Cofnodion:
Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchiadau i drefnwyr Sioe Môn ar sioe arall lwyddiannus eleni;
· Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr o’r Ynys a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Genedlaethol a’r Eisteddfodau.
· Llongyfarchiadau mawr i blant a phobl ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant gyda chanlyniadau TGAU, Lefel A, a chymwysterau lefel 2 a 3 eraill dros yr haf. Dymuniadau gorau i’r bobl ifanc hynny fydd yn gadael eu cartrefi am brifysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
· Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol a manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i longyfarch y Plant sy'n Derbyn Gofal ar eu llwyddiannau yn eu TGAU a chyraeddiadau eraill yn ddiweddar, mae'r rhan fwyaf wedi sicrhau lleoliadau coleg, profiadau gwaith neu gyfleoedd prentisiaeth ac mae gennym un dyn ifanc sydd newydd ddechrau ym Mhrifysgol Bolton - da iawn i chi gyd! Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i’r holl staff, athrawon, rhieni a rhieni maeth sydd wedi cefnogi’r bobl ifanc.
· Llongyfarchiadau arbennig i Isaak Floyd-Eve oedd yn ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ennill Gwobr Goronwy Jones am yr ymgeisydd Safon Uwch gorau mewn Ffiseg drwy Gymru. Da iawn Isaak.
· Llongyfarchiadau i Mabli Blackshaw o Gaergybi ar gynrychioli tîm pêl-droed dan 16 Cymru a hithau yn ddim ond 12 oed. Chwaraeodd Mabli i Gymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn ddiweddar.
· Llongyfarchiadau i Jenna Seddon o Rosneigr – enillydd y ras merched Firelighter a oedd yn rhan o wŷl redeg y Ring O’Fire ym mis Awst.
· Llongyfarchiadau i Gethyn Evans, Bryngwran – y dyn cyntaf yn ras 5 milltir y Morglawdd a gynhaliwyd ym mis Awst.
· Llongyfarchiadau i Gareth Cadwaladr, rheolwr gwasanaethau digidol yn y Cyngor, sydd wedi seiclo dros 700 milltir o Sweden i’r Iseldiroedd gyda chriw o ffrindiau i godi arian at elusen Blood Cancer UK. Maent wedi llwyddo i hel dros £2,600 at yr elusen hyd yma.
· Talodd y Cadeirydd deyrnged i Mr Elfed Roberts o’r Adran Gyllid sydd wedi cyrraedd carreg filltir nodedig o weithio i’r Cyngor am 50 mlynedd.
· Dywedodd y Cadeirydd bod yr Awdurdod wedi llwyddo i uwchraddio ei aelodaeth Hyderus o ran Anabledd, a bod y Cyngor yn cael ei adnabod fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Diolchodd i’r staff sydd wedi bod yn rhan o’r datblygiad pwysig hwn.
· Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Jeff Evans ar ei lwyddiant diweddar ym mhencampwriaethau’r ‘Town Crier’.
· Dymunodd y Cadeirydd yn dda i gyn-arweinydd y Cyngor, Llinos Medi ar gychwyn ei gwaith fel aelod seneddol dros Ynys Môn.
* * * *
Cydymdeimlodd â theuluoedd a ffrindiau Humphrey Pickering, Stephen a Katherine Burch a fu farw mewn damwain car ym Miwmares ddiwedd mis Awst. Er tristwch y digwyddiad, roedd ymateb y trigolion lleol yn arwydd o gryfder y gymuned.
Cydymdeimlodd hefyd a theuluoedd yr aelodau staff a fu farw yn ddiweddar :-
- TonyJones a fu’n gwasanaethu’r Cyngor am flynyddoedd ac a oedd yn weithgar yn y gymuned drwy ei waith gyda MônFM
- Einir Williams, pennaeth Sbaeneg, dirprwy bennaeth 6ed ac Athrawes BAC uchel ei pharch yn Ysgol David Hughes,
- Hilda Owen, a oedd yn aelod profiadol a gweithgar o’r tîm gofal arbennig yng Nghanolfan Addysg y Bont.
Cydymdeimlodd ag unrhyw aelod etholedig, neu aelod o staff arall sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.