Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2026/27

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig am 2025/26 i 2026/27 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo. Roedd y Cynllun hwn yn nodi’r adnoddau tebygol yr oedd y Cyngor eu hangen am y tair blynedd ariannol nesaf, gan fanylu ar sut roedd y Cyngor yn bwriadu cydbwyso’r arian yr oedd ei angen gyda’r cyllid oedd ar gael. Roedd yn cadw mewn cof yr holl newidiadau hysbys yr oedd angen eu cynnwys yng nghyllideb sylfaenol 2024/25 ac yn gwneud rhagdybiaethau ar y prif ffactorau a gâi effaith ar gyllideb refeniw’r Cyngor (costau cyflog, pensiynau, chwyddiant cyffredinol, cyllid Llywodraeth Cymru, demograffig a phwysau galw).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid fel datganiad blynyddol cyn y gyllideb, fel oedd yn ofynnol gan Gyfansoddiad y Cyngor. Amlinellai sefyllfa ariannol gyfredol y Cyngor a nodi’r rhagamcanion ar gyfer y tair blynedd nesaf, ynghyd â’r rhagdybiaethau yr oedd y rhagamcanion yn seiliedig arnynt a'r materion ariannol a wynebai'r Cyngor dros y cyfnod hwnnw. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i lunio yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd parhaus oedd yn ei gwneud hi'n anodd rhagweld sut byddai’r sefyllfa ariannol gan y gallai'r sefyllfa newid yn sylweddol dros y cyfnod.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth esboniad manwl o sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gofynion cyllidebol rhagamcanol dros y tair blynedd ariannol nesaf fel y'u hadlewyrchwyd yn yr adroddiad, gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion perthnasol gan gynnwys pwysau cyllidebol lleol a chenedlaethol, fel y’u disgrifir yn adrannau 5 a 6 o'r adroddiad. Rhoddid amcangyfrif o’r gyllideb refeniw am bob un o’r blynyddoedd ariannol am 2025/26 i 2027/28 yn Nhabl 8 yr adroddiad, yn seiliedig ar y senario mwyaf tebygol ar gyfer yr holl ragdybiaethau (roedd enghreifftiau o’r senarios gorau a gwaethaf wedi’u nodi yn Nhabl 9) a bod gofyn cael cyllideb ychwanegol o £11.841m am 2025/26. Er mwyn ariannu'r gofyniad hwn, yn ogystal â chyllid parhaol yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i fantoli'r gyllideb yn 2024/25, byddai angen i Gyllid Allanol Cyfun (AEF) y Cyngor godi 7% a Threth y Cyngor godi dros 17% (gweler Tabl 10 yr adroddiad). Os nad oedd cynnydd yn yr AEF, yna byddai'n rhaid i Dreth y Cyngor godi tua 36% er mwyn cynhyrchu digon o arian parhaol i gwrdd â'r gofyn cyllideb net amcangyfrifedig o £196.005m yn 2025/26. £3.88m ychwanegol yn unig fyddai cynnydd o 1% yn yr AEF yn ei gynhyrchu a chynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor. Byddai hyn yn gadael bwlch o £7.958m, ynghyd â chael rhywbeth yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd yn 2024/25 oedd yn mynd â’r diffyg i £12.382m. Roedd Adran 12 o'r adroddiad yn amlinellu'r llwybrau posibl oedd ar gael i'r Cyngor ddechrau mynd i'r afael â'r bwlch ariannu, gan gynnwys defnyddio rhyw gymaint ar falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn. Dangosai’r dadansoddiad yn Atodiad 4 yr adroddiad y câi 85.9% o gyllideb gwariant net y Cyngor ei wario ar wasanaethau statudol, oedd yn ei gwneud yn anodd iawn cyflawni arbedion cyllidebol os oeddid yn cynnal gwasanaethau statudol. Roedd gwaith wedi dechrau i nodi unrhyw arbedion effeithlonrwydd y gellid eu defnyddio ond, o ystyried y toriadau cyni blaenorol a'r galw cynyddol am wasanaethau, nid oedd Gwasanaethau wedi nodi unrhyw arbedion effeithlonrwydd sylweddol y gellid eu gwneud. Trwy leihau gwasanaethau neu drwy roi'r gorau i ymgymryd â gwasanaethau yn unig y gellid gwneud unrhyw arbedion.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi’n glir mai’r sefyllfa ar gyfer 2025/26 oedd y gwaethaf yr oedd y Cyngor wedi’i wynebu ar y cam hwn o’r broses gosod cyllideb ers nifer o flynyddoedd, gan ddilyn ymlaen o 2024/25, oedd hefyd yn flwyddyn heriol yn ariannol o ran gosod y gyllideb. Er bod y sefyllfa yn dechrau gwella yn 2026/27 a 2027/28, roedd y gwelliant yn ddibynnol ar nifer o ffactorau yn bod o’n plaid e.e. chwyddiant a dyfarniadau cyflog yn parhau'n isel, y galw am wasanaethau yn gwastatáu, arbedion cyllidebol yn cael eu nodi a'u cyflawni a setliad llywodraeth leol yn cyd-fynd â chwyddiant. Nid oedd y sefyllfa ym Môn yn ddim gwahanol i sefyllfa cynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr, gyda rhai awdurdodau lleol mewn sefyllfa llawer gwaeth a rhai eisoes mewn trafferthion ariannol.

 

Wrth ddweud bod yr adroddiad yn ddarlun sobreiddiol iawn, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod rheolwyr y Cyngor yn cymryd y sefyllfa o ddifrif ac yn mynd i’r afael â hi’n ddyddiol, gan geisio rheoli a lleihau gwariant presennol fel bod y Cyngor yn y sefyllfa orau bosibl i osod cyllideb y flwyddyn nesaf. Roedd Uwch-reolwyr, hefyd, yn ystyried yr holl opsiynau ar gyfer eu cyflwyno i'r prosesau gwleidyddol a democrataidd a ddilynai, gan gynnwys a fyddai’r Cyngor yn cyflawni disgwyliadau statudol neu a fyddai’n parhau i fynd y tu hwnt i'r disgwyliadau hynny oherwydd mai dyma oedd y peth iawn i'w wneud. Roedd y rhain yn drafodaethau anodd eu cael ac yn brosesau anodd eu harwain wrth, hefyd, geisio cynnal morâl ac ewyllys da staff. Roedd nifer o ffactorau allai ddylanwadu ar sut gyllideb a geid ac efallai y gallai’r rhain arwain at ganlyniad gwell na'r disgwyl a, thrwy hynny, leihau'r angen am doriadau i wasanaethau. Ategodd fod y Tîm Arweinyddiaeth a'r uwch-reolwyr yn gwerthuso'r sefyllfa yn y tymor byr a chanolig gan gynnwys sut i sicrhau y byddai’r Cyngor yn parhau'n gynaliadwy wrth, hefyd, barhau i gwrdd â gofynion statudol a disgwyliadau trigolion.

 

Cydnabu’r Cadeirydd yr heriau ariannol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu yn y blynyddoedd nesaf a diolchodd ef ac aelodau’r Pwyllgor Gwaith i’r Swyddog Adran 151 am nodi’r heriau hynny’n glir ac yn gynhwysfawr yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac roeddynt yn ddiolchgar am yr arweiniad a’r cyfeiriad a roddwyd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at drafodaethau a gafodd gyda chynrychiolwyr dau gyngor arall oedd yn ystyried codi treth y cyngor 10% neu’n uwch er mwyn mynd i’r afael â diffygion yn y gyllideb – rhywbeth oedd yn adlewyrchu’r anawsterau cyffredinol yr oedd cynghorau yn mynd i’r afael â nhw.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig  2025/26 - 2026/27 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ynddo.

 

Dogfennau ategol: