Derbyn cyflwyniad gan Gyngor ar Bopeth Ynys Môn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd Cara Jones, Rheolwr Prosiect a Goruchwylydd Ynni, a Danielle Owen o Gyngor ar Bopeth, Môn a'u gwahodd i roi trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliad.
Amlinellodd Cara Jones waith Cyngor ar Bopeth Môn, sef roi cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i bobl ynghylch eu hawliau. Nod y sefydliad oedd helpu pobl, beth bynnag oedd eu problemau, a gwella polisïau ac arferion a gâi effaith ar fywydau pobl. Rhoddid cyngor ar ystod eang o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, dyled, cyllidebu, tai, cyflogaeth, gofal cymunedol a mudo, pynciau yr oedd llawer ohonynt yn gysylltiedig â thlodi, atal tlodi a helpu pobl i wella eu hamgylchiadau. Er bod Cyngor ar Bopeth Môn ar gael i bawb, roedd yn cydnabod bod rhai grwpiau a chymunedau mewn mwy o berygl o dlodi nag eraill a chanolbwyntiai ei ymdrechion yn y meysydd hyn. Roedd grwpiau blaenoriaeth Cyngor ar Bopeth Môn yn cynnwys gofalwyr a phobl ag anabledd tymor hir a phroblemau iechyd gan gynnwys iechyd meddwl, dibyniaeth, anawsterau dysgu ac awtistiaeth. Roedd y sefydliad, hefyd, yn helpu plant a phobl ifanc, cyn-filwyr, pobl ddigartref, pobl hŷn a dioddefwyr cam-drin domestig. Roedd y Cyngor yn cyfrannu at gyllid craidd y sefydliad oedd yn hanfodol i Gyngor ar Bopeth Môn fel elusen. Cyfeiriodd Cara Jones hefyd at gyfraniadau cyllid eraill yr oedd Cyngor ar Bopeth Môn wedi’u derbyn ar gyfer gwaith a phrosiectau penodol. Eglurodd y strwythur staffio a’r trefniadau llywodraethu a oruchwylir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a osodai, hefyd, gyfeiriad strategol y sefydliad. Roedd Cyngor ar Bopeth Môn yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau ar nifer o brosiectau gan gynnwys y Cyngor, oedd yn cydweithio â nhw mewn sawl maes, gan gynnwys ar grwpiau amlddisgyblaethol megis y grŵp Trechu Tlodi. Yn 2023/24, helpodd Cyngor ar Bopeth Môn 2,069 o gleientiaid gyda 15,680 o faterion ar draws 19,532 o weithgareddau. Gwireddwyd tua £1.734m o fudd-daliadau a hawliadau i gleientiaid ynghyd â £177k mewn datrys dyledion. Cafodd saith deg saith o gleientiaid ragor o gymorth yn dilyn cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni ar ôl i gymorth cychwynnol ar y safle gael ei roi pan gynigiwyd cyfweliad i'r holl weithwyr yr oedd y cau yn cael effaith arnynt.
Roedd y galw am wasanaethau Cyngor ar Bopeth Môn yn parhau i dyfu gan arwain at amseroedd aros a heriau o ran datrys problemau o fewn amser penodol. Golygai costau byw a chostau ynni cynyddol bod mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd diwallu anghenion sylfaenol gan eu rhoi mewn mwy o berygl o dlodi a dyled. Defnyddiai mwy o bobl, hefyd, y gwasanaeth am gyngor cyfreithiol oherwydd na allent gael cymorth cyfreithiol na fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol. Er gwaethaf yr heriau, byddai Cyngor ar Bopeth Môn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i roi cymorth ac i rannu gwybodaeth am y ffordd orau o helpu’r rhai oedd â’r angen mwyaf.
Cafwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan yr aelodau ––
Mewn ymateb i'r materion a godwyd, dywedodd cynrychiolwyr Cyngor ar Bopeth Môn fel a ganlyn –
Amlygodd y Prif Weithredwr fod cydweithio yn un o werthoedd craidd y Cyngor a’i fod yn faes oedd yn esblygu’n barhaus. Roedd Cynllun Strategol Trechu Tlodi’r Cyngor yn ddogfen i’r Cyngor cyfan oedd wedi’i hategu gan strwythurau a ddeuai â gwasanaethau ynghyd. Ymgorfforai ddangosfwrdd cost-byw a roddai wybodaeth amser real am sefyllfa costau byw ac roedd yn fodd i unrhyw dueddiadau gael eu nodi a'u dadansoddi. Roedd y Cyngor o'r farn ei bod yn bwysig y câi penderfyniadau ynghylch trechu tlodi eu llywio gan ddata a’u bod yn seiliedig ar wybodaeth. Diolchodd i Gyngor ar Bopeth Môn am eu cyflwyniad ac fel partner pwysig o’r Cyngor a'r gobaith oedd y byddai’r cyfarfod wedi rhoi sicrwydd i’r aelodau bod y Cyngor yn cydweithio’n effeithiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi a gwella canlyniadau i drigolion yr Ynys.
Diolchodd y Pwyllgor i Cara Jones a Danielle Owen o Gyngor ar Bopeth Môn am eu hamser a’u cyflwyniad ac am waith gwerthfawr y sefydliad yn darparu cyngor a chefnogaeth i drigolion Ynys Môn.
Nid oedd unrhyw gamau gweithredu ychwanegol.
Dogfennau ategol: