Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn: 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yn cyflwyno’r adroddiad gan fod y Cynghorydd Llinos Medi wedi ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor ar ôl iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn. Llongyfarchodd y Pwyllgor y Cynghorydd Llinos Medi ar gael ei hethol a thalwyd teyrnged iddi am ei gwaith er budd trigolion Môn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ei fod yn dymuno diolch i’r Cynghorydd Llinos Medi am ei gwaith ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r hyn a gyflawnwyd gan y Bwrdd er mwyn gwella llesiant cymunedau yn ystod 2023/2024. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Cyfeiriodd at amcanion llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, sef lliniaru effaith tlodi; gwella cyflawniad plant a phobl ifanc a chefnogi cymunedau i symud tuag at sero net. Ychwanegodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod y blaenoriaethau’n cyd-fynd â Chynllun Llesiant ac amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â’r Cynllun Pwysau Iach a’r Iaith Gymraeg. Cyfeiriodd at esiamplau o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Nodwyd bod yr Adroddiad Blynyddol yn trafod blwyddyn gyntaf y Cynllun Llesiant : 2023-2028. Holwyd pa werth ychwanegol mae gwaith partneriaeth wedi’i greu. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod holl aelodau’r Bwrdd wedi dangos parodrwydd i weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn  gwella’r blaenoriaethau a llesiant trigolion Gwynedd ac Ynys Môn. Mae’r sefydliadau partner yn gallu rhannu profiadau ac enghreifftiau o waith sydd wedi arwain at welliant sylweddol dros y blynyddoedd. Rhannodd esiamplau o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd o ran mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth recriwtio a chadw staff sy’n siarad Cymraeg ac mae 17 o sefydliadau wedi rhannu eu harfer dda o ran recriwtio staff. Gofynnwyd tybed ai’r strwythur cyflog yw’r rheswm bod pobl ifanc yn gadael yr Ynys. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad graddfeydd cyflog swyddi yw’r prif reswm sy’n atal pobl rhag ymgeisio am swyddi yn yr 17 sefydliad y bu’r Bwrdd yn trafod â nhw. Mae nifer o’r problemau recriwtio’n rhai ymarferol, h.y., efallai bod y swydd ddisgrifiad yn arwain pobl i feddwl nad yw eu sgiliau iaith yn ddigon da. Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen hefyd at y Cynllun Teithio Llesol y bu’r Bwrdd yn ei drafod. Cyngor Sir Ynys Môn sydd wedi arwain y gwaith hwn ac mae wedi rhannu arfer dda gyda sefydliadau eraill sy’n aelodau o’r Bwrdd.

·         Holwyd beth yw lle’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn y strwythurau partneriaeth rhanbarthol cymhleth sy’n bodoli a sut mae gwneud y gorau o gydweithio er mwyn osgoi dyblygu nifer o’i ffrydiau gwaith. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn benderfynol o beidio â dyblygu ffrydiau gwaith sefydliadau partner. Fel enghraifft, dywedodd bod y Bwrdd wedi mabwysiadu’r dull system gyfan mewn perthynas â’r flaenoriaeth Pwysau Iach ac wedi’i ymgorffori yng ngwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn ychwanegu gwerth at y gwaith sy’n cael ei wneud ac osgoi dyblygu. Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at y gwaith sy’n mynd rhagddo ar y Gymraeg a gwaith y Bwrdd gyda’r prosiect ARFOR a Chomisiynydd y Gymraeg, er mwyn cynorthwyo i greu mwy o gyfleoedd a gwella’r defnydd o’r Gymraeg. Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod sefydliadau partner wedi rhannu eu gwaith ar ‘sero net’ ac mae hyn yn cynorthwyo’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i rannu profiadau ac enghreifftiau o arfer dda.

·         Holwyd pa gyfleoedd, heriau a risgiau sy’n wynebu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol? Rhannodd y Rheolwr Rhaglen enghreifftiau o waith y Bwrdd o ran cyd-lobïo ar faterion strategol, h.y., gwahoddwyd Mr Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, i gyfarfod nesaf y Bwrdd i drafod y posibilrwydd o drydydd croesiad dros y Fenai. Dywedodd bod y Rhwydwaith Teithio Gwledig yn broblem mewn cymunedau gwledig. Cyfeiriodd hefyd at yr heriau sy’n wynebu’r Bwrdd o ran denu adnoddau ariannol rhanbarthol ac mae angen i’r Bwrdd fod ar flaen y gad o ran denu cyllid rhanbarthol. Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at y perygl o ddyblygu, fel y nodwyd yn flaenorol.

·         Gofynnwyd i ba raddau mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar allu partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni yn erbyn y targedau allweddol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith sylweddol ar waith y Bwrdd. Mae blaenoriaethau’r Cynllun Llesiant wedi’u llunio i gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar gymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/2024 a nodi cynnydd yn erbyn Cynllun Llesiant 2023-2028 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: