12.1 FPL/2024/37 – Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus
12.2 FPL/2023/353 - Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
12.3 FPL/2020/104 – Stâd Ty'n Llain, Llanfairpwll
12.4 FPL/2023/364 - Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
12.5 VAR/2024/31 – Tir ger Stâd Bryn Glas, Brynsiencyn.
12.6 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel
Cofnodion:
12.1 FPL/2024/37 – Cais llawn am estyniad i'r ganolfan ddydd i ddarparu llety preswyl yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli yng nghlwstwr gwledig Capel Mawr fel y'i diffinnir o dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ar y safle presennol ceir adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel annedd, ond yn ddiweddar mae gwaith wedi’i wneud arno i’w newid yn ganolfan gofal dydd yn unol â chaniatâd FPL/2021/310. Mae’r adeilad yn un llawr gyda digon o gwrtil a 2 fynedfa breifat oddi ar y ffordd gyhoeddus i fynd i mewn ac allan o’r safle. Mae’r cais hwn ar gyfer codi estyniad yng nghefn yr adeilad a fydd yn creu lle ar gyfer 3 ystafell wely, a ddefnyddir fel llety ar gyfer 1 aelod staff a 2 ddefnyddiwr gwasanaeth. Ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAI 11, gan fod y safle o fewn llain fawr o dir ac na fyddai'n niweidiol i'r eiddo cyfagos. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais gan y bydd y cynnig yn defnyddio'r fynedfa a’r allanfa bresennol fel y cymeradwywyd yn flaenorol.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2023/353 – Cais llawn ar gyfer codi 54 o anheddau newydd, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch gorddatblygu'r ardal, diogelwch y briffordd a phryderon lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Gan siarad i gefnogi'r cais, dywedodd Asiant yr ymgeisydd, fod caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi i ddatblygu'r safle ac mae'r cais hwn gan Clwyd Alyn ar gyfer codi 54 o anheddau yn cynnwys 4 byngalo dwy ystafell wely, 1 byngalo dwy ystafell wely ac 1 byngalo tair ystafell wely gyda’r ddau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, 10 annedd dwy ystafell wely, 12 annedd tair ystafell wely, 6 annedd pedair ystafell wely ac 20 fflat un ystafell wely. Mae nifer yr anheddau yn uwch na'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, ond mae hyn oherwydd bod y cais hwn yn cynnig cartrefi a fflatiau llai i ddiwallu'r angen lleol am dai fforddiadwy. Mae'r safle o fewn ffin datblygu Caergybi ac mae wedi'i ddynodi ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r CDLl ar y Cyd yn amcangyfrif bod y safle yn addas ar gyfer 53 o unedau (un yn llai na'r cynnig hwn). Felly, mae'r cais hwn yn cydymffurfio â'r CDLl ar y Cyd ac yn gwneud gwell defnydd o'r safle na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae'n bwysig nodi, er bod y safle wedi'i ddynodi'n safle preswyl sy'n gofyn am ganran fach yn unig o dai fforddiadwy, y bydd pob un o'r 54 uned a ddarperir gan Clwyd Alyn bellach yn fforddiadwy, sy'n llawer uwch na'r hyn sy’n ofynnol yn ôl y polisi. Felly, mae'r datblygiad yn cydymffurfio â gofynion polisi TAI 15 gan ei fod yn darparu unedau fforddiadwy ar y safle. Mae'n amlwg o'r ffigurau bod angen lleol am unedau 1, 2 a 3 ystafell wely. Felly, mae'r amrywiaeth tai arfaethedig yn darparu mwy o unedau 1, 2 a 3 ystafell wely i ddiwallu'r angen penodol hwn. Fodd bynnag, mae'r datblygiad hefyd yn cynnig unedau 4 ystafell wely i ddarparu amrywiaeth briodol ar gyfer y safle/ardal. Bydd yr amrywiaeth tai arfaethedig yn helpu i ddiwallu'r angen a nodwyd yng Nghaergybi ar gyfer fflatiau, byngalos ac anheddau pedair ystafell wely, gan gynnwys tai arbenigol. Dylid nodi bod sylwadau wedi'u derbyn mewn perthynas â bioamrywiaeth a bod angen cynnig gwelliannau er gwaethaf y caniatâd cynllunio presennol. Er mwyn rhoi sylw i’r materion bioamrywiaeth mae 15 o flychau adar a 15 o flychau ar gyfer y wennol ddu yn cael eu cynnig yn ogystal â gwrychoedd newydd a dolydd blodau gwyllt a phorfa ar hyd y terfyn - bydd hyn yn darparu mannau agored o ansawdd uchel. Mae taliad ariannol am welliannau bioamrywiaeth yng Nghaergybi a Phorthdafarch hefyd yn cael ei gynnig. Un mater sy'n cael ei godi'n aml wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn y lleoliad hwn yw diogelwch y briffordd - mae hyn wedi cael ei ystyried yn fanwl wrth ystyried ceisiadau blaenorol yn ogystal â'r un yma. Cafodd y cais blaenorol ei gymeradwyo yn dilyn apêl gyda chostau'n cael eu dyfarnu i'r ymgeisydd gan nad oedd sail dros wrthod oherwydd pryderon traffig. Er bod hwn yn gais am ragor o unedau, bydd yr unedau'n llai (gan gynnwys 20 fflat un ystafell wely) felly ni fydd cynnydd mewn traffig, a rhaid nodi bod y CDLl ar y Cyd yn cynnig yr un nifer o unedau ar y safle. Yn dilyn asesiad mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod y datblygiad yn dderbyniol a chynigir gwelliannau i gerddwyr.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais wedi'i leoli ar safle dynodedig (T11) o fewn ffin anheddiad Caergybi o dan ddarpariaeth PCYFF 1 ac felly mae'r egwyddor o ddatblygiad preswyl yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â pholisi cynllunio TAI 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod capasiti ar hyn o bryd yn bodoli yn yr anheddiad ac nad oes angen Datganiad Iaith Gymraeg. Yn ôl Polisi TAI 15 rhaid i ran o'r datblygiad gael ei ddarparu at ddibenion tai fforddiadwy ac yng Nghaergybi mae hyn yn cyfateb i 10% o'r cyfanswm o unedau sy'n cyfateb i 5.4 uned. Mae'r cynllun yn cynnig 6 annedd fforddiadwy, ac mae hyn yn cydymffurfio â pholisi TAI 15. Fodd bynnag, gan mai tai Clwyd Alun yw'r tai hyn, bydd 100% o’r datblygiad yn dai cymdeithasol ond byddant yn destun cytundeb cyfreithiol Adran 106 i sicrhau y bydd 6 eiddo yn fforddiadwy. Adroddodd ymhellach ei bod yn bwysig nodi bod cais am 32 o anheddau'r farchnad agored a 4 annedd fforddiadwy wedi'i wrthod oherwydd pryderon yn ymwneud â’r briffordd. Llwyddodd yr ymgeisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad a dyfarnwyd costau iddo ym mis Awst 2021. Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais gan y Pwyllgor oedd y byddai traffig ychwanegol yn sgil y cynnig yn arwain at dagfeydd ar Ffordd Porthdafarch rhwng Tan yr Efail a Ffordd Kingsland a fyddai'n rhwystro llif y traffig a diogelwch y briffordd. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ar sylwadau'r Arolygiaeth Gynllunio o ran y penderfyniad apêl i'r Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Roberts, Aelod Lleol fod llawer iawn o ddatblygu o fewn safle’r cais a bod problemau traffig yn broblem yn ardal Kingsland. Mynegwyd pryderon lleol ynghylch y datblygiad hwn gan drigolion ystâd bresennol Cae Rhos. Mae dwysedd uchel o dai yn yr ardal hon o Gaergybi a hon yw’r brif ffordd am Ynys Cybi. Mae problemau parcio a thraffig eisoes yn yr ardal ac mae’r trigolion yn gorfod parcio ar ochr y ffordd, sy’n golygu bod llif traffig dwy ffordd eisoes yn broblem yn yr ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts p’un ai y gellid cynnal cynllun Rheoli Traffig i edrych ar broblemau traffig a dywedodd fod angen ymweld â’r safle.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i ddynodi'n safle datblygu ar gyfer 53 uned o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Yn ystod y broses apelio, cyflogodd yr ymgeisydd SMP i gynnal arolwg a chafodd ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio. Yn ystod y broses apelio, penododd y Cyngor Arup i asesu'r ffordd. Yn anffodus, ni allai Arup anghytuno â chasgliadau SMP, a daeth yr Arolygydd Cynllunio i'r casgliad bod yr asesiad traffig yn dderbyniol. Nododd y byddai'n anodd cyfiawnhau gwrthod y cais heb dystiolaeth gref i'r gwrthwyneb ynglŷn â'r effaith ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fod problemau traffig sylweddol yn yr ardal yma o Gaergybi gan fod y ffyrdd yn gul. Fodd bynnag, derbyniodd fod angen amrywiaeth o ran datblygiadau tai, ond nid yw pobl yn gallu fforddio prynu a rhentu eiddo oherwydd y meini prawf ynghylch fforddiadwyedd. Holodd a all meddygfeydd ac ysgolion lleol ddarparu ar gyfer y preswylwyr ychwanegol o ddatblygiad o'r fath.
Mewn ymateb, atgoffodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai tai cymdeithasol yw 100% o'r datblygiad gan Clwyd Alyn. Nododd fod dros 900 o bobl ar y rhestr aros am dŷ. Mewn ymateb i'r sylwadau ynghylch a allai meddygfeydd ac ysgolion ymdopi â phobl ychwanegol yn sgil y datblygiad, dywedodd nad oedd gwrthwynebiad wedi dod i law yn ystod y broses ymgynghori gyda'r ymgyngoreion statudol.
Ailadroddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y pryderon ynghylch y problemau traffig yn ardal y datblygiad hwn a bod angen ymchwilio i'r seilwaith priffyrdd. Holodd a oedd angen i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod ymweliad safle eisoes wedi ei gynnal i'r safle hwn ac nad oedd yn ystyried bod angen ailymweld â’r safle. Dywedodd fod y safle wedi ei nodi fel tir datblygu.
Yn dilyn pleidlais fe gytunodd y Pwyllgor i beidio ag ailymweld â’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig i’w gymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y cynnig i’w wrthod.
Yn dilyn y bleidlais roedd 9 o blaid y cais a 2 yn ei erbyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb 106 i sicrhau tai fforddiadwy.
12.3 FPL/2020/104 - Cais llawn ar gyfer gosod system rheoli dŵr wyneb oddi ar y safle er mwyn gwasanaethu’r datblygiad preswyl cyfagos a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio cyfeirnod 31C170E (Cais llawn ar gyfer codi 16 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr) ar dir gyferbyn ag Ystâd Tŷ’n Llain, Llanfairpwll
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o'r tir yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynllun draenio a gymeradwywyd o dan y cais cynllunio cyfeirnod 31C170E i'w leoli yn y cae i'r de-ddwyrain i safle'r cais presennol mewn cae amaethyddol gwag wrth ymyl Hen Lôn Dyfnia. Yn dilyn archwiliadau pellach gan y datblygwyr, gwelwyd nad oedd y cynllun draenio dŵr wyneb a gafodd ei gymeradwyo yn addas i’r lleoliad a gymeradwywyd, gan fod y cynnig yn amharu ar brif bibell ddŵr. Dywedodd y datblygwr nad oedd y brif bibell ddŵr wedi cael ei lleoli’n briodol ar y mapiau gwasanaeth cyfleustodau. Mae’r cais presennol ar gyfer darparu system draenio dŵr wyneb oddi ar y safle. Bydd dŵr o’r ystâd ddiwydiannol yn llifo i danciau, a phan fydd y tanciau’n gorlifo, bydd y dŵr yn cael ei ddraenio i’r draen presennol yn y tir fydd yn llifo i geuffos sy’n rhedeg cyfochr â phriffordd yr A55. Yn wreiddiol roedd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gwrthwynebu'r cais oherwydd y pryderon y byddai dŵr yn draenio i’r draen yn y tir ac i'w ceuffos ar yr A55. Fodd bynnag, yn ystod trafodaethau hir a chyfarfodydd dros sawl blwyddyn, mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi cadarnhau bod y system ddraenio’n dderbyniol.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2023/364 – Cais llawn i dynnu’r twnnel polythen presennol, codi adeilad cymunedol newydd i’w ddefnyddio gan y gymuned a’r ysgol, chodi ffensys a chreu ardal barcio newydd yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol a pherchnogion y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle arfaethedig wedi'i leoli o fewn safle Ysgol Gymraeg Morswyn sydd gerllaw Ffordd Cyttir yn nhref Caergybi. Mae'r safle presennol yn ardal o borfa ger Ffordd Cyttir ac yn ardal o borfa o fewn cwrtil yr ysgol lle mae twnnel polythen ar hyn o bryd. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys cael gwared ar y twnnel polythen, codi adeilad cymunedol newydd i’w ddefnyddio gan y gymuned a’r ysgol, codi ffens a chreu ardal barcio newydd. Ystyrir bod dyluniad yr adeilad cymunedol yn dderbyniol ac na fyddai'n cael effaith negyddol ar yr ysgol bresennol. Bydd gan yr ardal barcio newydd le i 11 cerbyd barcio a bydd llwybrau i gerddwyr a chroesfannau ynghyd ag arwyddion hefyd yn rhan o’r datblygiad. Ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd a Dŵr Cymru ac maent wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiad i'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 VAR/2024/31 - Cais o dan Adran 73A er mwyn diwygio amod (18) (cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd yr ystâd yn y dyfodol) er mwyn cyflwyno'r wybodaeth ar ôl dechrau datblygu’r safle ac amod (22b) (adroddiad o waith archeolegol) er mwyn darparu'r wybodaeth o fewn 18 mis i gwblhau'r gwaith maes archeolegol o ganiatâd cynllunio FPL/2022/46 (codi 12 annedd) ar dir ger Ystâd Bryn Glas, Brynsiencyn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais cychwynnol ar y safle FPL/2022/46, wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2022.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais o dan Adran 73A ar gyfer amrywio amodau (18) a (22b) o ganiatâd cynllunio FPL/2022/46 er mwyn darparu'r wybodaeth y tu hwnt i'r amserlen a bennir gan yr amodau. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i ryddhau amod (18) ac mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GAPS) wedi cytuno i ryddhau a diwygio amod (22b).
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 FPL/2024/66 – Cais llawn i godi sied amaethyddol ym Mryncelli Ddu, Llanddaniel
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol yn sgil pryderon mewn perthynas â graddfa’r sied a’i heffaith ar yr amgylchedd, gyda phryderon penodol yn ymwneud â’r Afon Braint.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Lleol i'r Pwyllgor eu bod yn ymweld â'r safle gan fod gan y Cyngor Cymuned bryderon ynghylch draenio ac am fod y sied yn uwch na'r disgwyl. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i ymweld â'r safle.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd (effaith weledol a materion draenio).
Dogfennau ategol: