Eitem Rhaglen

Cyflwr economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a’r achos dros fuddsoddi a chymorth

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Adroddiad Effaith Economaidd-Gymdeithasol Gogledd Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fel sail dystiolaeth i nodi'r sefyllfa a'r heriau presennol sy'n wynebu Gogledd Ynys Môn yn ogystal ag uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer buddsoddi i fynd i'r afael â'r heriau economaidd-gymdeithasol penodol yn yr ardal. Mae Gogledd yr Ynys wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd wrth i fusnesau cyflogi mawr gau, wrth golli swyddi o ansawdd da ac wrth i siaradwyr Cymraeg a phobl o oedran gwaith adael yr ynys gan adael ar ei hôl boblogaeth sy'n heneiddio ac economi sydd mewn trafferthion. Er bod Gogledd Ynys Môn yn cynnwys traean o'r Ynys, mae gan yr ardal lai na 10% o'r holl swyddi yn Ynys Môn ac mae ei thref fwyaf, Amlwch, o fewn y 30% uchaf o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth gadarn a chyfiawnhad dros ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y materion, yr heriau a'r cyfleoedd o ran Gogledd Ynys Môn ac i ddadlau dros fuddsoddi a chymorth i fynd i'r afael â dirywiad economaidd yr ardal.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd, er bod yr adroddiad wedi'i lunio o safbwynt datblygu economaidd, ei fod yn berthnasol i holl wasanaethau'r Cyngor a’i fod yn bwysig felly bod unrhyw ymyriadau/atebion yn cael eu gwneud ar sail Cyngor cyfan a bod y Cyngor hefyd yn parhau i ymgysylltu'n agos â Llywodraethau Cymru a San Steffan a gyda phartneriaid strategol eraill i fwrw ymlaen â'r mater hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi cymryd y cam beiddgar o ddod â'r heriau sy'n wynebu Gogledd Ynys Môn i sylw'r cyhoedd mewn adroddiad sy'n ddeunydd darllen  dyrys iawn. Er bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech gyda'r adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r sefyllfa yng Ngogledd Ynys Môn, mae ystyriaethau polisi ar lefelau llywodraeth Cymru a'r DU a thrwy'r NDA sy'n ymestyn y tu hwnt i gyrhaeddiad y Cyngor. Mae'r llythyr arfaethedig at Lywodraeth Cymru yn bwysig ac mae angen ei gylchredeg yn fwy eang a chynnal trafodaethau brys am y sefyllfa er mwyn osgoi dirywiad pellach. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Ynys Môn hefyd yn gysylltiedig â newid o ran demograffeg a cholli trigolion rhwng 25 a 50 oed dros y degawd diwethaf a fydd, os bydd y tueddiad yn parhau, yn arwain at oblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae'n gofyn am gynllun strategol i nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr ardal gan ystyried anghenion y genhedlaeth nesaf. Mae'r Cyngor, drwy gyhoeddi'r adroddiad a'r asesiad o'r materion, yn cymryd y dull strategol hwnnw gyda'r nod o ddod â'r sefydliadau perthnasol ynghyd i osod amcanion a sicrhau y bydd y penderfyniadau a wneir yn creu dyfodol gwell i'r genhedlaeth nesaf yng Ngogledd Ynys Môn. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Gwaith fod Gogledd Ynys Môn yn ardal sydd angen sylw a’i bod yn adlewyrchu'r dirywiad sy’n gallu digwydd pan fydd busnesau'n cau, cyfleoedd gwaith yn lleihau a phobl yn symud allan o'r ardal yn sgil hynny. Mae'r dystiolaeth a'r data a gasglwyd yn darparu sail ar gyfer cymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â'r problemau yng Ngogledd Ynys Môn ac i hybu’r gwaith o adfywio’r ardal.

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi Adroddiad Effaith Economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a chynnwys yr adroddiad fel ei fod yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa bresennol, y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau.

·         Cefnogi’r Arweinydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r materion, heriau a chyfleoedd.

·         Cefnogi gweithgareddau parhaus y Cyngor i nodi a sicrhau cyllid allanol i hwyluso gweithgareddau adfywio yn y dyfodol.

·         Sicrhau bod Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn defnyddio’r data sydd yn yr Adroddiad Effaith i wneud penderfyniadau gwybodus fel Cyngor llawn i gyflawni Cynllun y Cyngor (2023-2028).

 

 

Dogfennau ategol: