Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad drafft o'r
Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 i'w ystyried gan y
Pwyllgor. Mae'r Datganiad o'r Cyfrifon yn ddogfen statudol sy'n
cael ei pharatoi yn unol ag arferion cyfrifyddu priodol ac fe'i
paratoir yn flynyddol i roi gwybodaeth i etholwyr, trethdalwyr
lleol, aelodau'r Cyngor, staff a phartïon eraill â
diddordeb am gyllid y Cyngor yn y flwyddyn ariannol
flaenorol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a ddiolchodd i'r tîm Cyllid a
phawb a oedd wedi cyfrannu at baratoi’r cyfrifon drafft am eu
gwaith er mwyn gallu eu cyhoeddi erbyn y dyddiad cau, sydd, ar
gyfer 2023/24 wedi'i ymestyn gan Lywodraeth Cymru i 30 Mehefin
2024. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran
151 at brif ddiben y cyfrifon, sef diweddaru’r darllenwyr i'w
galluogi i ffurfio barn am sefyllfa ariannol y Cyngor a’r
modd y mae’n rheoli a defnyddio arian cyhoeddus. Rhoddodd
drosolwg o brif adrannau'r cyfrifon sy'n cynnwys y datganiadau
ariannol craidd a'r nodiadau esboniadol allweddol a'r hyn y maent
yn ei adlewyrchu o ran sefyllfa ariannol y Cyngor. Hefyd cyfeiriodd
at Dabl 1, 2 a 3 yn yr adroddiad rhagarweiniol a oedd yn crynhoi
sefyllfa cronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor, gan gynnwys sut
mae pob math o gronfa wedi newid dros y flwyddyn. Mae'r cyfrifon yn
dangos, ar ddiwedd 2023/24, bod cronfeydd wrth gefn drafft y Cyngor
yn £15.604m ac mai cyfanswm y cronfeydd wrth gefn y gellir eu
defnyddio yw £50.099m. Cynyddodd gwerth asedau net y cyngor
£37.682m o £404.650m y llynedd i £442.332m ar 31
Mawrth 2024.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor
–
- Balansau ysgolion a
ph’un ai a yw ysgolion sydd mewn diffyg yn ddatblygiad sy'n
dod i'r amlwg.
- Bod Tystysgrifau
Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol (EICR) yn rhwymedigaeth wrth
gefn. Gofynnwyd cwestiynau am y rhesymau pam mewn rhai achosion na
ddarparwyd copïau o'r tystysgrifau yn cadarnhau i denantiaid y
Cyngor fod archwiliadau trydanol wedi’u cwblhau yn ôl
yr angen yn ogystal â chyfanswm y rhent y gallai fod yn rhaid
ei ad-dalu i'r tenantiaid hynny nad oeddent wedi derbyn copïau
o'r tystysgrifau fel iawndal a ph’un ai a fyddai'n effeithio
ar y cyfrifon.
- Y cynnydd o
£7.896m o ran credydwyr tymor byr i £42.465m o
ganlyniad i anfonebau oedd yn aros i gael eu talu.
- Eglurhad o'r
£6.615m o grantiau cyfalaf a dderbyniwyd ymlaen llaw ar gyfer
cyfran y Cyngor ym Mwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
(BUEGC). Nodwyd bod y swm yn fwy na'r £4.618m a nodwyd fel cynnydd
mewn grantiau a dderbyniwyd ymlaen llaw.
- Y gostyngiad ym
malans y Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynghylch a
yw cyfraniadau Datblygwyr Tai Adran 106 a'r gronfa dai fforddiadwy
yn cael eu trosglwyddo i falansau’r CRT.
- Gorwariant ym maes
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel risg i sefyllfa ariannol y
Cyngor wrth symud ymlaen.
- Y defnydd o
gronfeydd wrth gefn i ariannu costau sylweddol. Holwyd faint o
gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd a ph’un ai a oedd unrhyw
gyfran o'r swm hwnnw yn REFCUS (Gwariant Refeniw a Gyllidir o
Gyfalaf o dan Statud).
- Gwariant sydd
wedi'i gyfalafu. Awgrymwyd y dylai'r cyfanswm cyfalafol yn unol
â'r tabl ar Dudalen 4 yr adroddiad naratif fod yn
£30.636m yn hytrach na £50.574m gan fod £19.938m
wedi'i nodi ar y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr gan ei fod
naill ai i gefnogi asedau nad ydynt o dan berchnogaeth uniongyrchol
y Cyngor (£5.422m) neu nad oedd yn cynyddu gwerth yr asedau
cyfalaf (14.516m).
- Manylion y gwariant
ar gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi.
- Y cynnydd o 8.4% yn
incwm y Dreth Gyngor yn erbyn cynnydd o 5% yng nghyfradd y Dreth
Gyngor ar gyfer 2023/24
ph’un ai a oedd y cynnydd mewn incwm yn deillio o gyfradd
gasglu well.
- Defnyddioldeb y
Datganiad o Gyfrifon fel dogfen y gall y cyhoedd gyfeirio ati a
chael darlun clir o gyllid a sefyllfa'r Cyngor o ystyried ei
gymhlethdod a lefel y manylion technegol sydd ynddo.
Dywedodd y Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach –
- Bod rhai ysgolion
wedi bod mewn diffyg mewn blynyddoedd blaenorol ac wedi gorfod
llunio cynllun i fynd i'r afael â'r diffyg. Yn ystod y
pandemig, cafodd cyllid ysgolion hwb gan grantiau cyllido Covid a
ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Dilëwyd diffygion a gwelwyd
gwelliant o ran cyllid ysgolion gyda'i gilydd yn genedlaethol.
Defnyddiwyd y grantiau hynny yn unol â disgwyliadau
Llywodraeth Cymru i helpu disgyblion i ddal i fyny â'u
haddysg. Ers hynny mae ysgolion wedi bod yn defnyddio eu cronfeydd
wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau ac er bod y Cyngor wedi ceisio
diogelu cyllideb yr ysgolion yn hanesyddol, bu gostyngiad o 1.5% yn
2024/25. Rhagwelir y bydd balansau ysgolion yn parhau i ostwng ac
oni bai bod y sefyllfa ariannu yn gwella, mae'n debygol y bydd mwy
o ysgolion mewn diffyg. Mae gan y pum ysgol gynradd sydd mewn
diffyg ar 31 Mawrth 2024 gynllun i fynd i'r afael â'r
sefyllfa. Bydd y duedd yn cael ei monitro er gwaethaf y ffaith mai
fel canran o gyfanswm cyllideb balansau ysgolion Ynys Môn
yw'r uchaf.
- Er bod archwiliadau
trydanol wedi'u cynnal yn eiddo'r Cyngor a’u bod wedi
cadarnhau bod y gosodiadau trydanol yn ddiogel, nid yw pob tenant
wedi derbyn copïau o'r tystysgrifau EICR yn enwedig tenantiaid
sydd â mynediad i ardaloedd cymunedol o fewn blociau o
fflatiau lle gwneir yr archwiliadau. Pe bai'n rhaid i'r Cyngor
ad-dalu rhent i'r tenantiaid hynny na chawsant gopïau o
dystysgrifau fel iawndal, yna byddai'r rhwymedigaeth oddeutu
£1.2m. Aseswyd ei fod yn rhwymedigaeth wrth gefn nad oedd
darpariaeth ar ei chyfer oherwydd nad yw'n sicr y bydd yn rhaid
bodloni'r rhwymedigaeth gan fod canlyniad achos llys yn ymwneud ag
awdurdod lleol arall ar y mater hwn yn dal ar y gweill, y ddadl yw
bod hwn yn fater o dorri rheolau technegol yn hytrach na diogelwch.
Pe bai'n rhaid talu byddai'r rhwymedigaeth, byddai’n cael ei
thalu o falansau’r CRT.
- Bod y cynnydd mewn
credydwyr tymor byr oherwydd yr anfonebau a oedd yn aros i gael eu
talu yn deillio o nifer o ffactorau gan gynnwys materion technegol,
capasiti, ac amseru gyda nifer a gwerth anfonebau'n tueddu i
gynyddu tua diwedd y flwyddyn ariannol pan fydd problemau’n
codi. Gwnaed gwaith i glirio'r rhai oedd heb eu talu drwy fis
Ebrill a mis Mai y flwyddyn ariannol newydd ac mae'r sefyllfa
bellach wedi gwella ac mae balans y credydwyr wedi
lleihau.
- Bod BUEGC yn cael
ei ariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru a San Steffan gyda'r olaf
yn cael ei dderbyn mewn pymtheg rhandaliad bob blwyddyn. Nid yw'r
cyllid hwn wedi'i wario oherwydd oedi cyn dechrau prosiectau ond
mae'n dal i gael ei dderbyn ac mae mewn cronfa wrth gefn. Mae
Llywodraeth Cymru o'r farn na fydd unrhyw gyllid pellach yn cael ei
ddosbarthu nes bod yr hyn sydd eisoes wedi'i ddyrannu yn cael ei
ddefnyddio.
- Yn ôl y
Cynllun Busnes CRT 30 mlynedd gellir defnyddio cronfa’r CRT i
gefnogi datblygiadau tai newydd. Defnyddir y gwarged refeniw ar y
cyfrif CRT hefyd at ddibenion cyfalaf i gynnal y stoc tai presennol
yn unol â safonau SATC yn ogystal â buddsoddi mewn tai
newydd. Y strategaeth yw dod â chronfeydd wrth gefn y CRT i
lawr i lefel o tua £1m gyda datblygiadau newydd i'w hariannu
wedi hynny trwy fenthyca. Cyfraniadau datblygwyr Adran 106, yn
dibynnu ar delerau'r cytundeb, yw cyfraniadau tuag at ddarparu tai
fforddiadwy ac o'r herwydd maent yn gyfraniad ychwanegol i'r CRT.
Mae cronfa wrth gefn Tai Fforddiadwy yn deillio o bremiwm y Dreth
Gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir ac fe'i defnyddir i
ariannu grantiau tai, benthyciadau a phrosiectau i helpu prynwyr
tro cyntaf. Ni wnaed y dyraniad blynyddol i'r gronfa yn 2024/25
oherwydd barnwyd bod digon o arian yn y gronfa wrth gefn ar gyfer y
cyllidebau hyn. Nid yw incwm o bremiwm y Dreth Gyngor yn cael ei
ddyrannu i'r CRT oherwydd nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddatblygu
tai Cyngor newydd.
- Bod gorwariant ym
maes Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn risg ariannol i'r Cyngor
a’i fod yn deillio o gynnydd yn nifer y plant y mae angen i'r
Cyngor ofalu amdanynt, cymhlethdod yr anghenion, prinder lleoliadau
addas a chostau cynyddol. Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol
mewn gofal cymdeithasol plant trwy gynyddu'r ddarpariaeth fewnol a
thrwy roi mesurau ataliol ar waith sy'n cefnogi plant a theuluoedd
yn gynt mewn ymdrech i reoli gwariant.
- Bod £4.425m
wedi’i ddefnyddio o falansau cyffredinol y Cyngor i
gydbwyso'r gyllideb yn 2024/25 a £3.78m yn
2023/24. Mae'r Cyngor
wedi ceisio bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ei ddefnydd o
gronfeydd wrth gefn i gydbwyso ei gyllideb drwy fanylu ynghylch y
dyraniad o gronfeydd wrth gefn yn y gyllideb derfynol; heb y
cyfraniad o gronfeydd wrth gefn cyffredinol byddai'r Cyngor wedi
gorwario, a fyddai p’run bynnag, wedi gorfod cael ei ariannu
o gronfeydd wrth gefn. Gyda chyllid REFCUS mae'r Cyngor yn ariannu
gwariant cyfalaf ar asedau nad yw'n berchen arnynt e.e. addasiadau
Cyfleusterau i'r Anabl i gartrefi ac o'r herwydd priodolir y
gwariant hwn i refeniw. Nid yw'n effeithio ar falansau'r Cyngor gan
mai cyllid grant ydyw yn bennaf.
- Bod £50.574m
o gyllid cyfalaf wedi’i wario a bod £30.636m ohono wedi
arwain at ased sydd wedi'i greu, sy'n cael ei ddefnyddio ac sydd
wedi'i gynnwys ar y Fantolen. Mae'n cynnwys gwaith ar y gweill a
REFCUS. Mewn ymateb i gwestiynau pellach ynghylch priodoldeb
defnyddio'r term "cyfalafu" wrth gyfeirio at y cyfanswm o
£50.574m, dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai'r defnydd o'r
term yn y cyd-destun hwnnw’n cael ei adolygu.
- Bod cronfeydd wrth
gefn a glustnodwyd yn cael eu dyrannu ar gyfer prosiectau penodol y
mae'r Cyngor yn bwriadu gwario arnynt neu risgiau sy'n hysbys i'r
Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran
151 y byddai'n anfon copi at Gadeirydd yr adroddiad i gyfarfod 23
Gorffennaf y Pwyllgor Gwaith ynghylch defnyddio balansau a
chronfeydd wrth gefn.
- Bod y cynnydd yn
incwm y Dreth Gyngor yn cynnwys premiwm y Dreth Gyngor ar ail
gartrefi a gynyddwyd o 75% i 100% yn ogystal â praeseptau'r
Heddlu a chynghorau tref a chymuned. Mae newidiadau i sylfaen y
Dreth Gyngor yn ogystal â chartrefi newydd hefyd yn cynyddu'r
incwm a dderbyniwyd.
- Bod y Datganiad
Cyfrifon yn ddatganiad cyfrifyddu ariannol a all fod yn anodd ei
ddeall i bobl heb unrhyw brofiad o faterion ariannol. Mae
adroddiadau monitro’r gyllideb a gyflwynir i'r Pwyllgor
Gwaith yn rhoi darlun cliriach o sut mae'r Cyngor yn perfformio'n
ariannol ac yn dangos bod sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor yn
iach ar hyn o bryd er bod rhai cronfeydd wrth gefn wedi gostwng
wrth i'r Cyngor barhau i wynebu pwysau ariannol. Gallai digwyddiad
annisgwyl, pwysau ychwanegol ym maes gofal cymdeithasol plant, sy'n
arwain at leoliadau costus neu ofynion cynyddol yn sgil
digartrefedd, brofi gwydnwch ariannol y Cyngor. Mae'r rhain yn
bwysau nad yw'r cyhoedd o reidrwydd yn ymwybodol ohonynt ac maent
yn feysydd lle mae'r gwariant yn uchel.
Ar ôl craffu ar y
Datganiad Cyfrifon drafft, penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio nodi'r prif ddatganiadau ariannol drafft nas archwiliwyd
ar gyfer 2023/24.
Cam Gweithredu
ychwanegol - Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i
adolygu'r defnydd o'r term cyfalafu mewn cysylltiad â'r swm o
£50.574m yn y tabl ar dudalen 4 yr Adroddiad
Naratif.