Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu Adnoddau Dynol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig 2024/25.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Hyfforddi ar y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/2025 a oedd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 yn yr adroddiad. Dywedodd bod y Cynllun yn parhau i gael ei rannu’n gategorïau, h.y. Hyfforddiant Mandadol; Ychwanegol; Iechyd a Llesiant; Ar gais a Modiwlau E-ddysgu sydd ar gael ar y Llwyfan E-ddysgu, y Gronfa Ddysgu. Dywedodd fod 37 o sesiynau datblygu wedi cael eu cynnig i Aelodau Etholedig hyd yma ers mis Ebrill 2023. Er mwyn lliniaru a blaenoriaethu’r hyn a gynigir i aelodau etholedig mae 22 llai o sesiynau wedi eu cynnig o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yn yr adroddiad sydd yn amlygu nifer yr aelodau a dderbyniodd wahoddiadau i fynychu hyfforddiant a faint o aelodau a fynychodd y sesiynau mewn gwirionedd. Nododd fod yr angen i fynychu hyfforddiant gorfodol yn cael ei bwysleisio, ond mae presenoldeb yn y sesiynau hyn yn is nag y dymunir. Mae hyn serch bod nifer o ddigwyddiadau sy’n amrywio o ran eu ffurf a’u hamseriad yn cael eu cynnig, h.y., wyneb yn wyneb, rhithwir a sesiynau gyda’r nos. Nid yw’r aelodau hynny sydd heb fynychu hyfforddiant wedi derbyn gwybodaeth sy’n allweddol iddynt er mwyn cyflawni eu rôl ac mae hynny’n creu pryder penodol. Rhaid cydnabod hefyd bod y sefyllfa’n effeithio ar ymdrechion i ddatblygu’r rhaglen ehangach oherwydd yr angen parhaus i drefnu sesiynau ychwanegol ar gyfer cyrsiau a ddarparwyd yn barod.
Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu hefyd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r Gwasanaethau Democrataidd, ar gais y Pwyllgor Safonau, ynglŷn â llunio Cynllun pwrpasol ar gyfer Arweinyddion Grwpiau ac mae hyn yn cael ei amlygu yn yr adroddiad. Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu’n parhau i weithio’n agos â’r Gwasanaethau Democrataidd a Swyddogion perthnasol o fewn yr awdurdod i sicrhau fod y cynllun yn mynd i’r afael ag anghenion yr Aelodau Etholedig a’i fod yn parhau i ddatblygu’n unol â’r galw.
Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau trafod canlynol ac ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd.
• Fel yr amlygir yn yr adroddiad, mae’n siomedig bod llai nag y dymunir o Aelodau Etholedig yn mynychu sesiynau hyfforddi gorfodol. Awgrymwyd y gallai Aelodau’r Pwyllgor hwn siarad â’r aelodau hynny sydd heb fynychu’r sesiynau hyn. Holwyd a fyddai’n bosib darparu enwau’r Aelodau sydd heb fynychu’r hyfforddiant gorfodol. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth bod dulliau anffurfiol a ffurfiol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo hyfforddiant ymysg Aelodau Etholedig. Mae Arweinyddion Grwpiau’n derbyn diweddariad chwarterol sy’n cynnwys gwybodaeth am bob aelod o’r grŵp sydd wedi mynychu hyfforddiant gorfodol a’r aelodau sydd heb fynychu. Nododd y gellid anfon neges at Arweinyddion Grwpiau er mwyn mynegi pryderon y Pwyllgor. Dywedodd aelodau’r Pwyllgor bod angen amlygu pa sesiynau hyfforddiant sydd angen eu blaenoriaethu a pha rai sy’n ddewisol.
• Gofynnwyd p’un a yw presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi’n cael ei gofnodi ar wefan y Cyngor. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod gwybodaeth am bresenoldeb ar gyrsiau hyfforddi’n cael ei arddangos o dan broffil pob Aelod Etholedig ar y wefan.
• Dywedodd yr aelodau hefyd bod yr Adran Gynllunio’n darparu sesiynau hyfforddi i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn rheolaidd, ond dim ond hanner aelodau’r Pwyllgor fydd yn mynychu. Ystyrir bod y sesiynau hyn yn hanfodol er mwyn i Aelodau Etholedig ddeall y penderfyniadau cymhleth sy’n gysylltiedig â’r broses gynllunio. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu y byddai’n fodlon cynorthwyo’r Adran Gynllunio i hyrwyddo’r gofyn i aelodau fynychu’r sesiynau a ddarperir.
• Cyfeiriwyd at y cyrsiau Cymraeg a ddarperir ar gyfer staff ac Aelodau Etholedig, o gyrsiau sylfaenol i gyrsiau uwch. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu fod 133 aelod o staff wedi dangos diddordeb mewn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg ar wahanol lefelau.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: