Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ac roedd yn cynnwys dadansoddiad o amrywiannau cyllidebol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/24, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £1.732m. Mae hyn yn 0.99% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Er bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol, rhaid cofio bod £3.78m o'r Gronfa Gyffredinol wedi cael ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at gydbwyso cyllideb 2023/24 felly mae'r canlyniad i bob pwrpas yn lleihau lefel cyfraniad y Gronfa Gyffredinol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y ffaith bod ad-daliadau’n gysylltiedig â gwerth ardrethol mewn perthynas ag Oriel Ynys Môn ac eiddo arall wedi cyfrannu £1.6m yn ychwanegol tuag at incwm y Cyngor sydd i'w drosglwyddo i'r Gronfa Gyffredinol. Mae tanwariant yn y rhan fwyaf o wasanaethau ac eithrio Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac mae’r gwasanaeth hwnnw’n yn adrodd y rhagwelir gorwariant o £1.715m ar ddiwedd y flwyddyn o ganlyniad i gynnydd yn y galw am leoliadau a chostau lleoli plant. Mae perfformiad ariannol Gwasanaethau Oedolion wedi gwella oherwydd incwm grant ychwanegol. Gwasanaethau Plant yw'r risg ariannol fwyaf i'r Cyngor wrth symud ymlaen gan y gall newid bach yn nifer yr achosion gael effaith sylweddol ar gost y gwasanaeth yn gyffredinol ac mae'n faes y mae Llywodraeth Cymru yn ei adolygu. Gofynnwyd hefyd i wasanaethau leihau costau yn y flwyddyn drwy beidio â llenwi swyddi gwag cyhyd â phosibl fel strategaeth tymor byr.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fod y pwysau ar gyllidebau gofal cymdeithasol plant, a’r galw arnynt, i’w deimlo drwy’r wlad ac mai’r argyfwng costau byw yw un o’r ffactorau sy’n gyfrifol am hyn. Er bod y Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth gofal maeth mewnol a chartrefi clyd yn ogystal ag mewn gwasanaethau ataliol, ni ellir rhagweld yr heriau o ran galw ond mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ymateb iddynt.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai darpariaeth arbenigol i'r unigolion hynny sydd wedi profi trawma lefel uchel sy’n costio fwyaf, ac nad yw'r Cyngor yn gallu eu diwallu oherwydd yr arbenigedd sydd ei angen a'r gost gysylltiedig. Er y byddai'r gorwariant yng Ngwasanaethau Plant wedi bod yn sylweddol uwch pe na bai'r Cyngor wedi buddsoddi i ddatblygu ei ddarpariaeth gofal maeth a chartrefi clyd, mae achosion mwy cymhleth gan gynnwys plant ag anableddau, yn aml yn gofyn am ddarpariaeth y tu allan i'r ardal, sy'n gostus.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y newid o ran demograffeg ac at boblogaeth sy'n heneiddio ar Ynys Môn sydd â goblygiadau o ran y galw am wasanaethau gofal. Mae'r system gyllido bresennol yn anghynaladwy ac mae angen ei diwygio o ystyried yr heriau cynyddol ym maes gofal cymdeithasol a'r pwysau ar gyllidebau neu fel arall bydd mwy o gynghorau mewn trafferthion ariannol oherwydd nad ydynt yn gallu rheoli'r galw o fewn system gyllido nad yw'n addas i'r diben.
Penderfynwyd –
Dogfennau ategol: