Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y cerdyn sgorio yn rhoi darlun o berfformiad y Cyngor yn erbyn yr amcanion strategol a amlinellir yng Nghynllun y Cyngor ar ddiwedd ail chwarter 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, a thynnodd sylw at y ffaith fod mwyafrif (85%) y dangosyddion perfformiad gyda thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn targedau a bod ganddynt statws RAG Gwyrdd neu Felyn. Cyfeiriodd at y chwe dangosydd sydd ar hyn o bryd yn Goch neu Oren yn erbyn targedau, roedd y rhain mewn perthynas â meysydd o dan Addysg, Tai, yr Economi, Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyngor Cyfan. Darperir manylion am y camau lliniaru gyda'r nod o wella perfformiad pob un o'r chwe dangosydd yn yr adroddiad. Hefyd yn yr adroddiad ceir enghreifftiau o berfformiad nodedig yn y chwarter mewn perthynas â gwaith cymorth busnes, gofal cymdeithasol a llesiant gyda phob un o’r dangosyddion yn wyrdd yn erbyn targedau, presenoldeb ysgolion yn y sectorau cynradd ac uwchradd, nifer yr eiddo gwag a ddaeth yn ôl i ddefnydd drwy ymyriadau cartrefi gwag a’r gwaith sy’n parhau i drydaneiddio cerbydau fflyd y Cyngor.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 2 2024/25 a ystyriwyd gan y pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2024. Ymhlith y materion a godwyd yn y drafodaeth oedd y rhesymau dros y gostyngiad mewn perfformiad o Chwarter 1 a'r rhagolygon am welliant parhaus erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a gofynnodd yr aelodau am sicrwydd o hyn. Trafodwyd i ba raddau y mae sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gorwariant a ragwelir ar ddiwedd Chwarter 2 yn risg wrth symud ymlaen, yn ogystal â thanberfformiad parhaus y dangosydd Tai (03) (nifer cyfartalog y diwrnodau calendr i osod unedau llety y gellir eu gosod ac eithrio Eiddo Anodd eu Gosod) a oedd wedi bod yn destun adolygiad gan y pwyllgor sgriwtini. Holodd yr Aelodau a oedd heriau recriwtio yn rhwystr i sicrhau gwelliannau a chodwyd cwestiynau hefyd am reoli achosion o wahardd ac atal plant o ysgolion gan gynnwys y cymorth a ddarperir i ddisgyblion sydd wedi'u gwahardd. Ar ôl cael cyngor gan swyddogion ar y materion hyn, roedd y pwyllgor wedi penderfynu argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith ac roedd wedi cytuno ar gamau gweithredu atodol.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith fod y Dangosydd Tai (03) wedi bod yn Goch yn erbyn y targed ers peth amser, ond nododd fod prinder contractwyr, peintwyr yn benodol, yn ffactor sy’n gyfrifol am fethu'r targed a nododd hefyd fod archwiliad manwl y pwyllgor sgriwtini ar y dangosydd a'r targed wedi dod i'r casgliad bod y Cyngor wedi gwneud pob ymdrech i wella'r perfformiad a bod y perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn well na pherfformiad llawer o awdurdodau eraill. Felly, awgrymwyd y gallai fod yn amserol adolygu'r targed i benderfynu a yw'n sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn realistig.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Dangosydd Tai (03) yn parhau i gael ei fonitro a dywedodd fod angen i'r Cyngor fod yn uchelgeisiol ynglŷn â’r mater hwn o ystyried y ffigurau ar gyfer rhestrau aros am dai a’r rhai sy’n ddigartref ac ymrwymiad y Cyngor i ddarparu lle i gynifer o bobl â phosibl i'w alw'n gartref. Bydd yn gwneud ei orau i wella'r perfformiad ac yn dibynnu ar gynnydd, bydd yn ailedrych ar y mater maes o law.
Er bod perfformiad y dangosyddion Gofal Cymdeithasol a Llesiant yn cael ei gydnabod a'i ganmol, rhybuddiodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol y gallai misoedd y gaeaf fod yn heriol a'i fod, serch hynny, yn gobeithio y byddai'r lefel uchel o berfformiad yn cael ei gynnal.
Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd mewn perthynas â'r Dangosydd Addysg (07) - nifer y plant sy'n cael gwersi nofio ar hyd y flwyddyn - ei bod yn dod yn her i'r ysgolion cynradd hynny sy’n bell o'r canolfannau hamdden gyrraedd y targed a bod perfformiad 1,807 yn erbyn targed o 1,900 yn dderbyniol o dan yr amgylchiadau.
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2024/25 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried a’u harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn gysylltiedig ag Addysg, Tai, yr Economi, Newid Hinsawdd a Pherfformiad y Cyngor Cyfan.
Dogfennau ategol: