Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

·       Darpariaeth gwasanaeth presennol ar Ynys Môn;

 

·       Gwytnwch, heriau a fforddiadwyedd y model darparu gwasanaeth presennol ar yr Ynys;

 

·       Cydweithio rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn

Cofnodion:

Gan fod y Cadeirydd wedi datgan diddordeb a gadael y cyfarfod, camodd yr Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Etholwyd y Cynghorydd Margaret M Roberts i wasanaethu fel Is-gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Croesawodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair Mr Stewart Forshaw, Dirprwy Brif Swyddog Tân, Mr Anthony Jones, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid a Mr Eilian Roberts, Rheolwr Ardal ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Dirprwy Brif Swyddog Tân ar broffil Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gorsafoedd Tân Ynys Môn, Cyllid Awdurdod Lleol, Gwaith Partneriaeth, Diogelwch Tân i Fusnesau ac Ymgysylltu Cymunedol.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Roedd yr Is-gadeirydd eisiau cael gwybod pa heriau allai wynebu’r Gwasanaeth Tân ac Achub pe byddai argyfwng yn digwydd ar yr Ynys a’r ddwy bont dros y Fenai ar gau. Dywedodd y Rheolwr Ardal bod y pontydd wedi gorfod cau oherwydd gwyntoedd cryfion yn y gorffennol ac mae pryder y gallai hyn ddigwydd yn fwy aml wrth i batrymau tywydd newid yn sgil newid yn yr hinsawdd. Nododd fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn credu ei bod yn bwysig pwyso am drydedd bont dros y Fenai. Roedd y Prif Weithredwr yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub i ymgyrch yr awdurdod am drydedd bont gan fod pryder am wytnwch y pontydd. Mae poblogaeth yr ynys yn codi’n aruthrol yn ystod y cyfnod gwyliau prysur a Phorthladd Caergybi yw’r porthladd prysuraf yng Nghymru. Nododd y byddai unrhyw ddata ac enghreifftiau y gallai’r Gwasanaeth Tân ac Achub eu rhannu yn cefnogi ac yn cryfhau’r ymgyrch am drydedd bont.

·         Nodwyd bod y rhan fwyaf o Orsafoedd Tân ar Ynys Môn wedi’u rhestru fel rhai ‘ar alw’ yn unig ac mae cyfraddau argaeledd yn ystod y dydd yn isel. Gofynnwyd i ba raddau mae hyn yn creu risg i drigolion a pha gynlluniau sydd ar waith i wella argaeledd ledled yr Ynys yn y dyfodol. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod argaeledd Swyddogion Tân yn ystod y dydd yn gallu bod yn heriol, ond mae’n cymryd 13 munud ar gyfartaledd i ymateb i dân ar Ynys Môn. Mae Gorsaf Dân Caergybi ar gael bob dydd ac mae’n bosib cael cefnogaeth gan ail injan dân o’r tir mawr. Nododd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi Adolygu’r Ddarpariaeth Frys yn ddiweddar ac un o’r opsiynau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Tân oedd gwneud Gorsaf Dân Llangefni yn orsaf ddydd yn unig, ond gwrthodwyd y cynnig. Er hynny, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ystyried y 3 lleoliad mwyaf addas ar gyfer gwasanaeth amser cyflawn ar hyd a lled Gogledd Cymru. Holwyd hefyd am anawsterau recriwtio gweithwyr mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod recriwtio mewn ardaloedd gwledig yn gallu bod yn heriol, yn enwedig o ran argaeledd yn ystod y dydd. Roedd yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys wedi ystyried darparu gorsafoedd tân amser cyflawn mewn ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau  cynaliadwyedd a chynnig cyfleoedd gwaith o fewn y cymunedau hynny, ac yn enwedig mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

·         Gofynnwyd a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymweld ag ysgolion a cholegau i hyrwyddo llwybrau gyrfaoedd o fewn y Gwasanaeth Tân. Gofynnwyd hefyd a yw’r Gwasanaeth Tân yn cysylltu â busnesau lleol i drafod rhyddhau staff sy’n ystyried gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân mewn rôl rhan amser. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn recriwtio’n barhaus ac mae wedi ymrwymo hefyd i ddenu merched i’r gwasanaeth. Dywedodd hefyd y byddai’n her i fusnesau ryddhau staff yn ystod y dydd oherwydd cyfyngiadau ariannol. Mae gan y Gwasanaeth Tân ac Achub gynllun Cadetiaid Tân llwyddiannus ym Mhorthaethwy ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed ac maent yn gallu ennill Dyfarniad Lefel 1 i 3 yn y pwnc ‘Gwasanaeth Tân ac Achub’. Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân at y Prosiect Ffenics lle mae pobl ifanc yn cael eu rhyddhau o’r ysgol am wythnos i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwerth chweil fydd yn eu cynorthwyo i ennill parch ac integreiddio yn eu cymunedau, yn ogystal â’u cyflwyno i’r rolau a’r cyfleoedd sy’n bodoli o fewn y Gwasanaeth Tân.

·         Gofynnwyd cwestiynau am ddilyniant gyrfa o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân y byddai’r Gwasanaeth Tân yn hysbysebu cyfleoedd gyrfa yn ystod yr wythnosau nesaf. Nododd fod gyrfa o fewn y Gwasanaeth Tan ac Achub yn un gwerth chweil ac mae’r Gwasanaeth yn annog gweithwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd. Gofynnwyd cwestiynau am nifer uchel y swyddi diffoddwyr tân wrth gefn a rolau gwirfoddoli a geir o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân mai swyddi wrth gefn sydd i’w cael yn bennaf yn y gorsafoedd tân ar Ynys Môn ond mae Diffoddwyr Tân llawn amser wedi’u lleoli yng Ngorsaf Dân Caergybi.

·         Gofynnwyd sut mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n delio gyda galwadau tân diangen a pha ganran o alwadau diangen y gellir codi tal amdanynt? Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân bod y galwadau diangen yn bennaf yn gysylltiedig â safleoedd busnes ac ni ellir codi tâl amdanynt.

·         Yn ystod y cyflwyniad cyfeiriwyd at gynllunio a chynnal ymarferion ar y cyd â phartneriaid ar safle Wylfa. Gofynnwyd ym mha ardaloedd eraill y bwriedir trefnu ymarferion. Dywedodd y Rheolwr Ardal bod ymarferion lleol yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac mae ymarferion ar raddfa fawr yn cael eu cynnal ar safle’r Llu Awyr Brenhinol yn y Fali ac ar safle Wylfa, ar y cyd â nifer o sefydliadau eraill. Mae Porthladd Caergybi wedi’i gynnwys yn y rhaglen ymarferion lleol hefyd, ac mae ymarferion rheolaidd yn cael eu cynnal fel rhan o’r rhaglen honno. Mae hyfforddiant yn cael ei gynnal hefyd ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd difrifol ac mae ymarferion yn cael eu cynnal ar y Fenai. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod y Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub yn gosod dyletswydd ar y Gwasanaeth Tân i gasglu a chynnal gwybodaeth am unrhyw risgiau hysbys; mae Swyddogion Tân yn adolygu risgiau ar safleoedd yn rheolaidd, h.y. Porthladd Caergybi. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cwestiynau wedi’u gofyn mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn am y risg o dân yng Nghoedwig Niwbwrch a gallu’r gwasanaethau tân i gyrraedd y goedwig oherwydd y problemau traffig sy’n bodoli, yn enwedig yn ystod y tymor gwyliau pan fydd pobl yn ymweld â’r ardal. Dywedodd y Swyddog Ardal fod cynlluniau tactegol ar waith i sicrhau fod y Gwasanaeth Tân yn gallu ymateb i ddigwyddiadau all godi ac mae cerbydau arbenigol yn cael eu hanfon i ddigwyddiadau o’r fath. Ychwanegodd bod y Gwasanaeth yn ymweld yn aml â Choedwig Niwbwrch, ar y cyd ag asiantaethau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru.

·         Cyfeiriwyd at bryderon na fyddai’r Gwasanaeth Tân yn gallu cyrraedd ardaloedd gwledig ar yr Ynys o fewn y cyfnod ymateb penodol o 20 munud a’r posibilrwydd y gallai pobl farw oherwydd hynny. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân y byddai injans tân o’r tir mawr hefyd yn cynorthwyo criwiau ar yr Ynys mewn ardaloedd sy’n anoddach eu cyrraedd o fewn y cyfnod ymateb penodol o 20 munud. Nododd mai pwrpas yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys oedd adolygu a gwella gweithdrefnau presennol y Gwasanaeth Tân a newid systemau dyletswydd yn y gorsafoedd tân amser cyflawn er mwyn rhyddhau ymladdwyr tân llawn amser i weithio mewn ardaloedd gwledig. Ychwanegodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod 18 injan dân ar gael bob dydd o fewn y rhanbarth. Gellir symud injans tân i leoliadau mwy strategol os cyfyd yr angen.

 

PENDERFYNWYD diolch i’r cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am fynychu’r cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: