Eitem Rhaglen

Alldro Cyfalaf 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 sy'n destun archwiliad i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a roddodd grynodeb o'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn unol â pharagraff 1.2 yr adroddiad. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £67.788m, o'r swm hwnnw, gwariwyd £50.574m neu 75% ohono hyd at 31 Mawrth 2024 gan roi tanwariant o £17.214m.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bwysigrwydd arian grant yn rhaglen gyfalaf y Cyngor, gyda 63% o'r gyllideb a 59% o'r gwariant gwirioneddol yn cael ei ariannu gan grantiau cyfalaf - rhai ohonynt yn cael eu sicrhau drwy broses gystadleuol. Nid yw lefel y tanwariant ar y rhaglen yn annisgwyl o ystyried nifer y prosiectau mawr, cymhleth dan sylw ac mae'r rhan fwyaf o'r tanwariant yn ymwneud â phrosiectau mawr lle mae materion neu oedi annisgwyl wedi digwydd gan achosi i brosiectau lithro; darperir trosolwg o'r prosiectau hyn ym mharagraff 2.2 o'r adroddiad. Mae'r cyllid ar gyfer y prosiectau hyn wedi'i sicrhau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 ac ni fydd y Cyngor yn colli adnoddau. Fodd bynnag, mae disgwyl i danwariant ar y Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru. Eglurodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai nad oedd yn bosibl cydymffurfio â thelerau ac amodau'r grant oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor sy'n cynnwys gwaith yn gysylltiedig â RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd i ddwyn y tanwariant ymlaen ond ni chafodd ei gymeradwyo.

 

Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor yn dibynnu ar arian grant ar gyfer cyfran uchel o'i gynlluniau cyfalaf a diolchodd i'r Swyddogion am neilltuo eu hamser a’u gwaith yn cystadlu am nifer o'r grantiau sy'n allweddol i gynnal rhaglen gyfalaf y Cyngor. Er i'r aelodau bwysleisio pwysigrwydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd grant, nodwyd hefyd y gall nifer o grantiau a ddyfernir fod at ddiben penodol ac ar gyfer prosiectau nad ydynt efallai'n flaenoriaeth i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, pan fo grantiau'n cael eu dyfarnu drwy broses gystadleuol, fod angen amser, arbenigedd ac elfen o fenter gan Swyddogion i nodi cyfleoedd a sicrhau'r cyllid yn ogystal â rheoli'r gwariant ar ôl hynny. Fodd bynnag, wrth i'r Cyngor gwtogi capasiti, mae perygl y bydd llai o gapasiti ac arbenigedd i ymgeisio am grantiau yn y dyfodol a fydd yn golygu bod angen rheoli disgwyliadau ac efallai y bydd yn rhaid blaenoriaethu'r grantiau y mae'r Cyngor yn cystadlu amdanynt.

 

Penderfynwyd –

 

  • Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2023/24 fydd yn destun Archwiliad.
  • Cymeradwyo dwyn ymlaen £15.499m i 2024/25 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yw £59.337m.

 

 

Dogfennau ategol: