Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 - FPL/2023/339 – Lane Ends, Llaneilian

FPL/2023/339

                                        

12.2 – FPL/2024/43 – Mynwent y Rhyd, Cemaes

FPL/2024/43

 

12.3 – VAR/2024/26 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.

VAR/2024/26

 

12.4 – FPL/2023/181 - Shirehall, Lon Glanhwfa, Llangefni.

FPL/2023/181       

 

12.5 – FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl

FPL/2024/64

 

12.6 – HHP/2024/56 - 2 Saith Lathen, Ty Croes

HHP/2024/56

 

12.7 – FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.

FPL/2024/40

 

12.8 – FPL/2024/60 - Cae Pêl Droed Bae Trearddur

FPL/2024/60

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2023/339 – Cais llawn ar gyfer newid dyluniad yr adeilad a chais ôl-weithredol ar gyfer gosod cyfleuster parod i drin carthffosiaeth yn y storfa gychod ar dir ger Lane Ends, Llaneilian

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon am orddatblygu a phryderon lleol am  y cais .

 

Siaradwyr Cyhoeddus

Siaradodd Mr Dafydd Griffiths, a oedd yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llaneilian, yn erbyn y cais. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r cais gwreiddiol i godi storfa gychodd i’w defnyddio’n gysylltiedig â’r eiddo domestig yn Lane Ends. Roedd yr adeilad i fod yn adeilad o ansawdd uchel gyda storfa gychod deulawr a gweithdy a lle storio uwch ben. Pan adeiladwyd yr adeilad  nid oedd yn edrych fel ‘storfa gychod’ o gwbl ac roedd yn edrych yn wahanol iawn i’r cynlluniau a ganiatawyd yn wreiddiol.  Mae’r Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r ddau gais a gyflwynwyd i gadw’r newidiadau. Cyflwynodd y Cyngor Cymuned sylwadau i PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) fel rhan o’r broses apêl.  Gwrthodwyd apêl yr ymgeisydd i gadw’r newidiadau i’r cais cynllunio gwreiddiol. Ar ôl derbyn y cais cynllunio hwn i newid y dyluniad fe aeth y Cyngor Cymuned ati i baratoi dwy ddogfen fanwl. Roedd yr ail ddogfen yn cael ei defnyddio i ddiweddaru’r gyntaf wrth i fwy o wybodaeth ddod i law. Roedd y ddogfen yn cynnwys sylwadau, gwrthwynebiadau i rai agweddau penodol, newidiadau a oedd yn dderbyniol, dau amod i’w hystyried, a cheisiadau’n gofyn am eglurhad a sicrwydd. Gofynnodd y Cyngor Cymuned pe byddai modd i’r holl sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cais gael eu rhannu’n llawn â’r Pwyllgor Cynllunio, yn hytrach na dim ond crynodeb.  Roedd y Cyngor Cymuned yn deall nad yw hyn yn digwydd fel arfer a bod aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gweld crynodeb o’r sylwadau yn y pecyn adroddiadau. Fel ymgynghorai statudol mae’r Cyngor Cymuned yn siomedig nad yw’r Pwyllgor Cynllunio wedi cael gweld y ddogfen yn llawn. Mae’r Cyngor Cymuned yn poeni am ddwy agwedd yn gysylltiedig â’r newidiadau i ddyluniad yr adeilad – yr ardal storio cychod a’r ramp i’r adeilad. Er bod crynodeb cyffredinol y Cyngor Cymuned yn nodi’r materion a’r sylwadau a godwyd nid yw’n cynnwys agwedd bwysig ar ymateb y Cyngor Cymuned i’r ardal storio cychod. Mae ymateb ffurfiol y Cyngor Cymuned i’r Cais Cynllunio yn nodi:- “Yn weledol roedd cael prif ddrws mor fawr a llydan i’r storfa gychod yn elfen bwysig o’r cais gwreiddiol. Mae’r Cyngor Cymuned o’r farn nad yw’n dderbyniol, yn weledol nac yn ymarferol, lleihau maint y drws a chael gwared ar y gofod am y rhesymau a amlinellwyd gan yr arolygydd cynllunio yn ystod yr apêl.”

 

Nid yw’r crynodeb yn nodi bod y Cyngor Cymuned wedi dyfynnu o ddogfen penderfyniad apêl PEDW i gefnogi gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r elfen hon. Mae’r Cyngor Cymuned o’r farn y dylai’r Swyddogion a’r Pwyllgor Cynllunio roi cryn bwys ar sylwadau Arolygydd PEDW, Claire MacFarlain, ynglŷn â’r effaith y byddai lleihau maint y drws a chael gwared ar y gofod yn ei gael ar allu’r ymgeisydd i ddefnyddio’r adeilad fel storfa gychod yn y dyfodol.   Mae’r hanes cynllunio yn gysylltiedig â’r safle hwn yn cynnwys ceisiadau a phenderfyniadau apêl blaenorol ac mae’n bwysig bod cysondeb wrth wneud penderfyniadau. Mae’r Cyngor Cymuned o’r farn y dylai aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gael gweld copi o ddogfen penderfyniad apêl PEDW fel eu bod yn gyfarwydd â’i chynnwys cyn dod i benderfyniad. Yn olaf, mae’r Cyngor Cymuned wedi dod yn ymwybodol o wybodaeth bellach ynglŷn â’r fynedfa i’r storfa gychod. Mae’r Swyddog Cynllunio yn nodi yn y pecyn adroddiadau: “Mae lefelau’r safle ar y cynllun safle arfaethedig yn dangos gwahaniaeth o 150mm mewn uchder rhwng lefel orffenedig llawr yr adeilad a’r safle cyfagos, ac mae’r safle’n gostwng yn raddol ym mhob cyfeiriad ymhellach oddi wrth yr adeilad. Ni ystyrir y bydd y step 150mm o uchder yn effeithio ar ddefnydd yr adeilad, ac mae’r ymgeisydd yn cynnig defnyddio ramp dros dro i gael mynediad. Defnydd anfynych fydd yn cael ei wneud o’r adeilad felly ystyrir bod hyn yn briodol a bydd yn caniatáu i’r adeilad gael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd, sef storio cychod”. Mae’r Cyngor Cymuned yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio ei benderfyniad hyd nes y bydd yr aelodau’n gyfarwydd â’r holl wybodaeth. 

 

Siaradodd Mr Dafydd Jones, Asiant yr Ymgeisydd, o blaid y cais, a chyfeiriodd at y cais gwreiddiol a gymeradwywyd yn 2019, cyfeirnod 24C352, a oedd wedi’i gyflwyno gan y perchennog gwreiddiol.  Y defnydd a gafodd ei gymeradwyo bryd hynny oedd newid defnydd y padog i dir preswyl a chodi storfa gychod/garej a gweithdy. Ers i’r tir newid dwylo mae’r perchnogion newydd wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio i newid edrychiad a gosodiad mewnol yr adeilad a chynnwys ystafell cawod a thoiled yn ogystal â gosod tanc trin carthion preifat fel y gallant wneud defnydd gwell a mwy cyffyrddus o’r adeilad. Pwysleisiodd nad yw’r ymgeiswyr erioed wedi ceisio newid defnydd yr adeilad mewn unrhyw gais cynllunio a’u bod yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r adeilad fel storfa gychod a gweithdy. Nid yw’r ymgeiswyr wedi cynnig newid maint allanol na chyfaint yr adeilad mewn unrhyw gais cynllunio chwaith. Maent o’r farn bod ychwanegu ystafell ymolchi a thoiled yn dderbyniol gan nad ydy’r cyfleusterau cyhoeddus gerllaw ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae’r tanc trin carthion preifat sydd wedi ei gynnwys fel rhan o’r cais cynllunio o’r math lleiaf sydd ar gael ar y farchnad o ran maint a chynhwysedd. Gan y bydd yr ymgeiswyr yn defnyddio cychod ac ati ar y môr gyferbyn â’r safle byddant angen lle i ymolchi ar ôl dod allan o’r dŵr. Ers i’r pryderon ynglŷn â’r defnydd a’r newidiadau i’r adeilad ddod i’r amlwg maent wedi gweithio’n agos gyda’r adran gorfodaeth cynllunio a’r swyddogion cynllunio i geisio dod i ddatrysiad boddhaol ar gyfer yr adeilad. Nod y cydweithrediad hwn yw sicrhau bod yr adran cynllunio yn hapus bod yr adeilad yn cael ei adeiladu mor agos â phosibl i’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol ac mai dim ond fel storfa gychod a gweithdy y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio. Mae pryderon wedi cael eu codi gan y Cyngor Cymuned ynglŷn â’r defnydd a fydd yn cael ei wneud o’r adeilad, maint y tanc trin carthion preifat a nifer y llefydd parcio ar gyfer yr adeilad. Mae’r ymgeiswyr yn deall yn llwyr na ddylent ddefnyddio’r adeilad fel unrhyw beth ar wahân i storfa gychod a gweithdy, mae’r tanc trin carthion o’r math lleiaf sydd ar gael ar y farchnad, mae’r llefydd parcio wedi cael eu symud ac mae’r gris isaf yn angenrheidiol i atal dŵr wyneb rhag mynd i mewn i’r adeilad gan ei fod ar yr arfordir. Mae dyfnder yr adeilad, 5.3 metr, yn golygu mai dim ond dingis, cychod rib a chaiacau fydd yn gallu cael eu cadw yn yr adeilad ac felly nid oes angen  drysau mawr. Bydd offer hwylio arall yn cael ei storio yn y storfa gychod hefyd. Mae angen digon o le i droi cychod ar drelar ac i barcio’r trelar ar y safle pan na fydd yn cael ei ddefnyddio. Mae’r adran gorfodaeth cynllunio a’r adran cynllunio o’r farn bod hyn yn foddhaol ac maent yn argymell cymeradwyo’r cais.    Mae’r ymgeiswyr wedi derbyn cyngor ac maent yn deall  y bydd yr adran gorfodaeth cynllunio’n cyflwyno rhybudd pe byddent yn defnyddio’r adeilad fel unrhyw beth ar wahân i storfa gychod a gweithdy. Maent hefyd yn deall pe baent yn cyflwyno cais cynllunio yn y dyfodol i ddefnyddio’r adeilad fel unrhyw beth ar wahân i storfa gychod a gweithdy, y byddai’r cais yn cael ei wrthod. Mae’r ymgeiswyr yn ymwybodol eu bod wedi gwneud camgymeriad drwy osod drysau a ffenestri gwydr yn yr adeilad. Maent wedi cyflwyno cais cynllunio digon teg i newid edrychiad allanol yr adeilad fel ei fod yn debycach i’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol a chynnwys ystafell ymolchi yn yr adeilad. Maent wedi disgyn ar eu bai ac wedi gweithio’n agos â’r adran cynllunio a’r adran gorfodi cynllunio i ddod i ddatrysiad rhesymol.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn ymwneud ag adeilad deulawr sydd wedi’i leoli ar ddarn o dir i’r gorllewin o’r annedd a elwir yn Lane Ends, ar gyrion anheddle Llaneilian. Rhoddwyd caniatâd ar gyfer y storfa gychod  yn 2019 er na chafodd ei adeiladu’n unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd. Yn dilyn ymchwiliad gorfodi a arweiniodd at gyflwyno Hysbysiad Tor Amod, cyflwynwyd cais diwygiedig mewn ymgais i reoleiddio’r newidiadau. Fodd bynnag gwrthodwyd y cais. Apeliwyd yn erbyn y penderfyniad ond cafodd yr apêl ei wrthod.

Mae’r cais presennol yn ceisio newid dyluniad allanol yr adeilad i adlewyrchu’r adeilad pwrpasol a gymeradwywyd yn wreiddiol ar y safle. Bydd amod ynghlwm ag unrhyw ganiatâd i sicrhau bod yr holl waith adeiladu’n cael ei gwblhau cyn pen dwy flynedd. O ran effaith y cynnig ar fwynderau preswyl, mae’r egwyddor o ddatblygu storfa gychod ar y safle eisoes wedi cael ei sefydlu. Bydd yn dal i gael ei ddefnyddio fel storfa gychod ac ni fydd yn cael dim mwy o effaith na’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol. Hefyd, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad wrth hysbysebu’r cynnig. O ran priffyrdd nid oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r newidiadau arfaethedig i’r fynedfa i gerbydau. Bydd y newidiadau’n gwella’r fynedfa ac yn darparu lle parcio newydd ar y safle. Yn sgil y cyngor diweddaraf ym Mhennod 6 ym Mholisi Cynllunio Cymru mae’r cais yn cynnig gwelliannau bioamrywiaeth a bydd amodau’n cael eu gosod i sicrhau bod y mesurau ecolegol a gwaith tirweddu’n cael eu cwblhau cyn dechrau defnyddio’r adeilad ac yn ystod y tymor plannu cyntaf, yn y drefn honno. Hefyd, bydd amod yn cael ei gosod i   sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel storfa gychod at ddefnydd preifat yn unig. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, bod pryder mawr ynglŷn â’r cais yn ardal Llaneilian gan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac y gallai gael ei ddefnyddio fel anecs preswyl yn y dyfodol.  Er ei fod yn derbyn y bydd amodau ynghlwm ag unrhyw ganiatâd,  gofynnodd i’r Pwyllgor ohirio’r cais i roi cyfle iddynt weld yr holl wybodaeth cyn dod i benderfyniad ffurfiol yn unol â chais y Cyngor Cymuned. Nododd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i gadw’r ffenestri  a bod y cais hwnnw wedi cael ei wrthod. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod yr Adain Gorfodi Cynllunio wedi bod ar flaen y gad ers i’r cais ôl-weithredol gael ei gyflwyno. Nododd bod clai wedi cael ei dynnu o’r safle a’i symud i’r traeth yn anghyfreithlon. Roedd rhaid cymryd camau gorfodi i ddelio â’r gwastraff yn briodol. Daeth yr Awdurdod Cynllunio i wybod nad oedd yr addasiadau i’r adeilad yn unol â’r cynlluniau a ganiatawyd a chyhoeddwyd hysbysiad tor amod. Apeliodd yr ymgeisydd yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod, ond fe wnaeth yr Arolygiaeth Cynllunio, PEDW, wrthod apêl yr ymgeisydd i gadw’r addasiadau. Mae’r cais sydd gerbron y Pwyllgor yn debyg i’r cais a gymeradwywyd yn wreiddiol. Mae’r ymgeisydd yn ceisio newid dyluniad yr adeilad, fel ei fod yn edrych yn debycach i storfa gychod. Mae lefelau’r safle ar y cynllun safle arfaethedig yn dangos gwahaniaeth o 150mm mewn uchder rhwng lefel orffenedig llawr yr adeilad a’r safle cyfagos, ac mae’r safle’n gostwng yn raddol ym mhob cyfeiriad ymhellach oddi wrth yr adeilad. Dywedodd bod y fynedfa newydd yn dderbyniol yn ôl yr Awdurdod Priffyrdd, ac bernir y bydd cynyddu lefelau’r safle yn sicrhau mynediad digonol i’r storfa gychod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol, y dylid gwrando ar bryderon y Cyngor Cymuned cyn dod i benderfyniad ynglŷn â’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ddarllen adroddiad PEDW.  Eiliwyd y cynnig i ohirio’r cais gan y Cynghorydd Robert Ll Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn galluogi’r Pwyllgor i weld adroddiad PEDW cyn gwneud penderfyniad.

 

12.2  FPL/2024/43 Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i greu estyniad i'r fynwent bresennol ym Mynwent Y Rhyd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y safle ym meddiant y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y safle gerllaw’r fynwent a’r ffin ddatblygu, a bod y cais yn addas o ran ei faint a’i natur a’i bod hi’n hawdd cyrraedd y safle ar droed, beic a chludiant cyhoeddus, ac felly mae’n cydymffurfio â’r darpariaethau ym meini prawf Polisi ISA 2 sef y prif bolisi i’w ystyried mewn perthynas â’r cais hwn. Cydnabyddir bod y safle’n dir amaethyddol Gradd 3a, serch hynny mae’r angen ar gyfer y datblygiad yn drech na’r ystyriaethau amaethyddol gan nad oes llawer o blotiau claddu ar ôl yn y fynwent.

 

Cynigodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo, ac eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  VAR/2024/26 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (03) (Ecolegol), (05) (Dylunio tirlunio) a (09) (Cynlluniau Cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/141 (newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej) er mwyn caniatáu diwygio lleoliad y sied sydd a ganiatawyd a thorri coed y tu ôl i'r adeilad yn Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y cais Cynllunio gwreiddiol FPL/2023/141 wedi cael ei gymeradwyo ganddo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod yr adroddiad coedyddiaeth a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio yn datgan bod nifer o’r coed yn goed sydd wedi aildyfu a’u bod mewn cyflwr gwael. Mae’r Ecolegydd hefyd wedi cadarnhau bod cael gwared ar ddwy goeden yng nghefn y safle yn annhebygol o gael effaith andwyol sylweddol yn yr hirdymor ar statws gwarchodaeth ffafriol yr ystlumod yn yr ardal. Mae’r ymgeiswyr hefyd yn gofyn am ganiatâd i ddiwygio amod (09) o’r cais a gymeradwywyd yn flaenorol er mwyn symud y garej / sied 1 metr tua’r ffin ddwyreiniol a deheuol. Mae’r garej yn llai ac yn mesur 4m x 7m, gydag ôl troed o 28 metr sgwâr y hytrach na 30.2 metr sgwâr. Mae’r cais yn cynnig plannu gwrych ychwanegol ynghyd â gosod dau focs ystlumod a dau focs adar ar y sied / garej.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd John I Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2023/181 - Cais llawn ar gyfer codi 6 uned breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol oherwydd pryderon yn lleol ynglŷn â gorddatblygu yr angen am yr unedau hyn, diffyg pario a’r fynedfa i’r safle.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Geraint Bebb ac Aelod Lleol am Ymweliad Safle oherwydd pryderon yn lleol ynglŷn â’r fynedfa gul i’r safle.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle’n cael ei gynnal ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John I Jones. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.5  FPL/2024/64 – Cais lawn i ddymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd newydd a chadw’r fynedfa newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tynygongl

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ar effaith y cynnig ar eiddo preswyl, ei effaith weledol, a maint yr annedd arfaethedig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6  HHP/2024/56 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 2 Saith Lathen, Tŷ Croes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ynglŷn â pharcio, adeiladu dros ddraeni a gorddatblygu’r safle.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Neville Evans a Douglas M Fowlie wedi gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

Cynigodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod ymweliad safle’n cael ei gynnal ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

 

12.7  FPL/2024/40 – Cais llawn ar gyfer lleoli cynwysyddion storio ar yr iard ar dir yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Neville Evans a Douglas M Fowlie wedi gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.8  FPL/2024/60 – Cais llawn ar gyfer lleoli caban lluniaeth yng Nghae Pêl Droed Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Awdurdod Lleol sy’n berchen ar y safle.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais hwn i osod cynhwysydd ar  safle Clwb Pêl-droed Bae Trearddur i’w ddefnyddio fel caban bwyd a diod  yn dderbyniol o ran maint, bydd yn integreiddio gyda'r pafiliwn sydd ar y safle ac ni fydd yn cael effaith negyddol ar yr hyn sydd o’i gwmpas a’r amgylchedd naturiol gan y bydd ei orffeniad o ansawdd dda. Bydd yn darparu cyfleusterau bwyd a  diod i’r bobl sy’n defnyddio’r cae pêl-droed a bydd yn darparu gwelliannau bioamrywiaeth ac yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol. Bydd dau focs adar yn cael ei osod ar y cynhwysydd a bydd unrhyw oleuadau allanol yn cydymffurfio â’r gofynion awyr dywyll.

 

Cynigodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd John I Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: