Derbyn cyflwyniad gan Dr Gareth Evans-Jones ar waith Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Cofnodion:
Cafwyd gyflwyniad gan Dr Gareth Evans Jones ar Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi athrawon ac Addysg Grefyddol ers yr 1970au. Dywedodd, ynghyd â Mrs Mefys Jones-Edwards, ei fod yn rhan o dîm a ail lansiodd y Ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023. Mae’r Ganolfan bellach yn cynrychioli sawl crefydd a ffydd gwahanol er mwyn hyrwyddo addysg sy’n gysylltiedig â nhw.
Mae’r Ganolfan yn cynnig nifer o gyfleoedd i ymgysylltu gydag ysgolion a sefydliadau ffydd, am ddim. Ymhlith digwyddiadau diweddar mae: -
· Cynhaliwyd Ysgol Basg oedd yn cynnig sesiynau adolygu ar gyfer disgyblion oedd yn astudio TGAU a Safon Uwch.
· Cynhaliwyd cynhadledd yng Ngholeg Sir Gâr, gyda dysgwyr blwyddyn 7 o ysgolion gwahanol yn bresennol.
· Cafwyd sgwrs gyda Ficer Eglwys Anglicanaidd Trawsfynydd yn y Ganolfan, gyda 4 ysgol yn mynychu’n rhithiol.
· Mae’r Ganolfan wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar yr Holocost, lle cafwyd panel rithiol i drafod sut i gofio’r Holocost mewn ffordd ddigidol. Codwyd pwyntiau, megis a yw’n dderbyniol defnyddio hologramau a DA (Deallusrwydd Artiffisial) i drafod yr Holocost.
Nodwyd bod y Ganolfan yn rhannu gwybodaeth am wahanol feddylwyr, athronwyr a damcaniaethwyr ar Instagram. Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, bydd gwybodaeth am arweinwyr crefyddol du pwysig yn cael ei rhannu ar Instagram, sy’n cysylltu â’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y Cwricwlwm i Gymru o ran creu amrywiaeth ehangach.
Ar Ddiwrnod y Ddaear, rhennir dyfyniadau gan amgylchfydwyr gwahanol. Mae cynrychiolydd o’r Ganolfan yn gweithio gyda’r Prosiect Heddwch mewn Addysg, a gafodd ei gynnal yn Eisteddfod Llangollen.
Nod y Ganolfan yw parhau i gefnogi athrawon ledled Cymru a chefnogi Addysg Grefyddol. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Ganolfan yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rolau ymgynghorol a sefydliadau ffydd a bydolygon. Mae trafodaethau ar sut i gydweithio’n well â’r CYS hefyd wedi bod yn mynd rhagddynt.
Dywedodd Mrs Mefys Jones-Edwards bod staff yn y Ganolfan wedi cynnig cefnogaeth i ysgolion Ynys Môn, yn enwedig Ysgol Syr Thomas Jones (YSTJ). Dywedodd bod athrawon yr ysgol uwchradd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r sesiynau hyfforddi sydd ar gael i ysgolion, sy’n cael eu darparu mewn ffordd ddiddorol. Nodwyd bod y Ganolfan yn darparu adnoddau arbennig, ac mae disgyblion YSTJ wedi elwa o gymryd rhan yn y sesiynau. Diolchodd yr athrawes i Mr Evans-Jones a’i staff am eu gwaith.
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut mae gwerthoedd anghrefyddol yn cael eu cysylltu â gwaith y Ganolfan mewn ffordd gadarnhaol? Dywedodd Dr Evans-
Jones bod staff yn y Ganolfan yn gweithio’n agos gyda Humanists UK, ac wedi meithrin perthynas iach gyda’r sefydliad. Dywedodd bod y Ganolfan yn cydnabod ac yn ymgorffori bydolygon anghrefyddol yn eu gwaith, a’i fod yn rhan annatod o’r Cwricwlwm Newydd. Nodwyd bod cynrychiolydd ar gyfer y Dyneiddwyr yn mynychu Diwrnod y Panel Rhyng-ffydd ym Mhrifysgol Bangor ar 13 Tachwedd 2024, a bydd bydolygon llai poblogaidd hefyd yn cael eu cynrychioli.
Gofynnwyd a oedd y Ganolfan ynghlwm ag addysgu diwinyddiaeth cyd-destunol ar lefel gradd neu ôl-radd? Dywedodd Dr Evans-Jones ei fod yn ddarlithydd Diwinyddiaeth a Diwinyddiaeth Gymharol yn Adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor. Dywedodd, am fod y pynciau mor amrywiol, maent yn galluogi darlithwyr i alinio a’r Cwricwlwm i Gymru newydd. Dywedodd, eleni, ei fod yn addysgu Diwinyddiaethau Cristionogol yn y Byd Modern. Y flwyddyn nesaf, bydd yn addysgu Dyneiddiaeth, ac yna Paganiaeth yn y byd ôl-fodern y flwyddyn ganlynol.
Gofynnwyd a oes unrhyw brosiectau ar y thema Heddwch mewn Addysg, neu a yw’r plant yn gwneud gwaith celf ar y pwnc? Dywedodd Dr Evans-Jones bod Prosiect Heddwch mewn Addysg wedi bod, yn benodol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9. Dywedodd y byddai’n hoffi ehangu’r prosiect gydag Academi Heddwch Cymru a chyflwyno’r cynnig i aelodau bwrdd y Ganolfan. Byddai’n galluogi ysgolion i weithio gyda’r gymuned a’r ynys gyfan er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i fyfyrio ar y thema’n greadigol.
Diolchodd y Cadeirydd i Dr Gareth Evans-Jones am ei drosolwg addysgiadol ar waith y Ganolfan a’r hyn oedd ar gael, sy’n adnodd defnyddiol iawn ar gyfer ysgolion Ynys Môn.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.