Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyda manylion y canfyddiadau a wnaed yn ystod yr adolygiadau o gofrestrau buddiannau ar gyfer sampl o aelodau etholedig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar Adolygiad o'r Cofrestrau Diddordebau ar gyfer aelodau etholedig.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod yr adolygiadau wedi'u cynnal ym mis Ionawr 2024 gan y 5 aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau. Dilynodd yr aelodau annibynnol y ddogfen ganllaw a ddatblygwyd ar gyfer yr adolygiadau. Penderfynwyd cymryd sampl o 20 aelod etholedig a oedd yn cynnwys pob Arweinydd Grŵp, gyda'r sampl oedd yn weddill yn cynnwys aelodau yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol gan ddewis enwau ar hap. Wedi hynny cyfarfu aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau i drafod eu canfyddiadau.
Deilliodd pedwar cam o'r canfyddiadau, a drafodir yn Adran 2.6 yr adroddiad.
Mae'r cyntaf yn ymwneud â gohebiaeth bersonol, sydd wedi'i hanfon at ambell aelod etholedig. Yn gyffredinol, roedd yr aelodau annibynnol yn fodlon â'r canfyddiadau, ond roeddent yn teimlo bod angen ysgrifennu at rai aelodau i dynnu eu sylw at rai materion, megis yr angen i ddiweddaru eu cofrestrau. Anfonwyd gohebiaeth, derbyniwyd ymatebion, ac mae'r rhan fwyaf o faterion wedi cael sylw. Fodd bynnag, mae rhai materion yn parhau, y mae angen eu datrys o hyd. Mae gohebiaeth bellach yn cael ei hanfon gan yr Is-gadeirydd ac mae'r gwaith yn parhau.
Roedd yr ail gam yn ymwneud â llesiant aelodau, a amlygwyd drwy absenoldebau neu newid mewn patrymau presenoldeb ar gyfer cyfarfodydd neu sesiynau hyfforddi. Anfonwyd gohebiaeth at Arweinwyr Grŵp ynghylch aelodau penodol o'u grwpiau, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i fodloni'r Pwyllgor fod Arweinwyr Grŵp yn cymryd camau mewn perthynas â phryderon yn ymwneud â llesiant.
Mae'r trydydd cam yn ymwneud â materion corfforaethol neu dechnegol y mae angen mynd i'r afael â nhw e.e. y broses o ddiweddaru cofrestrau, yn enwedig cofrestrau ar gyfer datgan diddordebau mewn cyfarfodydd, sydd ar bapur ar hyn o bryd, tra bod cofrestrau eraill yn cael eu diweddaru'n electronig. Mae llythyr wedi'i anfon at y Prif Weithredwr, sydd wedi cydnabod yr ohebiaeth ac wedi datgan ei fod yn bwriadu cynnal ymholiadau pellach a rhoi adborth maes o law.
Y cam olaf sy'n deillio o'r ymarfer yw y bydd adroddiad cyffredinol yn cael ei baratoi ar gyfer pob aelod i roi adborth ar y themâu cyffredinol a gododd yn ystod yr adolygiadau gan rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd. Mae trefniadau ar waith i'r Is-gadeirydd gyflwyno'r adroddiad drafft i gyfarfod Arweinwyr Grŵp cyn y bydd yn cael ei rannu drwy e-bost gyda'r holl aelodau.
Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau, er mwyn diweddaru aelodau.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi cynnwys yr adroddiad.
• Cyflwyno adroddiad pellach yng nghyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr 2024, i
(a) rannu copi o'r adroddiad cyffredinol, gan gynnwys y prif themâu
sy'n codi o'r broses adolygu, a’i anfon at yr holl aelodau yn dilyn trafodaeth gychwynnol gydag arweinwyr grŵp; ac
(b) adrodd ar y datblygiadau a wnaed, yn enwedig o ran paragraff
2.6.3 o’r adroddiad.
Cam Gweithredu: Gweler y penderfyniad uchod
Dogfennau ategol: