Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg
a’i ddiweddariad ar 30 Mehefin, 2024 ar yr archwiliadau a
gwblhawyd ers y diweddariad blaenorol ar 31 Mawrth 2024 i'w
ystyried gan y Pwyllgor. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llwyth
gwaith cyfredol Archwilio Mewnol a'i flaenoriaethau ar gyfer y
tymor byr i'r tymor canolig wrth symud ymlaen. Rhoddwyd sicrwydd i
aelodau'r Pwyllgor drwy gopïau ar wahân o'r tri
adroddiad archwilio mewnol a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf
mewn perthynas â Chyrchfan - Tîm Morwrol - Prosesau
Incwm (Sicrwydd Rhesymol); Archwilio TG - Rheoli Cyflenwyr TG
(Sicrwydd Cyfyngedig); Cadernid amcangyfrifon a digonolrwydd asesu
cronfeydd wrth gefn (Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003)
(Sicrwydd Rhesymol). Roedd cynllun gweithredu yn cyd-fynd â'r
adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig i fynd i'r afael â'r
materion/risgiau a godwyd gan yr adolygiad archwilio
mewnol.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor
–
- Bod yr Hunanasesiad
Corfforaethol yn asesu bod y broses gaffael a rheoli contractau yn
bodloni disgwyliadau, tra bod yr adolygiad archwilio mewnol o Reoli
Cyflenwyr TG wedi nodi nifer o faterion/risgiau caffael sy'n gofyn
am gamau rheoli.
- Capasiti Archwilio
Mewnol a'r arbedion sy'n deillio o'r swydd wag yn erbyn costau
gwasanaeth gan arbenigedd trydydd parti.
- Y materion a godwyd
gan yr adolygiad archwilio mewn perthynas â Chyrchfan –
Tîm Morwrol – Prosesau Incwm. Trafodwyd y mater hwn yn
breifat ar ddiwedd y cyfarfod yn sgil argymhelliad y Cadeirydd a
chymeradwyodd y Pwyllgor, o dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, fod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd
o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y sail bod y mater yn ymwneud
â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodlen 12A o'r Ddeddf honno gan ei bod yn cyfeirio
at faterion busnes y Cyngor a allai ragfarnu buddiannau'r Cyngor yn
fasnachol, yn ariannol ac yn gyfreithiol. Cododd yr Aelodau
gwestiynau am yr incwm a gynhyrchir yn erbyn costau'r gwasanaeth a
gofynnwyd am sicrwydd hefyd ynghylch y gwendidau a amlygwyd gan yr
adolygiad archwilio a'r camau gweithredu sydd eu hangen i'w
goresgyn.
Cynghorwyd y Pwyllgor fel a ganlyn –
- Bod Deddf Caffael
2023 newydd yn gosod nifer o gyfrifoldebau ar awdurdodau lleol a
threfniadau'r sector cyhoeddus. Oherwydd capasiti cyfyngedig,
comisiynodd y Cyngor ymgynghoriaeth allanol i adolygu trefniadau
caffael y Cyngor a'i barodrwydd ar gyfer y newidiadau y bydd y
ddeddfwriaeth newydd yn eu cyflwyno. Maent wedi datblygu rhaglen
wella dwy flynedd i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r
gofynion newydd ac fe’u hail-gomisiynwyd i ddarparu cymorth i
gyflawni'r cynllun gwella. Nid oes rhaid bodloni'r holl ofynion
erbyn mis Hydref 2024 pan ddaw'r ddeddfwriaeth i rym. Diweddarodd
Rheolwr y Tîm TG y Pwyllgor mewn perthynas â'r ddau
fater yn ymwneud â'r Uned TG o'r adolygiad Rheoli Cyflenwyr
TG a chadarnhaodd eu bod yn symud ymlaen yn unol â'r
amserlen.
- Bod yr arbedion ym
maes Archwilio Mewnol yn deillio o'r swydd wag ar lefel Uwch
Archwiliwr oherwydd bod secondiad hirdymor yn parhau. Defnyddir yr
arbedion i gomisiynu cefnogaeth trydydd parti, yn ôl yr
angen. Hefyd adolygir y modd y cyflawnir y swyddogaeth risg ac
yswiriant a allai greu arbedion y gellid eu defnyddio ym maes
Archwilio Mewnol.
- Ymhelaethodd y
Pennaeth Archwilio a Risg ar y materion a godwyd gan adolygiad
Cyrchfan – Tîm Morwrol – Prosesau Incwm a
chadarnhaodd y cytunwyd â rheolwyr ynghylch camau i fynd i'r
afael â'r materion hynny ac i wella prosesau incwm mewn
cynllun gweithredu sydd ar gael ar wahân.
Penderfynwyd nodi
canlyniad gwaith Archwilio Mewnol, a derbyn y sicrwydd a ddarparwyd
a'r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Camau Gweithredu
Ychwanegol – Pennaeth Archwilio a Risg i roi copi i aelodau'r
Pwyllgor o'r cynllun gweithredu adolygu Prosesau Incwm - Cyrchfan
– Tîm Morwrol