Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer 2023/24

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer 2023/24.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft y CYS ar gyfer 2023/24 gerbron y CYS am ystyriaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd a rhoddodd deyrnged i’r diweddar Miss Bethan James, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y CYSAG, a fu farw mis Ionawr eleni. Diolchodd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS, a fu’n gweithio gyda Miss James yn GwE, i’r Cadeirydd am ei geiriau caredig.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pwyntiau canlynol yn ei chrynodeb: -

 

  Mae newidiadau diweddar i aelodaeth y CYS wedi ehangu’r cwmpas ar

   gyfer aelodau newydd.

  Mae adroddiadau archwilio Estyn yn ystod y 12 mis diwethaf wedi dangos

   bod safonau Addysg Grefyddol yn Ynys Môn wedi bod yn rhagorol.

  Bu Cadeirydd ac aelod arall o’r CYS yn ymweld ag Ysgol Bodffordd ac

   roeddynt wedi synnu pa mor dda mae CGM wedi ymgorffori mewn gwersi

   yn yr ysgol. Cafodd aelodau eraill o’r CYS eu hannog i ymweld ag ysgolion

   yn ystod y flwyddyn newydd.

  Mae nifer y disgyblion sy’n astudio CGM TGAU wedi cynyddu.

  Gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r cwricwlwm drwy gynhyrchu casgliad o

   leoliadau ysbrydol ar gyfer ysgolion, fydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

 

Cyfeiriodd Ymgynghorydd Proffesiynol CYS at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad: -

 

  Bydd crynodeb y Cadeirydd yn cael ei gynnwys dan Adran 1.1. yr

   adroddiad.

  Mae dolenni at Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru

   wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

  Mae blynyddoedd 10, 11, 12 a 13 mewn ysgolion ar Ynys Môn yn

   defnyddio’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol fel eu Maes Llafur

   Cytunedig Lleol.

  Mae nifer y disgyblion sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch

   wedi disgyn ers y llynedd.

  Archwiliodd Estyn 7 ysgol y llynedd, ac adrodd ar bob un.

  Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweithredu ar geisiadau gan y CYS, a amlinellir

   yn Adran 2.4 yr adroddiad.

  Mae’n ddyletswydd ar ysgolion i gynnig sesiynau addoli ar y cyd mewn

   ysgolion. Mae adnoddau ar gyfer ysgolion ar wefan y CCYSAGauC i fodloni

   gofynion statudol mewn perthynas ag addoli ar y cyd.

  Mae templed CYS yn adran 3.3 yr hunan-werthusiad ar gyfer ysgolion

   mewn perthynas â safonau Addysg Grefyddol yn cyfeirio at Addysg

   Grefyddol yn hen Fframwaith Archwilio Estyn. Mae Estyn wedi addasu ei

   Fframwaith, a bellach mae ganddo 3 maes archwilio yn hytrach na 5. Mae’r

   templed wedi dyddio, a bydd angen cael gwared arno ar gyfer yr adroddiad

   blynyddol nesaf. Efallai y bydd angen ei ail ysgrifennu os yw ysgolion yn

   edrych ar Addysg Grefyddol drwy lygaid Estyn.

  Roedd y meini prawf maes archwilio ar dudalen 28 ar gyfer hunan-

   werthusiad ysgolion ar Addysg Grefyddol yn berthnasol yn ystod cyfnod yr

   adroddiad, ond bydd angen ei ddiweddaru.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Addysg, yr Uwch Reolwr Cynradd (Clerc y CYS) ac Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS am eu gwaith yn paratoi Adroddiad Blynyddol y CYS.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Adroddiad Blynyddol y CYS ar

   gyfer 202/24.

  Cynnwys Crynodeb y Cadeirydd yn Adran 1.1. yr adroddiad.

  Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn diweddaru’r templed hunan-werthuso

   a gyflwynwyd yn yr adroddiad, a

  Chyflwyno addasiadau i’r templed yng nghyfarfod nesaf y CYS.

  Bod fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer

   2023/24 yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru er gwybodaeth.

 

(Ymunodd Mr Richard Jones â’r cyfarfod am 2:30 pm)

Dogfennau ategol: