Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy

FPL/2023/173

 

12.2 VAR/2024/40 – Peboc, Llangefni

VAR/2024/40

 

12.3 FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy

FPL/2022/289

 

Cofnodion:

12.1 FPL/2023/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd â'i addasu a’i ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Sonia Williams, Aelod Lleol, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond ei bod wedi gofyn i aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle a bod ei chais am ymweliad safle yn cynnwys rhesymau cefnogol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 VAR/2024/40 – Cais o dan Adran 73 er mwyn newid amodau (01) (manylion materion a gadwyd yn ôl), (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl), (05) (rhaglen lliniaru archeolegol), (06) (cynllun draenio), (07) (cynllun halogi), (08) (cynllun monitro a chynnal a chadw), (11) (cynllun tirlunio), a (17) (manylion materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio VAR/2022/36 (codi 7 uned fusnes) er mwyn diwygio geiriad yr amodau, â chyflwyno strategaeth newydd yn raddol yn hen safle Peboc, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn ar gyfer diwygio geiriad yr amodau perthnasol i alluogi’r Cyngor Sir i ddatblygu’r safle fesul gam fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r caniatâd gwreiddiol wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel bod rhaid cyflwyno’r holl fanylion i’w gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau datblygu’r safle. Drwy ddiwygio’r amodau bydd modd i’r Cyngor glirio ac adfer y safle cyn cyflwyno manylion am ddyluniad yr unedau busnes. Mae hen safle Peboc wedi bod yn wag wers amser maith ac mae ei gyflwr yn dirywio. Mae’n cael effaith weledol negyddol ar y parc busnes a thref Llangefni ac felly bernir bod y cais yn rhesymol a derbyniol. Ni fu unrhyw newid mewn polisi ers cymeradwyo'r caniatâd diwethaf ac mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog  yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ac i dderbyn gwybodaeth ecolegol yn unol â sylwadau’r swyddog ecolegol. Dirprwyo’r awdurdod i Swyddogion i ddod i benderfyniad ar y cais unwaith y bydd yr wybodaeth ecolegol wedi dod i law ac i ddefnyddio pwerau dirprwyedig  i osod unrhyw amodau cyn dechrau datblygu’r safle.

 

12.3 FPL/2022/289 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorwyr Carwyn Jones ac Alun Roberts, Aelodau Lleol, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond eu bod wedi gofyn i aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle a bod eu cais am ymweliad safle yn cynnwys rhesymau cefnogol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

Dogfennau ategol: