Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwm - AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ac ynddo’r adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2023/24. Rhoddai drosolwg o waith y Cyngor yn ystod y flwyddyn a chofnodi cyflawniad yn erbyn chwe amcan strategol y Cyngor, ynghyd â pherfformiad ei Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyffredinol a pherfformiad y gwasanaethau yn erbyn y gyllideb.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2023/24 gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a ddywedodd ei bod yn bleser gallu cyflwyno adroddiad mor gadarnhaol, lle'r oedd 93% o waith cynlluniedig y Cyngor, fel y’i nodwyd yn y ddogfen gyflawni flynyddol, wedi'i gyflawni. Roedd yr un cam allweddol oedd heb ei gwblhau yn ymwneud â lansio porth tenantiaid digidol newydd y Cyngor i wella dulliau cyswllt tenantiaid y Cyngor. Roedd hwn wedi’i ohirio oherwydd rhesymau technegol a châi ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at rai o'r cyflawniadau unigol o dan bob amcan strategol gan ddweud mai'r her nawr oedd cynnal y lefel uchel hon o berfformiad i'r dyfodol.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, bersbectif Sgriwtini ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi. Croesawyd yr adroddiad gan yr aelodau yn un oedd yn adlewyrchu blwyddyn o gyflawniadau nodedig oedd wedi cyfrannu at lawer o welliannau ar yr Ynys. Roedd y pwyllgor, hefyd, yn cydnabod bod heriau ariannol anodd o’u blaenau a nododd yr effaith bosibl ar berfformiad y Cyngor yn y dyfodol. Wedi craffu’r adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gytuno fod y cynnwys yn adlewyrchiad teg a chyflawn o waith y Cyngor dros y cyfnod ac argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried ymhellach.
Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad ar y perfformiad blynyddol yn nodi'r hyn oedd wedi digwydd ac wedi'i gyflawni mewn gwirionedd yn 2023/24 ac nad ymarfer cyhoeddusrwydd mohono. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod y glo mân yng nghorff yr adroddiad yr un mor bwysig o ran adlewyrchu'r hyn yr oedd y Cyngor wedi'i gyflawni a'i ymrwymiad i gynnydd cadarnhaol ag oedd y penawdau e.e. dosbarthu pecynnau croeso i newydd-ddyfodiaid a ffoaduriaid ledled yr Ynys yn ystod y flwyddyn fel rhan o amcan y Cyngor o hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ac annog newydd-ddyfodiaid, yn ogystal â thrigolion presennol yr Ynys, i ddysgu’r iaith.
Tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol sylw at bwysigrwydd cynnwys preswylwyr wrth lunio polisi a chyflwyno gwasanaethau. Yn hyn o beth, cyfeiriodd yng nghyd-destun ei bortffolio ei hun at lwyddiant gweithredu’r Fforwm Pobl Hŷn ac at Ynys Môn yn cael ei derbyn yn aelod swyddogol o Rwydwaith Byd-eang o Gymunedau Oed Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.
Canmolodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan ddweud ei fod yn gofnod i fod yn falch ohono a phwysleisiodd, serch hynny, y byddai’r Cyngor yn dal i ymdrechu i wneud gwelliannau pellach lle bo modd. Fodd bynnag, byddai’n rhaid edrych ar berfformiad y Cyngor yn ei gyfanrwydd yng nghyd-destun yr heriau ariannol a chyllidebol oedd o'n blaenau a byddai angen i adroddiadau, megis yr adroddiad perfformiad blynyddol, adlewyrchu'n llawnach effaith y rheini ar lesiant trigolion yr Ynys a staff y Cyngor. Roedd llawer o feysydd yn gweithredu dan bwysau ac roedd unrhyw newidiadau yn debygol o gael effaith ar berfformiad a/neu les. Er ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl a gwella’n barhaus wrth gyflwyno’r gwasanaethau hynny, roedd ganddo, hefyd, ddyletswydd gofal i’w staff a sicrhau bod y pwysau ar staff yn rhesymol a theg, rhywbeth oedd yn dod yn fwyfwy anodd fel yr oedd y galw ar wasanaethau yn parhau i gynyddu.
Penderfynwyd cytuno i gynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 sy’n dangos perfformiad y Cyngor yn erbyn ei amcanion strategol fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor ac argymell i’r Cyngor llawn fabwysiadu’r adroddiad yn ei gyfarfod a gynhelir ar 26 Medi.
Dogfennau ategol: