Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y
cyflwyniadau dan yr eitem hon a'r eitem a ganlyn oedd yn
gysylltiedig â Chynllun Strategol Trechu Tlodi 2024 i 2029 y
Cyngor. Roedd y cynllun wedi’i seilio ar chwe maes
blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu, gyda’r gwaith hwn
yn cael ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth â
Chymunedau’n Gyntaf Môn a Chyngor ar Bopeth, ymhlith
eraill, a chydweithio â nhw.
Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai at waith yn y
Cyngor oedd yn ymwneud â mynd i’r afael â thlodi,
gwaith hanfodol yr oedd helpu trigolion Ynys Môn i gael
mynediad at fudd-daliadau a hawliadau yn rhan hanfodol ohono. Roedd
gan y Cyngor Dîm Hawliau Lles yng Nghanolfan JE O’Toole yng Nghaergybi a wasanaethai’r
Ynys gyfan. Daeth tua 5,400 o drigolion i mewn i’r ganolfan
yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, gyda 1,900 ohonynt
yn berchnogion tai, 1,800 yn denantiaid y Cyngor a 780 yn
denantiaid preifat. O ran proffil oedran y rhai oedd yn ceisio
cymorth a chefnogaeth y gwasanaeth, roedd tua 60% yn 55 oed a
throsodd, 10% yn yr ystod oedran 25 i 34, 13% yn yr ystod oedran 35
i 44 ac roedd 14 % yn yr ystod oedran 45 i 54. Roedd y ganolfan yn
gwneud llawer o waith yn cynorthwyo unigolion i sicrhau’r
budd-daliadau a’r cymorth y gallent fod â hawl iddynt
ac, yn 2023/24, llwyddodd y ganolfan i sicrhau enillion ariannol o
tua £5.7m i’r rhai oedd yn ceisio ei chymorth a, thrwy
hynny, gyfrannu at liniaru caledi ariannol i’r aelwydydd
hynny.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rita Radcliffe, Prif
Weithredwr Cymunedau Ymlaen Môn i’r cyfarfod gan ei
gwahodd i roi trosolwg o waith y sefydliad.
Amlinellodd Ms Radclife y
cefndir i Môn CF. Roedd yn elusen leol oedd yn eiddo i'r
gymuned ac yn gweithredu ar Ynys Môn, gyda 45 o staff ar hyn
o bryd a throsiant o £4m y flwyddyn. Roedd gan yr elusen
swyddfeydd yn Amlwch, Caergybi a Phorthaethwy a swyddfa newydd yn agor yn Llangefni.
Câi Môn CF ei ariannu o sawl ffynhonnell gan gynnwys y
Cyngor ac roedd yn helpu dros 600 o unigolion ar yr Ynys ar unrhyw
un adeg gyda chymorth cyflogaeth, chymorth busnes a hyfforddiant
oedd, ynghyd ag ysgolion a phobl ifanc, ac adfywio trefi trwy
berchnogaeth eiddo, yn flaenoriaethau strategol y sefydliad. Roedd
y sefydliad yn cydweithio ag ystod o bartneriaid ac roedd ganddo
gysylltiadau â nifer, gan gynnwys nifer o adrannau’r
Cyngor ac roedd yn agored i weithio gyda holl wasanaethau’r
Cyngor ar brosiectau lle ystyriai y gallai mewnbwn Môn CF
ychwanegu gwerth. Rhoddodd Ms Radcliffe
drosolwg o’r ystod o gymorth cyflogaeth a busnes a roddai
Môn CF, ynghyd â’r data o ran ymgysylltiadau a
chanlyniadau yn 2023/24 a 2024/25 (Ebrill i Awst). Roedd hyn yn
cynnwys cymorth i’r di-waith i’w paratoi ar gyfer y byd
gwaith, cymorth i’r rhai oedd eisoes mewn gwaith i wella eu
hamgylchiadau, cymorth gyda gwersi gyrru a chostau cludiant a gofal
plant, paratoi pobl ar gyfer gwaith trwy ystod eang o gyrsiau
hyfforddi, cymorth i unigolion oedd am ddechrau eu busnesau eu
hunain, cymorth ymarferol i gyflogwyr lleol gyda'u prosesau
recriwtio a grantiau, yn ogystal â bod yn rhan o ffeiriau
swyddi. Roedd Môn CF yn berchen ar 11 eiddo oedd yn gymysgedd
o swyddfeydd, eiddo masnachol, ac eiddo preswyl. Trwy ei raglen
eiddo roedd yn ceisio bod yn landlord gyda chydwybod cymdeithasol a
olygai rhenti teg ac adeiladau o ansawdd uchel a gâi eu
cynnal a’u cadw’n rheolaidd.
Mynegodd y Pwyllgor ei werthfawrogiad o’r
cyflwyniad a roddwyd gan Brif Weithredwr Môn CF ac yn sgil y
wybodaeth a gyflwynwyd, cafwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan yr
aelodau –
- A oedd Môn CF wedi gweld unrhyw newidiadau yn y
galw ym math y cymorth oedd ei angen ar unigolion yn y blynyddoedd
diwethaf.
- Math y cymorth a’r gefnogaeth yr oedd pobl mewn
gwaith yn gofyn amdano amlaf.
- O gofio’r hinsawdd
economaidd bresennol a'r argyfwng costau byw, a oedd Môn CF
yn hyderus y gallai barhau i ddarparu'r ystod o gymorth a
gwasanaethau yr oedd yn eu darparu ar y pryd neu a oedd yn rhagweld
y byddai’n rhaid gwneud gostyngiadau mewn rhai
meysydd.
- O gofio, yn hanesyddol, y bu canfyddiad bod Môn
CF yn gwasanaethu ardal Caergybi yn bennaf, a allai’r
sefydliad roi sicrwydd ei fod yn rhoi cymoth a gwasanaethau i bobl ar draws yr
Ynys.
- Pa gymorth a gwasanaethau pellach gallai Cymunedau
Ymlaen Môn eu darparu pe byddai ganddo adnoddau
ychwanegol.
- A oedd y sefydliad wedi teilwra rhaglenni'n benodol
naill ai ar hyn o bryd neu wedi'u cynllunio ar gyfer pobl 50 neu 60
oed oedd am newid gyrfa neu ymddeol ac a oedd pobl hŷn oedd yn
chwilio am waith yn gwneud hynny o'u gwirfodd neu oherwydd bod yn
rhaid iddynt gael dau ben llinyn ynghyd.
- Lle gellid gwella’r cydweithio gyda Chyngor Sir
Ynys Môn ac eraill.
- Y meini prawf yr oedd Môn CF yn eu defnyddio i
asesu angen pan oedd unigolion yn gofyn am gymorth, gyda gwersi
gyrru er enghraifft.
- Y trefniadau ar gyfer cefnogi trigolion ward
Aethwy unwaith y byddai Môn CF yn
sefydlu swyddfa yn Llangefni, yn enwedig o ran unigolion nad ydynt
yn gyrru ac o gofio bod gwasanaethau bysiau yn lleihau. Nodwyd y
byddai symud o Borthaethwy i
Langefni yn golygu colli ffynhonnell
cefnogaeth a chymorth i drigolion y rhan yma o Ynys
Môn.
- Y trefniadau ar gyfer darparu cymorth a chefnogaeth i
bobl ifanc yn y grŵp oedran 18 i 25 yng nghyswllt unrhyw
rwystrau i ddarpariaeth.
- Y trefniadau llywodraethu ar gyfer Môn CF ac a
oedd gan yr ymddiriedolwyr yr arbenigedd i graffu'r sefydliad yn
briodol.
Wrth ymateb i’r materion a godwyd gan y
Pwyllgor, dywedodd Prif Weithredwr Môn CF fel a ganlyn
–
- Er bod y cymorth a roddwyd yn flaenorol yn
canolbwyntio ar fentora pobl i mewn i waith ac ar weithio gyda
chartrefi di-waith a gyda Chymunedau am Waith, roedd, bellach, yn
fwy amrywiol a chyfannol gydag unigolion yn cael cymorth gyda
llawer o agweddau. Roedd Môn CF, hefyd, yn ymwneud yn fwy
â hyfforddiant oedd, bellach, yn benodol iawn i anghenion
unigol a chyda chyflogwyr a lleoliadau gwaith a'r tasgau
gweinyddol/Adnoddau Dynol cysylltiedig. Roedd, hefyd, yn helpu i
hwyluso sefyllfa lle roedd cyflogwr/swydd yn addas i’r person
oedd yn chwilio am waith. Roedd y dirwedd wedi newid ac ymhlith y
newidiadau roedd cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith a ddefnyddiai
gwasanaethau Môn CF.
- Bod pobl oedd mewn gwaith yn dod i Môn CF am
gymorth i newid eu hamgylchiadau, boed hynny trwy sicrhau oriau
ychwanegol i ychwanegu at eu cyflog, trwy sicrhau dyrchafiad, neu
drwy ddod o hyd i waith yn nes at adref. Roedd Môn CF yn eu
helpu i ddod o hyd i ateb i wella eu hamgylchiadau gan gynnwys trwy
uwchsgilio os nad oedd hyfforddiant
mewnol ar gael yn eu cyflogaeth bresennol. Roedd rhaglen yrru
Môn CF yn gymorth mewn-gwaith y bu galw mawr amdano yn y ddwy
flynedd ddiwethaf. Roedd yn rhoi mwy o opsiynau i’r rhai mewn
gwaith oedd eisiau gwella eu hamgylchiadau gan gynnwys swyddi oedd
wedi’u lleoli ymhellach i ffwrdd. Roedd Môn CF, hefyd,
wedi profi mwy o alw am hyfforddiant pwrpasol, a olygai helpu
unigolion i gael trwyddedau/tystysgrifau priodol.
Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd rhaglen yrru Môn
CF yn wyneb y gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau ar Ynys
Môn.
Yn y cyd-destun hwn, tynnodd y Prif Weithredwr sylw
at y ffaith fod nifer o lwybrau bws hanfodol wedi'u tynnu'n
ôl ar yr Ynys gan adael rhai cymunedau heb wasanaeth bws. Er
bod y Cyngor yn ceisio trefnu darpariaeth gymunedol yn yr ardaloedd
hynny, efallai y byddai gan rai unigolion yn y cymunedau yr oedd
hyn yn cael effaith arnynt ac oedd, felly, yn ei chael hi’n
anodd cyrraedd y gwaith, ddiddordeb mewn manteisio ar raglen yrru
Môn CF. Awgrymodd y gallai fod yn fuddiol pe bai'r Cyngor yn
archwilio'r mater hwn ymhellach mewn cydweithrediad â
Môn CF.
- Er nad oedd gan Môn CF gynlluniau i dynnu
unrhyw un o'i wasanaethau yn ôl gan fod eu hangen wedi'i
brofi, roedd faint y gallai ei gyflawni yn dibynnu ar sicrhau'r
cyllid, fel bod modd cael darpariaeth barhaus. Newidiodd cyllid y
sefydliad ar gyfer ei waith gyda phobl ifanc yn ddiweddar a, thrwy
hynny, cwtogwyd ar ei raglen ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed er y
daethpwyd o hyd i ffynhonnell arall o gyllid oedd yn fodd i’r
rhaglen barhau am flwyddyn tra bod Môn CF yn ceisio ateb mwy
parhaol. Fel gyda sefydliadau trydydd sector eraill, roedd
Môn CF yn wynebu heriau ariannol ac ansicrwydd. Roedd Bwrdd
Ymddiriedolwyr yr elusen wedi ymrwymo rhywfaint o’i gronfeydd
wrth gefn i gynorthwyo gyda gwaith darparu gwasanaethau tra oeddid
yn archwilio opsiynau ariannu a chynhyrchu rhagor o
incwm.
- Y gellid cyflwyno data i’r Pwyllgor i ddangos
lle roedd cyfranogwyr Môn CF wedi’u lleoli a’r
niferoedd oedd yn mynd i swyddfeydd. Byddai, hefyd, yn dangos y
rhesymeg dros leoliad y swyddfeydd hynny, gyda swyddfa Amlwch y
prysuraf. Byddai sefydlu swyddfa yn Llangefni yn sicrhau llwybr i
fwy o ardaloedd. Hoffai Môn CF, hefyd, wneud mwy o waith
allgymorth mewn cymunedau ar draws yr Ynys a fyddai'n gwella
hygyrchedd ymhellach.
- Pe bai adnoddau ychwanegol ar gael, byddai Môn
CF yn gallu helpu mwy o bobl. Gwnaed ymdrechion i gadw llwythi
achosion yn hylaw ond roedd y galw yn uchel. Byddai adnoddau
ychwanegol yn fodd i Môn CF wneud mwy o waith gyda phobl
ifanc, i ymestyn ei gynnig hyfforddiant i fwy o leoedd ynghyd
â’i raglen yrru. Gellid, hefyd, wneud mwy o waith
trwyddedu oedd wedi bod yn werthfawr wrth helpu llawer o unigolion
i gael cyflogaeth - gwaith oedd â chyfradd trosi uchel h.y.
Byddai Môn CF yn gwneud mwy o'r hyn yr oedd yn ei wneud
eisoes, sef cefnogi pobl mewn ffordd oedd yn wirioneddol eu
helpu.
- Er nad oedd Môn CF yn cynnig rhaglenni penodol
oedd yn gysylltiedig ag oedran, roedd wedi gweld cynnydd yn nifer y
bobl hŷn oedd yn defnyddio’i wasanaethau, gyda llawer
ohonynt yn dymuno dychwelyd i'r gwaith i ychwanegu at eu pensiynau.
Roedd yr holl wasanaethau yr oedd Môn CF yn eu cynnig ar gael
i bob cleient, waeth beth fo'u hoedran. Defnyddiai pobl hŷn
Môn CF oherwydd eu bod yn chwilio am incwm ychwanegol a/neu
oherwydd eu bod eisiau rhywbeth i'w wneud a fyddai o ddiddordeb
iddynt.
- Y gallai cydweithio wella pe bai sefydliadau partner
yn cysylltu â Môn CF gyda'u syniadau, eu rhaglenni, neu
eu mentrau i ganfod a oedd yn gallu rhoi cefnogaeth a chymorth ac a
allai cydweithio ychwanegu gwerth. Byddai cynrychiolaeth ar grwpiau
a phwyllgorau hefyd yn ddefnyddiol i hysbysu sefydliadau fel
Môn CF a'u cynnwys.
- Y byddai cleientiaid oedd yn ceisio mynediad i'r
rhaglen yrru yn dangos yn eu cyfarfod cyntaf sut y byddai gallu
gyrru yn eu helpu. Byddai eu hamgylchiadau yn cael eu harchwilio
a'u sgorio. Byddai'r mentor y oeddynt wedi'i neilltuo iddo yn
llunio sail resymegol ac yn ei chyflwyno i reolwr prosiect y
rhaglen yrru. Os oedd y cleient yn cwrdd â’r rhan fwyaf
o’r meini prawf ac yn gallu dangos ymrwymiad i ennill
trwydded yrru ac y byddai’n gwella eu hamgylchiadau yn sgil
hynny e.e. fel eu bod yn cael mwy o oriau os oeddynt ar isafswm
cyflog, yna byddent yn cael eu cefnogi.
- Bod yr astudiaeth dichonoldeb a wnaed mewn perthynas
â sefydlu swyddfa yn Llangefni yn dangos bod y niferoedd ym
Mhorthaethwy yn isel o gymharu â rhai Llangefni a'r
cyffiniau. Fel rhan o'r astudiaeth, ystyriwyd ffyrdd y gallai
cyfranogwyr barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth gan gynnwys llwybrau
bysiau a daethpwyd i'r casgliad bod digon o ffyrdd i gael mynediad
at wasanaethau Môn CF, naill ai yn Llangefni, Amlwch, neu'n
rhithwir. Roedd gofod swyddfa hefyd yn ffactor wrth sefydlu
presenoldeb yn Llangefni.
- Bod Môn CF yn parhau i weithio gyda phobl ifanc
18 i 25 oed ac yn ariannu lleoliadau gwaith ar eu cyfer. Cyfeiriodd
Prif Weithredwr Môn CF at newidiadau i'r rhaglen a
threfniadau ariannu ar gyfer y gefnogaeth a ddarperid ar gyfer y
grŵp oedran hwn ac eglurodd y ddarpariaeth
gyfredol.
- Bod Bwrdd Ymddiriedolwyr Môn CF yn cynnwys
aelodau gyda chymysgedd da o wybodaeth, sgiliau ac
arbenigedd.
Mynegodd aelod o’r pwyllgor bryder a thristwch
am effeithiau tlodi ar gymunedau ac unigolion ar draws yr Ynys a
chydnabod y gwaith rhagorol yr oedd sefydliadau cyngor a chymorth
fel Môn CF a Chyngor ar Bopeth yn ei wneud i
gynorthwyo’r rhai a ddeuai atynt am gymorth. Cyfeiriodd at yr
amgylchiadau economaidd heriol, a’r argyfwng costau byw
parhaus ac yn benodol at dynnu’n ôl y lwfans tanwydd
gaeaf i lawer o bensiynwyr. Cododd gwestiynau am yr hyn yr oedd y
Cyngor a sefydliadau partner yn ei wneud yn ymarferol i
helpu’r rhai oedd yn gymwys ar gyfer credyd pensiwn ond nad
oeddynt yn ei hawlio i gael mynediad at y cymorth ariannol
ychwanegol hwn. Awgrymodd y dylid cynnal cyfarfodydd ar draws yr
Ynys i ledaenu’r gair, hyrwyddo’r ffaith bod y budd-dal
ar gael, helpu unigolion i wneud cais amdano i gynyddu’r
nifer a fanteisiai arno a helpu i liniaru’r caledi y byddai
llawer o bensiynwyr yn ei wynebu yn ystod misoedd y gaeaf i
ddod.
Er i Brif
Weithredwr Môn CF gadarnhau y byddai'n hapus gyda sefydliadau
partner eraill yn rhan
o ymdrech o'r fath, amlygodd y byddai angen cyllid i gefnogi'r
fenter.
Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai budd-daliadau fod
yn faes cymhleth a bod llawer o bobl am wahanol resymau yn amharod
i ddod ymlaen i geisio cymorth neu hawlio lwfansau ychwanegol y
gallent fod yn gymwys i'w cael. Byddai ymgyrch gyhoeddusrwydd neu
sioe deithiol yn helpu rhai pensiynwyr, ond nid pob un, ac efallai
na fyddai llawer ohonynt am gael eu gweld yn gyhoeddus yn gofyn am
gymorth ariannol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'n trafod y
mater yn fewnol; yn y lle cyntaf gyda Phennaeth y Gwasanaethau Tai
a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ac, wedi
hynny, gyda sefydliadau partner i archwilio'r hyn y gellid ei wneud
gan gofio, hefyd, bod y Cyngor, o bosibl, yn wynebu diffyg o
£12m yn y gyllideb yn 2025/26. Tynnodd sylw at y ffaith fod
gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i sicrhau bod unigolion yn gwireddu
eu hawliau e.e ystyrrir defnyddio gwybodaeth refeniw a budd-daliadau i nodi
unigolion sydd mewn perygl o fynd i ddyled oherwydd tlodi ac
i’w helpu i gael budd-daliadau neu drwy ddulliau eraill. Fodd
bynnag, weithiau gallai cael gair distaw gydag unigolyn neu gartref
fod yn fwy priodol ac yr un mor effeithiol.
Tynnodd Cara Jones, Cyngor ar Bopeth Môn, sylw
at y ffaith nad oedd llawer o bensiynwyr cymwys yn dod ymlaen i
fanteisio ar y cymorth oedd ar gael er bod darpariaeth allgymorth
ar draws yr Ynys i helpu gyda cheisiadau Credyd Pensiwn a gâi
ei hwyluso gan y Cyngor.
Diolchodd y Pwyllgor i Brif Weithredwr Môn CF
am ei hamser a’i chyflwyniad a chydnabod y gwaith a’r
gefnogaeth ragorol a geid gan y sefydliad.
Camau gweithredu y cytunwyd arnynt –
- Bod swyddogion, mewn cydweithrediad â Môn
CF, yn ymchwilio i weld a oes unigolion mewn cymunedau lle roedd y
gwasanaeth bws wedi’i dynnu’n ôl, a
fyddai’n elwa o raglen yrru Môn CF.
- Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r
Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 15 a Phennaeth y
Gwasanaethau Tai, yn archwilio ffyrdd y gall y Cyngor ei hun a
thrwy gydweithio â'i bartneriaid, helpu rhagor ar unigolion,
lle bônt yn gymwys, i gael credyd pensiwn a/neu hawliau
eraill.