Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a
Thrawsnewid a oedd yn cynnwys Adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol
Blynyddol drafft ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Mae'r adroddiad yn sail dystiolaeth o sut mae'r Cyngor wedi
perfformio dros y flwyddyn gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar
gael wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig yn unol â
disgwyliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio
Corfforaethol, Perfformiad a Rhaglen a gyfeiriodd at y saith maes
allweddol sy'n ganolbwynt i'r hunanasesiad. Asesir bod pedwar maes
(cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio'r gweithlu a
rheoli perfformiad) yn rhagori ar ddisgwyliadau tra asesir bod tri
maes (rheoli asedau, caffael a rheoli contractau, a rheoli risg ac
archwilio) yn bodloni disgwyliadau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi
bod cyfleoedd i wella a monitro sawl maes yn ystod
2024/25.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor
–
- Bod cynllunio
ariannol yn faes lle aseswyd bod perfformiad yn rhagori ar
ddisgwyliadau ond nodwyd bod gwydnwch ariannol y Cyngor yn faes lle
gallai'r Cyngor wneud yn well yn sgil yr argyfwng costau byw
a’r gostyngiad mewn cyllid – mae’r rhain yn
gwrthddweud ei gilydd. Yn yr un modd, aseswyd bod cynllunio'r
gweithlu hefyd yn faes sy'n rhagori ar ddisgwyliadau, ond nodwyd
bod mynd i'r afael â heriau'r gweithlu yn faes lle mae
cyfleoedd i wella a monitro yn ystod 2024/25.
- Parodrwydd y Cyngor
i dderbyn risg a'i ymagwedd at risg. Gofynnwyd cwestiynau am
agweddau cadarnhaol risg o ran cyflwyno cyfleoedd ar gyfer gwella a
chynnydd ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn barod i fentro i wneud y
mwyaf o'r cyfleoedd hynny.
Rhoddwyd cyngor pellach i'r Pwyllgor fel a ganlyn
–
- Bod y sgôr
asesu cyffredinol ar gyfer pob un o'r 7 maes allweddol yn seiliedig
ar hunanwerthusiad pob gwasanaeth o'i berfformiad yn y meysydd
hynny yn erbyn un o 5 maen prawf fel y nodir yn Natganiad Sefyllfa
Gwasanaeth y Cyngor ar ddiwedd y ddogfen. Mae cynllunio ariannol yn
golygu rheoli cyllid y Cyngor yn strategol, gan greu cynlluniau i
ddyrannu adnoddau a chyllidebu tra bo gwydnwch ariannol yn ymwneud
â pharodrwydd a gallu'r Cyngor i wrthsefyll effeithiau
ariannol o bwys a allai ddigwydd yn y tymor hir. Mae cyfleoedd i
wella a monitro wedi cael eu cydnabod mewn perthynas â'r
olaf. Yn yr un modd, roedd yr asesiad yn cydnabod bod gan y Cyngor
ddealltwriaeth dda o gynllunio'r gweithlu a bod y gofynion yn eu
lle ar gyfer cyflawni ei ymrwymiadau, ei gynlluniau a'i amcanion o
ran adnoddau dynol ond bod meysydd lle gallai gweithredu'r camau
gweithredu a nodwyd wella perfformiad ymhellach i'w symud i'r lefel
nesaf.
- Mae dull y Cyngor o
ymdrin â risg a'i barodrwydd i dderbyn risg fel y mae'r
gofrestr risgiau strategol yn ei ddangos yn seiliedig ar reoli'r
risgiau a allai ei atal rhag cyflawni ei amcanion yn hytrach nag ar
gymryd risgiau er mwyn gwella perfformiad na fydd efallai'n arwain
at y canlyniad a ddymunir. Nid yw'r Cyngor wedi asesu'n ffurfiol ei
barodrwydd i dderbyn risg o safbwynt faint o risg y mae'n fodlon ei
dderbyn i sicrhau manteision ychwanegol. Mae prosiectau newid y
Cyngor yn cael eu profi cyn iddynt gael eu gweithredu i sicrhau,
cyn belled ag y bo modd, eu bod yn cyflawni yn ôl y bwriad ac
i leihau unrhyw ganlyniadau negyddol.
Ar ôl adolygu'r
ddogfen a chynnig sylwadau, penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio gymeradwyo Adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol drafft
2023/24 ac argymell hynny i'r Pwyllgor Gwaith.