Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a
Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad a Llesiant
Blynyddol ar gyfer 2023/2024, i’w ystyried gan y
Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn
Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y
Cwsmer. Dywedodd
bod yr adroddiad yn nodi nifer o gyflawniadau nodedig sydd wedi
cyfrannu at nifer o welliannau ac yn darparu sylfaen gadarn i
gefnogi’r Cyngor er gwaetha’r heriau economaidd sydd
o’i flaen. Cyfeiriodd at waith y Fforwm Iaith a nododd ei bod
hi wedi bod yn bleser mynychu digwyddiad a drefnwyd gan y Fforwm yn
Sioe Amaethyddol Ynys Môn ym mis Awst a bod y cydweithio i
hyrwyddo’r Gymraeg yn gadarnhaol. Cyfeiriodd at y prosiectau Gofal
Cymdeithasol a Llesiant, ac yn benodol at waith y gwasanaeth
a’r cae 3G ym Modedern. Agorwyd trydydd Cartref Clyd er bydd
ein pobl ifanc er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymuned leol ac i sicrhau arbedion
ariannol i’r Cyngor. Prosiectau Addysg – mae’r
Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei gyflwyno ym mhob ysgol ac mae
systemau wedi cael eu datblygu i fesur effaith gwaith yn
gysylltiedig â llesiant, cynhwysiant a lles plant, pobl ifanc
a’r gweithlu. Tai
– mae’r gwaith o ddatblygu Tai Gofal Ychwanegol yn
Nhyddyn Mostyn , Porthaethwy yn mynd rhagddo. Yr Economi – mae’r
unedau busnes ychwanegol wedi cael eu cwblhau yn Llangefni a
Chaergybi. Newid Hinsawdd – buddsoddi yn ein hadeiladau
i’w gwneud yn fwy effeithlon, lleihau’r ynni a
ddefnyddir a lleihau allyriadau carbon y Cyngor. Diolchodd i staff
y Cyngor am eu cyflawniadau a’u gwaith caled yn ystod y
flwyddyn.
Wrth graffu ar yr adroddiad, codwyd y pwyntiau
canlynol gan y Pwyllgor a chafwyd ymateb gan yr Aelod Portffolio
Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer a’r
Swyddogion.
- Mae’r
adroddiad yn cyflwyno cyflawniadau nodedig sydd wedi cyfannu at
nifer o welliannau ar yr Ynys. Holwyd ynglŷn â’r
trefniadau i hyrwyddo a rhannu’r cyflawniadau hynny ar draws
yr Awdurdod a thu hwnt. Dywedodd yr Aelodau Portffolio Busnes
Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod Uned Gyfathrebu’r
Cyngor yn gyfrifol am hyrwyddo’r cyflawniadau nodedig drwy
gyhoeddi datganiadau i’r wasg a negeseuon ar y cyfryngau
cymdeithasol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio a Pherfformiad
Corfforaethol y bydd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer
2023/2024 yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ddiwedd y mis ac y
bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi i hyrwyddo
cyflawniadau’r Cyngor yn ystod 2023/2024.
- Holwyd ynglŷn
â’r meysydd perfformiad penodol y dylid eu
blaenoriaethu ar sail risg yn ystod 2024/25. Cyfeiriodd y Rheolwr
Cynllunio, Rhaglen a Pherfformiad Corfforaethol at yr Hunanasesiad
Corfforaethol ar gyfer 2023/24 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym
mis Gorffennaf.
Mae’r Hunanasesiad Corfforaethol Blynyddol yn nodi’r
chwe maes blaenoriaeth y bydd y Cyngor yn eu rhoi ar waith er mwyn
gwella. Bydd
diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini
Corfforaethol ddechrau’r flwyddyn ar hynt y meysydd allweddol
sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad. Wrth ymateb i’r sylwadau
ynglŷn â’r meysydd perfformiad y dylid eu
blaenoriaethu ar sail risg yn ystod 2024/25 dywedodd y Prif
Weithredwr y bydd adnoddau ariannol y Cyngor a’r galw am
wasanaethau yn ffactor risg oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio
a’r pwysau ar y gwasanaethau plant a thai.
- Mae’r
adroddiad yn trafod mai'r prif reswm dros yr oedi cyn lansio'r
Porth Tenantiaid Digidol oedd gwaith uwchraddio TG ychwanegol yr
oedd ei angen ar y tîm Tai. Holwyd pa ffactorau eraill (os o
gwbl) a gyfrannodd at yr oedi hwn a pha ddiweddariadau cyfathrebu a
ddarparwyd i denantiaid yn eu hysbysu am yr oedi cyn lansio'r
porth. Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Tai bod y gwasanaeth wedi gorfod
blaenoriaethu’r gwaith o uwchraddio ei systemau a bod hynny
wedi arwain at oedi wrth lansio’r Porth Tenantiaid Digidol.
Cafodd y Gwasanaethau Tai gyfle i gyfrannu at y CRM Corfforaethol
ac mae systemau’r Gwasanaethau Tai wedi gwella o ganlyniad.
Mae’r Cyngor wedi cyfathrebu â’i denantiaid
drwy'r Panel Tenantiaid Digidol a’r Fforwm Tenantiaid
i’w diweddaru
ynglŷn â’r oedi gyda’r porth tenantiaid
digidol.
- Mae’r
adroddiad yn amlygu bod y gwaith o osod pontynau glanio newydd ym
Mhorth Amlwch a Phier San Siôr wedi cael ei ohirio. Holwyd
ynglŷn â’r hyn a gyfrannodd at y penderfyniad hwn.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bod y
gwelliannau i’r pontynau glanio wedi cael eu gohirio oherwydd
bod y costau wedi cynyddu a felly roedd yn rhaid adolygu’r
costau hynny. Bydd y gwaith o osod y pontŵn newydd ym Mhier San
Siôr yn dechrau ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ym Mhorth Amlwch
bydd yn rhaid ystyried dyluniad mwy addas oherwydd natur y
Porth. Bydd yn rhaid
dod o hyd i ffynonellau cyllid eraill yn ogystal er mwyn ymorol am
y costau cynnal a chadw yn y dyfodol.
- Mae’r
argyfwng costau byw wedi creu heriau ariannol sylweddol i’r
Cyngor. Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut mae’r her
yma’n cael ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Perfformiad
Blynyddol. Dywedodd y
Prif Weithredwr mai’r Cyngor yw’r unig lwybr i bobl pan
fyddant mewn caledi. Mae’r galw am wasanaethau yn cynyddu ac
mae hyn yn rhoi pwysau ar adnoddau’r Cyngor. Aeth ymlaen i ddweud y bydd y
Dashfwrdd Tlodi a’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn
amlygu’r tueddiadau pan fydd cynnydd yn y galw am
wasanaeth.
- Mae’r
adroddiad yn nodi tri maes sy’n tanberfformio yn erbyn y
targedau a osodwyd yn ystod 2023/2024 (Ceisiadau Rhyddid
Gwybodaeth, Pobl Ifanc sydd ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na
Hyfforddiant a’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl).
Gofynnwyd am ddiweddariad ar y dangosyddion hyn. Dywedodd y Rheolwr
Cynllunio, Rhaglen a Pherfformiad Corfforaethol ei bod hi’n
rhy fuan ar hyn o bryd gan fod cynlluniau’n cael eu rhoi ar
waith i fynd i’r afael â’r meysydd sy’n
tanberfformio.
Ar ôl
adolygu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/2024 a nodi
ymatebion yr Aelod Portffolio a’r Swyddogion i’r
pwyntiau a godwyd, PENDERFYNWYD:-
-
Cytuno bod cynnwys Adroddiad Perfformiad 2023/24 yn
adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod dros y cyfnod hwn
ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei fabwysiadu ar ôl ei
ystyried ymhellach.