuag at Niwbwrch yn wael a bydd y ceir ychwanegol o’r datblygiad arfaethedig yn cynyddu lefel y traffig. Dywedodd y Cynghorydd Wyn bod llethu’r ardal ac Ynys Môn gyfan â llety gwyliau yn destun pryder. Mae’r ardal eisoes yn frith o lety gwyliau; o fewn radiws o 5 milltir mae 8 datblygiad gwyliau yn ogystal â Pharc Gwyliau Plas Coch. Nododd bod rhaid ystyried y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn gysylltiedig â gwarchod yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan fod y safle gyferbyn â’r AHNE. Rhaid hefyd ystyried ansawdd bywyd y trigolion lleol sy’n byw gerllaw gan y bydd traffig ychwanegol a llygredd sŵn yn dod o’r safle arfaethedig . Aeth ymlaen i ddweud bod pryder y bydd carthion yn gorlifo o’r safle gan fod y safle ar dir uchel ac y dylai’r suddfannau dŵr fod ar ddyfnder o 1.3m o leiaf, ond yn y lleoliad hwn mae’r creigwely ar ddyfnder o 0.8m yn unig. Byddai gan drigolion yr hawl i geisio iawndal gan y Cyngor pe byddai unrhyw lifogydd o ganlyniad i gymeradwyo’r cais hwn. Gofynnodd i’r cais gael ei wrthod er lles trigolion lleol.
Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod Lleol, dywedodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio mai’r prif reswm dros wrthod y cais yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2024 oedd materion draenio ac mae’r ymgeisydd wedi mynd i’r afael â’r materion hyn.
Dywedodd y Cynghorydd John I Jones, Aelod Lleol, bod nifer o resymau dros wrthod wedi cael eu codi yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2023.
Fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol atgoffa’r Pwyllgor bod y cais yn dod yn ôl i’r Pwyllgor yn dilyn cyfnod o gnoi cil ac mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi cyfle i’r Swyddogion fynd i’r afael â’r rheswm dros wrthod y cais sef nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn digon o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun draenio. Mae’r Awdurdod Lleol, sef y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, wedi rhoi caniatâd SuDS i’r datblygwr erbyn hyn. Nododd na fydd y swyddogion wedi cael cyfle i ystyried unrhyw resymau eraill dros wrthod y cais.
Aeth y Cynghorydd John I Jones ymlaen i ddweud bod y fynedfa yn arwain at lôn gul iawn. Bydd lle i barcio 26 o gerbydau ar y safle a bydd y cerbydau’n teithio tuag at y gyffordd sy’n ymuno â’r ffordd fawr i Niwbwrch. Mae’n bosib y bydd rhwng 50 a 70 o bobl yn aros ar y safle ar yr un pryd. Byddai hyn gyfystyr â chynnydd o 10% ym mhoblogaeth y pentref a holodd p’un ai a oedd yr adran wedi ymgynghori â’r feddygfa leol i weld a oes gan y feddygfa gapasiti i ymdopi pe byddai angen triniaeth feddygol ar yr y bobl hyn. Aeth ymlaen i sôn am waith Grŵp Partneriaeth Llifogydd Dwyran a dywedodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi awgrymu bod angen rhagor o waith draenio yn yr ardal gan fod risg y gallai Afon Braint orlifo. Ar hyn o bryd mae’r risg o lifogydd sylweddol yn yr ardal yn 90%. Er ei fod yn derbyn nad yw safle Taldrwst o fewn y parth llifogydd; mae’r safle gwta 15 metr o’r parth. Mae glaw wedi cynyddu 200% eleni’n unig. Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i gyfeirio at bolisïau cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3. Mewn perthynas â PCYFF 2 - nododd y byddai’r cais yn cael effaith andwyol ar gymdogion pe byddai’n cael ei gymeradwyo. PCYFF 3 - bydd modd gweld y safle o’r ffordd fawr yn ystod misoedd y gaeaf. PCYFF 4 - cyfeiriodd at y problemau traffig sylweddol yn yr ardal wrth i bobl ymweld â Llanddwyn yn ystod misoedd yr haf. Nid oes palmant na llwybr seiclo o’r safle i’r traeth nac atyniadau eraill yn yr ardal a bydd rhaid i’r ymwelwyr a fydd yn defnyddio’r datblygiad arfaethedig ddefnyddio eu cerbydau a fydd yn cynyddu’r traffig yn yr ardal. Aeth ymlaen i ddweud bod y safle ger yr AHNE a all gael ei chydnabod fel ardal tirwedd cenedlaethol. Mae’r Cyngor Cymuned, trigolion lleol a’r ddau Aelod Lleol yn gwrthwynebu’r cais hwn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Roberts at Bolisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12, sy’n cyfeirio ar ddŵr wyneb a newid hinsawdd; mae’r Polisi’n datgan y dylai cynigion o’r fath leihau’r risg o lifogydd. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y polisïau cynllunio wedi cael eu hystyried a bod yr Awdurdod yn fodlon â’r wybodaeth a dderbyniwyd gan y datblygwr. Nid yw’r broses SuDS yn rhan o’r broses cynllunio ac mae adroddiad y Swyddog Cynllunio’n nodi bod y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) wedi cymeradwyo’r cynllun ar 16 Mai 2024 a bod ymgynghorwyr allanol wedi craffu ar y cynllun a gymeradwywyd.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais wedi cael ei ystyried yn flaenorol ar 6 Rhagfyr 2023 ac mai’r unig reswm dros wrthod y cais bryd hynny oedd bod yr wybodaeth ynglŷn a’r cynllun draenio yn annigonol. Mae’r unig reswm dros wrthod y cais wedi’i ddatrys erbyn hyn gan fod y cais SuDS wedi cael ei gymeradwyo. Roedd o’r farn bod y pwyllgor wedi cael digon o gyfle i nodi rhesymau eraill dros wrthod y cais ar yr adeg honno ac y gallai wynebu apêl pe byddai’n gwrthod y cais y tro hwn. Cynigodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Liz Wood.
Cynigodd y Cynghorydd John I Jones bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2, PCYFF 3 a PCYFF 4. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Alwen Watkin.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais y tro hwn yr un fath â’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 6 Rhagfyr 2024. Awgrymodd bod y Pwyllgor yn cael cyfnod arall o ‘gnoi cil’ er mwyn i’r swyddogion gael cyfle i fynd i’r afael â’r rhesymau a godwyd yn y cyfarfod hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans y byddai’n tynnu ei gynnig i gymeradwyo’r cais yn ôl er mwyn caniatáu cyfnod pellach o ‘gnoi cil’ i fynd i’r afael â’r rhesymau ychwanegol a godwyd gan y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.
Dywedodd y Cynghorydd John I Jones bod y cais wedi cael ei ystyried ac nad oedd yn cytuno â chael cyfnod pellach o ‘gnoi cil’. Ni chefnogwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais i’r cyfarfod nesaf gan fod ystyriaethau materol eraill wedi eu codi mewn gwrthwynebiad i’r cais, 3 sef: byddai’r cais yn achosi niwsans i gymdogion (yn groes i bolisi PCYFF 2); y byddai’r sgrinio ar y safle yn annigonol (yn groes i bolisi PCYFF 3); y byddai’n ychwanegu’n annerbyniol i draffig lleol (yn groes i bolisi PCYFF 4) a bod y fynedfa arfaethedig yn achosi perygl i ddefnyddwyr ffordd.
7.3 FPL/2023/118 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i leoli 55 o garafanau/cabannau gwyliau sefydlog, newid defnydd yr adeilad allanol i ddarparu lle golchi dillad, derbynfa a swyddfa ynghyd ag adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd barn gref y Cyngor Cymuned ynglŷn â maint y datblygiad.
Siaradwr Cyhoeddus
Fe wnaeth Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, annerch y Pwyllgor. Dywedodd bod y Wern yn safle gwyliau sydd wedi hen ennill ei blwyf ac y byddai’r Aelodau o’r Pwyllgor a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle wedi gweld y coed trwchus a’r waliau a’r cloddiau uchel sy’n cuddio’r safle o olwg y cyhoedd. Bydd rhagor o goed a gwrychoedd yn cael eu plannu ar hyd y fynedfa i wneud yn siŵr nad oes unrhyw fylchau a bydd y coed hyn yn denu bywyd gwyllt. Nododd na fydd unrhyw anheddau preswyl yn cael eu heffeithio ac mai dim ond caeau sydd o amgylch y safle. Mae safle bws wrth y fynedfa ac mae llwybr diogel yn arwain tuag ato, fel rhannau eraill o’r hen ffordd. Mae adroddiad y Swyddog Cynllunio yn nodi bod y cais yn cynnwys nifer o gyfraniadau technegol ac mae’r Swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a phob awdurdod arall yn fodlon â hwy. Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cafodd aelodau Cyngor Bro Cadnant a Seiriol eu gwahodd i ymweld â’r safle ar ddau achlysur, ond ni chafwyd ymateb. Fodd bynnag, fe wnaeth y Cynghorwyr Alun Roberts a Carwyn Jones ymweld â’r safle ar y 4ydd o Hydref a cherdded o amgylch y tir. Yn dilyn ystyriaeth, dywedasant nad oedd ganddynt wrthwynebiad, a’u bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i weld rhinweddau cudd y safle. Aeth ymlaen i ddweud bod adroddiad arbenigol sy’n cadarnhau’r angen a hyfywedd safle o’r fath. Mae llawer o gerbydau yn gyrru heibio’r safle’n gyflym, ond mae’r fynedfa a’r lleiniau gwelededd yn cydymffurfio â’r mesuriadau gofynnol, sef 215 metr i’r naill gyfeiriad. Maent yn gwbl unol â’r caniatâd a roddwyd yn ôl yn 2016 ac mae’r Adran Priffyrdd yn fodlon â hwy. Nid oes unrhyw ddamweiniau wedi bod a byddai’r Arolygydd yn cytuno pe byddai apêl. Cyfeiriodd at y ffaith nad oes effaith ar y Gymraeg gan na fydd neb yn byw ar y safle’n barhaol, dim ond ymwelwyr ar wyliau a fydd yn cyfrannu at yr economi leol. Cyfeiriodd at Amod 03 yn yr adroddiad a dywedodd bod yr ymgeisydd wedi cyfiawnhau a bodloni pob polisi perthnasol i alluogi’r Swyddogion argymell cymeradwyo’r cais.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod hwn yn gais cynllunio mawr, fel y soniwyd yn y cyfarfod diwethaf, a bu’n destun proses ymgynghori statudol cyn cyflwyno’r cais. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored o dan ddarpariaethau polisi PCYFF 1 yn y Cynllun Datblygu Lleol. Y brif ystyriaeth polisi ar gyfer y safle yw Polisi TWR 3 yn y CDLlC. At ei gilydd, mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r polisi ac mae’r rhesymau wedi cael eu nodi’n fanwl ac yn gynhwysfawr yn yr adroddiad. O dan bolisi TWR 3 caniateir datblygiadau y tu allan i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Ardaloedd Tirwedd Arbennig a dim ond os ydynt yn cydymffurfio â meini prawf (i) i (iiI). Mae Maen Prawf (i) yn nodi bod rhaid profi na fydd y cynnig yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu safleoedd sialé neu safleoedd llety gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol. Er bod y cynnig yn ‘ddatblygiad mawr’ mae’n gydnaws â’r amgylchedd adeiledig/gorchudd tir trefol sy’n bodoli’n barod. Mae’r safle wedi’i guddio’n dda o’r A5025. Mae Maen Prawf (ii) ym mholisi TWR 3 yn mynnu y dylai’r datblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi’i guddio’n dda. Mae’r safle’n cael ei guddio’n dda iawn gan goetir a choed eraill o gwmpas y safle. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gweithio gyda’r ymgeisydd i sicrhau fod cynllun tirlunio effeithiol wedi’i gyflwyno a’i fod yn gynllun y gellir ei wireddu. Mae’r cynnig yn cynnwys plannu coed ar y safle, creu dôl blodau gwyllt, glaswellt amwynder, mewnlenwi gwrychoedd lle bod angen, yn ogystal â phlannu coetir helaeth mewn dwy brif ardal. Mae’r cynllun plannu’n un y gellir ei wireddu a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth ac ecoleg. Er y bydd rhai coed yn cael eu torri, fel y nodir yn yr Adroddiad Effaith ar Goedyddiaeth, mae’r rhan fwyaf o’r coed yma’n goed ynn sy’n dangos arwyddion o glefyd coed ynn. Bydd coed newydd yn cael eu plannu i wneud yn iawn am y coed a gollir, yn ogystal â gwaith tirlunio ar y safle. Gosodir amod ar y caniatâd i sicrhau fod manylion llawn am yr holl goed newydd yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn bod gwaith yn dechrau ar y safle. Bydd yr holl fesurau lliniaru ecolegol yn cael eu cynnwys mewn amodau ac ystyrir y bydd y cynnig yn arwain at fuddiannau ecolegol cadarnhaol ar y safle. Mae Maen Prawf (iii) yn nodi y dylai’r safle fod yn agos at y prif rwydwaith ffyrdd ac y gellir darparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Ceir mynediad i’r safle trwy’r fynedfa bresennol i gerbydau ac mae yna lain gwelededd o 215m i’r ddau gyfeiriad. Mae angen gwneud ychydig bach o waith ar y fynedfa i sicrhau fod y lled yn 5.5m. Ni fydd y gwaith yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion a phriodweddau’r dirwedd. Bydd y datblygiad yn cael ei gysylltu â system trin carthion newydd gyda system hidlo gwely cyrs i wella ansawdd dŵr cyn ei ollwng i’r amgylchedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r wybodaeth a ddarparwyd gyda’r cais cynllunio ac ni chodwyd unrhyw bryderon. Er hyn bydd rhaid cael trwydded Amgylcheddol bwrpasol yn ychwanegol i unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir. Oherwydd maint y cynnig, bydd rhaid i’r ymgeisydd wneud cais i’r Bwrdd Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) am ganiatâd cyn dechrau’r gwaith adeiladu.
Aeth y Rheolwr Gorfodi Cynllunio ymlaen i ddweud bod gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd, yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, pan fydd yn penderfynu ar gais cynllunio, i ystyried y Gymraeg lle mae’n berthnasol i’r cais hwnnw. Caiff hyn ei gefnogi hefyd mewn Polisïau Cynllunio a nodiadau cyngor technegol cysylltiedig. Cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg i gefnogi’r cais Cynllunio. Mae Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor wedi darparu sylwadau ac nid oes ganddi wrthwynebiad i’r cais. Bydd rhaid i’r holl arwyddion ar y safle fod yn ddwyieithog, gan roi blaenoriaeth i’r Gymraeg, ac mae’r asiant wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â hynny. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn amod i sicrhau fod y datblygiad yn cydymffurfio â’r gofyn hwn. Derbyniwyd 10 llythyr a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig ac un o blaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nid oes gan safle’r cais unrhyw gymdogion agos. Yr anheddau agosaf yw Merddyn y Groes sydd tua 305m o’r safle a Phorthdy Treffos sydd tua 320m o’r safle. Mae’r safle teithwyr tua 480m i gyfeiriad y De Orllewin. Oherwydd y defnyddiau tir a geir rhwng y safle ac eiddo preswyl cyfagos, yn ogystal â’r coetir aeddfed a’r caeau, ystyrir bod y datblygiad wedi’i leoli’n ddigon pell oddi wrth yr eiddo preswyl a ni fydd yn cael effaith andwyol ar eu mwynderau preswyl. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol ac ar ôl ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol a ddisgrifir yn yr adroddiad bernir ei fod yn dderbyniol. Mae safle’r cais mewn lleoliad cynaliadwy ac mae llwybr cyhoeddus yn croesi’r safle, gan gysylltu’r safle â Llandegfan a Phorthaethwy. Lleolir rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy gerllaw sy’n rhoi mynediad i Borthaethwy lle ceir amrywiaeth o siopau, bwytai ac atyniadau ymwelwyr. Bydd y datblygiad yn cael ei leoli ar dir isel, tir amaethyddol is-radd 3b yn bennaf yn ôl y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, wedi’i amgylchynu gan goed a gwrychoedd. Mae cynllun tirlunio a phlannu coetir sylweddol yn rhan o’r cais a fyddai’n gwella bioamrywiaeth ac yn cuddio’r datblygiad hyd yn oed yn well o’r llwybr cyhoeddus.
Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol.
Roedd y datganiad yn nodi bod y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol yn gwrthwynebu’r cais. Rhaid cael atebion i nifer o gwestiynau cyn penderfynu ar y cais. Yn gyntaf, a fydd y fynedfa o’r brif ffordd yn ddiogel wedi iddi gael ei haddasu gan y bydd rhwng 50 a 100 o geir yn mynd a dod o’r safle bob dydd ar wahanol adegau, yn cynnwys wedi iddi dywyllu. Fe all damweiniau gynyddu’n sylweddol. Mae nifer o ddamweiniau eisoes wedi digwydd ar y ffordd heibio’r safle, ac roedd un damwain angheuol nid nepell o’r fynedfa i’r safle. Bydd rhaid i’r ymwelwyr ddefnyddio eu ceir gan nad oes siopau a gwasanaethau gerllaw. Mae’r safle bws yn bell ac nid yw’r llwybr yn addas felly ni fydd modd iddynt gerdded ar y ffordd. Cafodd cais tebyg ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a chafod yr apêl ei wrthod hefyd. Rhaid cwestiynu pam bod angen datblygiad mor fawr ac a yw’r cynnig yn gwneud y defnydd gorau o dir amaethyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol, ei fod wedi ymweld â’r safle â’i gyd aelod lleol, y Cynghorydd Alun Roberts, ar ôl cael gwahoddiad i edrych ar y cynlluniau a’r safle'r llynedd. Fodd bynnag, roedd yn dymuno cywiro sylwadau’r Asiant nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais a’u bod wedi dweud eu bod yn ei gefnogi. Dywedodd bod gan y Cyngor Cymuned bryderon a holwyd yr ymgeisydd yn ystod yr ymweliad safle ynglŷn â’i fwriad a phryd y bydd y safle’n barod, a’r cynllun buddsoddi pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Roedd yn derbyn bod y safle wedi cael ei guddio’n dda, fodd bynnag roedd yn cwestiynu pam fod angen 55 o garafanau ac a fyddai safle o’r fath yn gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Alwen Watkin bod ganddi bryderon ynglŷn â’r fynedfa i’r safle a’r ffaith nad oes palmant, dim ond llain werdd, ar hyd y ffordd tuag at Borthaethwy. Dywedodd bod llawer o draffig ar yr A5025 a bod ceir yn teithio’n gyflym. Roedd yn cwestiynu pam bod angen 55 o garafanau ac yn poeni am effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg yn lleol. Roedd y Cynghorydd Watkin hefyd yn cwestiynu diffiniad yr adran o bolisi TWR 3 yn gysylltiedig â gormodedd o ddatblygiadau tebyg yn lleol gan fod nifer o ddatblygiadau tebyg ar Ynys Môn, yn enwedig ar hyd yr arfordir.
Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio at y sylwadau ynglŷn â’r fynedfa a nododd bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi bod yn rhan o‘r ymgynghoriad ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad gan fod llain welededd o 215 metr i’r naill gyfeiriad yn dderbyniol ar gyfer y safle hwn. Mewn perthynas â’r angen, dywedodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod achos busnes cadarn wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais a bod asiantaethau eraill yn cefnogi’r cynllun. Nododd bod yr Uned Polisi Cynllunio wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad a’u bod yn fodlon bod y cynllun yn cydymffurfio â’r holl bolisïau cynllunio perthnasol.
Roedd y Cynghorydd R Ll Jones yn dymuno cael gwybod faint o goed fyddai’n cael eu torri ac effaith hynny ar gynefinoedd. Er ei fod yn derbyn y bydd nifer o goed newydd yn cael eu plannu ar y safle, dywedodd y bydd yn cymryd amser iddynt aeddfedu. Nododd bod y Cyngor yn anelu i fod yn gyngor net sero erbyn 2030 a’i bod hi’n bwysig bod adroddiadau’n nodi effaith datblygiadau o’r fath ar yr amgylchedd. Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i sôn am effaith y datblygiad ar y Gymraeg. Dywedodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi ymrwymo i blannu gwrychoedd a choed ar y safle a fydd yn sicrhau gwelliannau i fioamrywiaeth. Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn ag effaith y cynnig ar y Gymraeg, unwaith eto dywedodd bod Datganiad Iaith Gymraeg wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais a bod Ymgynghorydd Iaith Gymraeg y Cyngor wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac na chodwyd unrhyw bryderon ynglŷn ag effaith negyddol y cynnig ar y Gymraeg.
Roedd y Cynghorydd Robin Williams hefyd yn poeni am y fynedfa i’r safle gan fod llawer o draffig ar yr A5025. Mae ceir yn teithio’n gyflym yn y fan yma ac mae nifer o ddamweiniau wedi bod dros y blynyddoedd, un neu ddau ohonynt yn angheuol yn anffodus. Cyfeiriodd at gais tebyg yn ardal Caergeiliog a wrthodwyd rai blynyddoedd yn ôl oherwydd bod y safle’n anghynaladwy. Dywedodd ei fod yn cael trafferth deall pam fod y Swyddog yn argymell cymeradwyo’r cais gan nad oes llwybr na phalmant i’r safle bws na’r cyfleusterau ym Mhorthaethwy.
Dywedodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig bod y canllawiau perthnasol yn nodi bod gwelededd o 215m yn ddigonol ar gyfer priffyrdd â therfyn cyflymder o 60mya. Nid oedd y damweiniau a’r ddamwain angheuol yn gysylltiedig â'r fynedfa i’r safle.
Cynigodd y Cynghorydd Jackie Lewis bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Liz Wood.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gwrthod am nad ydi’r fynedfa’n addas ar gyfer datblygiad mor fawr, a chan nad yw mewn lleoliad cynaliadwy. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Alwen Watkin.
Yn dilyn y bleidlais roedd 5 o blaid cymeradwyo’r cais a 6 yn erbyn:-
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd nad yw’r fynedfa i’r lleoliad yn ddigonol i wasanaethu datblygiad o’r maint hwn a chan nad yw’r datblygiad mewn lleoliad cynaliadwy.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Swyddogion i ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.)
Dogfennau ategol: