Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Ch1 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmer a nodwyd bod yr adroddiad ar gyfer 2024/25 mewn fformat newydd a’i fod yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn yr amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor. Mae nifer o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn newydd, nid oes gan rhai ohonynt dargedau ar hyn o bryd ac maent yno i osod gwaelodlin, gyda rhywfaint o ddata ddim ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag bydd tueddiadau’n cael eu monitro o Chwarter 2 yn ystod 2024/25 gyda’r nod o osod targedau yn 2024/25. Nododd bod 94% o’r dangosyddion sydd â thargedau, ac a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter, yn perfformio’n dda. Cyfeiriodd at ddau ddangosydd sydd angen sylw: Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen a chanran y busnesau risg uchel a gafodd eu harchwilio  yn unol â’r safonau hylendid bwyd. Aeth y Cynghorydd Carwyn Jones ymlaen i ddweud bod 68.46% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf. Mae’r dangosydd hwn yn perfformio’n dda gyda statws Ambr, a dywedodd ei fod yn gobeithio gweld hyn yn cynyddu. Cyfeiriodd at y Gwasanaethau Plant, sy’n perfformio’n well na’r targedau ac at y Gwasanaethau Hamdden lle mae dros 130,000 wedi defnyddio’r gwasanaeth, sy’n uwch na’r targed o 115,000.  Mae canran presenoldeb disgyblion ysgolion cynradd wedi cynyddu ers y pandemig.  Roedd perfformiad da hefyd o ran datblygu tai Cyngor newydd gyda 22 o dai newydd yn cael eu datblygu yn ystod y cyfnod, ac o ran prynu cyn Dai Cyngor yn ôl i’w gosod fel Tai Cyngor gyda 16 o dai preifat yn dod yn dai rhent cymdeithasol unwaith eto o gymharu â tharged o 11 drwy’r ymyraethau Tai Gwag. Roedd canran y ceisiadau gorfodi cynllunio a ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod yn 97% yn erbyn targed o 80% a chanran yr unedau busnes a osodwyd yn 86%.  Aeth ymlaen i ddweud bod canran y strydoedd sy’n lân yn 96.60% yn dilyn archwiliad gan yr Adran Briffyrdd, sy’n uwch na’r targed. Mae 12% o fflyd y Cyngor yn gerbydau carbon isel ac felly mae’r dangosydd yma’n perfformio’n dda. 

 

Fe wnaeth yr Aelodau nodi’r perfformiadau da yn ystod Ch1 a diolch i’r Swyddogion a staff. Wrth graffu ar yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor a chafwyd ymateb gan yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a’r Swyddogion.

 

  • Mae 94% o ddangosyddion perfformiad yr Awdurdod gyda thargedau wedi’u monitro wedi perfformio’n dda, sy’n adroddiad cadarnhaol ar ddiwedd Chwarter 1. Gofynnwyd pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd y 2 ddangosydd arall yn gwella.

 

  • Archwiliadau Hylendid Bwyd - nodwyd bod 22 o safleoedd wedi cael eu harchwilio yn erbyn targed o 31. Mae diffyg adnoddau i gynnal yr archwiliadau hyn wedi achosi problemau a bu’n rhaid rhoi blaenoriaeth i safleoedd bwyd risg uchel. Mae rhaglen waith wedi cael ei rhoi ar waith yn y gwasanaeth i gydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd.

 

  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – derbyniwyd cyfanswm o 247 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y chwarter ac mae’r ceisiadau hyn yn cynnwys nifer uchel o gwestiynau. Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf mae camau lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith yn cynnwys datblygu system CRM gyda’r nod o greu dashfwrdd a fydd ar gael ar gyfer pob Rheolwr Gwybodaeth, fel y gallant weld y cerdyn sgorio yn ddyddiol ac edrych ar geisiadau, amserlenni, cynnydd ac ymatebion hwyr. Fel y nodwyd, roedd cyfanswm o 247 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y cyfnod ac ymatebwyd i 205 ohonynt o fewn yr amserlen. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu'r gyfradd ymateb ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ond oherwydd yr angen i wneud arbedion, mae rhywfaint o leihad mewn capasiti i ymdrin â thasgau o fewn y gwasanaethau yn golygu bod y targed o 90% yn parhau i fod yn un anodd. 

 

  • Er bod y Pwyllgor yn croesawu datblygu tai cymdeithasol ar yr ynys, holwyd ynglŷn ag effaith hynny ar y cymunedau Cymraeg pan fydd pobl ddi-Gymraeg yn dod i fyw i’r anheddau hynny. Dywedodd y Pennaeth Tai bod y polisi Gosod Tai yn rhoi blaenoriaeth i gyswllt ‘lleol’ ag Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd pan fydd unigolyn(ion) yn gwneud cais am dŷ Cyngor. Fodd bynnag, nid yw’r cyswllt lleol yn golygu bod pawb sy’n ymgeisio am dŷ cymdeithasol yn siarad Cymraeg.

 

  • Nodwyd bod 29 ysgol â statws eco-ysgol yn cynnwys 2 ysgol uwchradd. Holwyd ynglŷn â’r cynlluniau sydd ar y gweill i sicrhau bod y 3 ysgol uwchradd arall yn ennill y statws hwn.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y Swyddog Newid Hinsawdd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd a lled yr ynys yn gysylltiedig â’r statws eco-sgolion a'r blaenoriaethau o fewn y mentrau sero net.

 

 

  • Cyfeiriwyd at y 6 ysgol sy’n derbyn cymorth ac sydd â chynllun adfer ariannol. Holwyd ynglŷn â’r cymorth y maent yn ei dderbyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod cyfarfodydd a chymorth rheolaidd ar gael i’r ysgolion hyn a bod yr Adran Gyllid yn monitro’r cynlluniau adfer ariannol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod gwaith ar y gweill i gefnogi ysgolion unigol a’i bod hi’n anodd cyflawni rhai cynlluniau ariannol ymhen blwyddyn. Fe all sefyllfa ariannol ysgolion newid o un flwyddyn i’r llall wrth i fwy o blant ddechrau yn yr ysgol, sy’n gallu helpu rhai ysgolion i ddod allan o drafferthion ariannol. Fodd bynnag, pan fydd ysgolion unigol yn wynebu toriadau, darperir cymorth i sicrhau na fydd y toriadau hynny’n effeithio ar berfformiad yr ysgol.

 

  • Mae’r adroddiad yn cynnwys y dangosydd perfformiad allweddol ‘canran y strydoedd sy’n lân’. Holwyd beth y mae glân yn ei olygu yng nghyd-destun y dangosydd hwn.   Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y dangosydd perfformiad yn ymwneud â glendid strydoedd preswyl.  Mae’r Safonau Cenedlaethol yn cynnwys pedwar categori, sef A i D. Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn adolygu hylendid strydoedd yn flynyddol.

 

  • Roedd adroddiadau blaenorol ar y cerdyn sgorio yn amlygu tueddiadau yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Holwyd a fydd gwybodaeth debyg yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar gyfer y chwarter nesaf ac a oes modd cymharu’r chwarter â’r un chwarter ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio a Pherfformiad Corfforaethol y bydd yr adroddiad Ch2 yn cynnwys adran ychwanegol a fydd yn monitro’r tueddiadau ar gyfer pob chwarter.  Dywedodd y bydd yn ystyried cynnwys cymhariaeth â’r un chwarter ar gyfer y flwyddyn flaenorol ond y gall gwybodaeth ychwanegol yn y cerdyn sgorio gymhlethu’r wybodaeth yn y ddogfen. Mae’r broses o ddatblygu’r Cerdyn Sgorio wedi cael ei drafod â’r Aelodau Portffolio, y Pwyllgor Gwaith a’r gwasanaethau i gadarnhau’r dangosyddion ychwanegol i fonitro perfformiad y Cyngor. Mae’r dangosyddion ychwanegol yn y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 yn seiliedig ar fesur llwyddiant yn erbyn Cynllun y Cyngor. Efallai y bydd yn rhaid addasu’r cerdyn sgorio dros y chwarteri nesaf yn ddibynnol ar yr adborth a dderbynnir.

 

  • Mae’r cerdyn sgorio ar gyfer Ch1 yn dangos bod 1,847 o blant yn cael gwersi nofio gan Môn Actif drwy gydol y flwyddyn. Holwyd p’un ai a yw’r ffigurau’n cynnwys plant sy’n cael gwersi nofio am un tymor yn unig. Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bod y ffigwr ar y cerdyn sgorio ar gyfer un tymor yn unig. 

 

  • Cyfeiriwyd at y dangosyddion Gofal Cymdeithasol a Llesiant yn gysylltiedig â nifer y bobl hŷn (65 oed a hŷn) y mae’r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal. Soniwyd am y Fforwm Dementia yng Nghaergybi ar gyfer Gofalwyr a nodwyd nad ydynt yn cael cydnabyddiaeth am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi pobl â dementia. Holwyd faint o bobl sydd â Dementia ar yr ynys. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod nifer y bobl â Dementia ar Ynys Môn ac mewn siroedd eraill ar gynnydd. Dywedodd bod gweithgareddau tebyg yn cael eu cynnal ar hyd a lled yr Ynys. Dywedodd bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl â Dementia a’u Gofalwyr, ond bod adnoddau’n brin. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gweithio â’r Sector Gwirfoddol a’r Gwasanaeth Iechyd i gydnabod unigolion â Dementia ac i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer mewn cymunedau lleol. 

 

Ar ôl adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch1, 2024/2025 a nodi ymateb yr Aelod Portffolio a’r Swyddogion i’r materion a godwyd, PENDERFYNWYD:-

 

  • Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a'r mesurau lliniaru a amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: