Derbyn cyflwyniad llafar gan Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru :-
· Darpariaeth gwasanaeth presennol ar Ynys Môn;
· Gwytnwch, heriau a fforddiadwyedd y model darparu gwasanaeth presennol ar yr Ynys;
· Cydweithio rhwng Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a Ms Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu, i’r cyfarfod.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
· Gofynnwyd pa mor hir mae cleifion o Fôn yn gorfod disgwyl am ambiwlans yn dilyn galwad frys a pha gynlluniau sydd ar waith i wella amseroedd ymateb. Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod hyn yn dibynnu ar gategori’r alwad frys ac o ble mae’r ambiwlans yn ymateb i’r alwad. Nododd na fydd yr ambiwlans yn cychwyn o’r Orsaf Ambiwlans fel arfer, ond yn hytrach o Adran Frys ar ôl i’r criw orffen yr alwad frys ar gyfer y claf blaenorol. Yr amser ymateb ar gyfer cleifion y bernir bod angen cymorth brys arnynt (categori coch), h.y., trawiad ar y galon, strôc a chleifion sy’n anymwybodol, yw 8 munud mewn 65% o alwadau. Nid yw’r targed yn cael ei gyrraedd ar hyn o bryd, yn genedlaethol nac yn lleol, a’r amser ymateb yw 10 munud, er bod yr amser yn amrywio yn ystod y dydd a’r nos. Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y Gwasanaethau Ambiwlans wedi buddsoddi’n sylweddol yn ystod y 4 blynedd diwethaf, ar ôl derbyn arian gan Lywodraeth Cymru, er mwyn recriwtio dros 400 o glinigwyr rheng flaen i’r gwasanaeth. Er hynny, mae galwadau brys sy’n cael eu categoreiddio fel rhai lle mae bywyd yn y fantol wedi dyblu, a bu oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion i Adrannau Brys ar hyd a lled ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Er bod y Gwasanaethau Ambiwlans wedi buddsoddi i wella’r gwasanaeth a gwella effeithlonrwydd, gyda pharafeddygon a chlinigwyr wedi’u lleoli mewn cymunedau i drin cleifion nad oes angen mynd â nhw i’r ysbyty mewn ambiwlans, mae pwysau o hyd ar y Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd y Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu fod staff yn cael eu datblygu ar yr Ynys, gyda Thechnegwyr Meddygol Brys yn hyfforddi i fod yn Barafeddygon. Mae 2 Barafeddyg wedi ymuno â’r tîm ar Ynys Môn a bydd hynny’n caniatáu i gleifion gael eu trin gan staff sydd wedi cymhwyso’n llawn ac efallai na fydd angen eu cludo i’r ysbyty. Gofynnwyd cwestiynau pellach am gleifion sy’n gorfod aros oriau i ambiwlans gyrraedd. Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod rhai cleifion, nad yw eu bywyd mewn perygl, yn gorfod aros am amser hir i’r ambiwlans gyrraedd a’u bod yn gorfod aros yn yr ambiwlans tu allan i adrannau brys am gryn amser. Er hynny, mae’n adlewyrchu’r sefyllfa sydd ohoni o ran gofal brys a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.
· Gofynnwyd beth yw’r trefniadau ar gyfer blaenoriaethu galwadau pan fydd galw sylweddol am y Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr holl alwadau 999 yn cael eu categoreiddio yn ôl faint o amser a gymer y gwasanaeth brys i ymateb. Mae oedi hir wrth drosglwyddo cleifion i adrannau brys ac mae ambiwlansys yn ciwio tu allan i’r adrannau brys, ac mae hynny’n creu rhagor o oedi wrth ymateb i alwadau brys eraill. Llif cleifion trwy’r ysbytai sydd i gyfrif am yr oedi wrth drosglwyddo cleifion, ac mae cleifion sy’n ddigon iach i gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn llenwi’r gwelyau. Problemau yn y system ofal cymdeithasol i oedolion sydd i gyfrif am hyn, oherwydd pwysau o ran darparu pecynnau gofal er mwyn caniatáu i gleifion ddychwelyd adref.
· Gofynnwyd beth yw’r amseroedd aros cyfartalog mewn ambiwlans tu allan i’r Adran Frys yn Ysbyty Gwynedd a sut mae’r amseroedd aros yn cymharu ag adrannau Brys eraill yn yr ardal. Gofynnwyd hefyd i ba raddau allai cydweithio gyda’r sector gofal cymdeithasol liniaru neu leihau amseroedd aros. Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r amser targed ar gyfer trosglwyddo cleifion i Adrannau Brys yw 15 munud, a’r disgwyl yw y byddai criw’r ambiwlans yn treulio 15 munud arall yn glanhau a pharatoi ar gyfer eu claf nesaf. Fodd bynnag, yng Nghymru mae’n cymryd 2 awr ar gyfartaledd i drosglwyddo cleifion a pharatoi ar gyfer y claf nesaf, ond mae Gogledd Cymru’n ardal heriol o safbwynt trosglwyddo cleifion i’r ysbyty. Dywedodd hefyd fod ar gyfartaledd 1,500 o gleifion y dydd ar hyd a lled Cymru ddylai fod yn derbyn gofal yn ddiogel yn eu cymunedau lleol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu fod y Bwrdd Iechyd a’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol am ofal cymdeithasol ac mae angen i gleifion fod yn ddiogel yn eu cartrefi. Cyfeiriodd y Pwyllgor at ddarparwyr amgen sy’n darparu cludiant i gleifion, h.y. Môn Medics a Medic 1. Gofynnwyd a fyddai’r darparwyr hyn yn gallu cynorthwyo’r Gwasanaeth Ambiwlans a lleihau amseroedd aros. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Gwasanaeth Ambiwlans yn darparu gwasanaeth trosglwyddo cleifion ac mae’n gofalu am gleifion nad oes angen gofal brys arnynt, yn ogystal ag ymateb i alwadau brys. Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn darparu’r system ofal brys GIG 111. Defnyddir gwirfoddolwyr yn helaeth ar hyd a lled Gogledd a Gorllewin Cymru i gludo cleifion i apwyntiadau a drefnwyd (nad ydynt yn alwadau brys). Mae gwirfoddolwyr sydd wedi cael eu hyfforddi ac wedi derbyn cyfarpar gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn gweithio fel Ymatebwyr Cyntaf ac Ymatebwyr Lles mewn cymunedau lleol ac maent ar gael i ddelio gydag argyfyngau lle mae bywyd yn y fantol cyn i’r ambiwlans gyrraedd. Cyfeiriodd at ddarparwyr tu allan i’r GIG sydd â chapasiti cyfyngedig. Nid yw’r Gwasanaethau Ambiwlans yn defnyddio darparwyr tu allan i’r GIG ar gyfer galwadau brys fel rheol, oherwydd ansawdd a diogelwch y gwasanaethau a ddarperir o gymharu â’r safon ofynnol. Nododd na fyddai cael ambiwlansys ychwanegol i gludo cleifion i adrannau brys yn lliniaru’r problemau sy’n bodoli o ran amseroedd aros.
· Gofynnwyd pa ganran o staff y Gwasanaeth Ambiwlans sy’n gweithio gyda chleifion ar Ynys Môn sy’n siarad Cymraeg. Dywedodd y Prif Weithredwr bod staff ledled y rhanbarth yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddysgu Cymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu fod y Gwasanaethau Ambiwlans wedi dod yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn ddiweddar a’r blaenoriaethau fydd yn cael sylw yw sut i ddatblygu staff yn lleol ac annog pobl ifanc i ymuno â’r Gwasanaeth Ambiwlans mewn gyrfaoedd ym mhob rhan o’r gwasanaeth.
Roedd rhaid i gynrychiolwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fynychu cyfarfod arall ond cytunont i ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau eraill yr oedd y Pwyllgor yn dymuno iddynt eu hateb.
PENDERFYNWYD diolch i’r cynrychiolwyr o Wasanaethau Ambiwlans Cymru am fynychu’r cyfarfod.
GWEITHRED : Bod gweddill cwestiynau’r Pwyllgor yn cael eu hanfon at Brif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn derbyn ymateb ysgrifenedig ganddo.