Eitem Rhaglen

Hunan Asesiad Corfforaethol 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys adroddiad hunanasesu corfforaethol blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fel y trydydd adroddiad hunanasesu a gynhyrchwyd gan y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021. Mae'r adroddiad yn sail dystiolaeth o sut mae'r Cyngor wedi perfformio dros y flwyddyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig. O'r saith maes allweddol sy'n ganolbwynt i'r hunanasesiad, asesir bod pedwar maes (cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio'r gweithlu a rheoli perfformiad) yn rhagori ar ddisgwyliadau tra asesir bod tri maes (rheoli asedau, caffael a rheoli contractau, a rheoli risg ac archwilio) yn bodloni disgwyliadau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cyfleoedd i wella  a monitro sawl maes yn ystod 2024/25 a chraffwyd ar y gwaith gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth ar yr adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol o'i gyfarfod ar 13 Mehefin 2024 gan gadarnhau bod y Pwyllgor, wrth gymeradwyo'r adroddiad, wedi gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis ynghylch y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu mewn perthynas â'r tri maes allweddol a aseswyd fel rhai sy'n bodloni disgwyliadau (yn hytrach na rhagori ar ddisgwyliadau), a bod yr adroddiad hunanasesu ar gyfer 2024/25 yn dangos sut mae'r camau hynny wedi gwella'r perfformiad ar gyfer y tri maes allweddol hynny.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y meysydd lle nodwyd bod cyfleoedd i wella a monitro a rhoddodd sicrwydd eu bod i gyd yn cael sylw a'u bod yn symud ymlaen yn dda.

 

Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel tystiolaeth o ymrwymiad parhaus a gwaith caled staff a'u parodrwydd i fynd y filltir ychwanegol fel yr adlewyrchir gan y meysydd yr aseswyd fel rhai sy’n rhagori ar ddisgwyliadau. Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r hunanasesiad a’r broses gadarn o herio perfformiad ar hyd y flwyddyn. Mae'r canlyniad yn glod i'r Awdurdod mewn cyfnod anodd yn ariannol ac mae'n dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ymdrechu i gynnal perfformiad a gwneud yn well lle y bo'n bosibl. Yn y cyd-destun hwn, tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol sylw at wydnwch ariannol y Cyngor fel un o'r meysydd i'w monitro yn y flwyddyn ariannol bresennol yn sgil pwysau costau byw a gostyngiad mewn cyllid. Pwysleisiodd ei fod yn bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol y gallai gwasanaethau fod mewn risg os nad yw’r cyngor hwn a chynghorau eraill yn derbyn setliad ariannol teg ar gyfer 2025/26.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts am sicrwydd bod y mater RAAC yn asedau'r cyngor wedi cael sylw penodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y cyfeiriad at RAAC yn yr adroddiad mewn perthynas â chwblhau'r gwaith adnewyddu yn y ddwy ysgol uwchradd lle'r oedd RAAC yn bresennol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod llawer iawn o waith wedi'i wneud yn y flwyddyn ers i RAAC gael ei ddarganfod yn y ddwy ysgol a bod y ddwy ysgol wedi ailagor yn llawn ym mis Ionawr 2024. Mae'r gwaith mawr wedi'i gwblhau gydag ambell dasg fach i'w gorffen dros yr haf cyn dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

 

Penderfynwyd mabwysiadu dogfen Hunan-asesiad Corfforaethol 2023/24 fel fersiwn terfynol yn dilyn ystyriaeth a sylwadau ar ei gynnwys gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024.

 

Dogfennau ategol: