Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a dangosodd fod y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £504k (0.28%) ar y gyllideb refeniw. Fodd bynnag, gall y sefyllfa newid ac mae'r adroddiad yn nodi'r meysydd lle mae'r pwysau cyllidebol ar eu mwyaf mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant ac oedolion oherwydd y galw cynyddol a chost y ddarpariaeth. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith y gall cost lleoliad gofal cymdeithasol plant fod mor uchel â £500k y flwyddyn yn yr achosion mwyaf cymhleth sy'n dangos y math o bwysau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei reoli a'r angen felly am well cyllid i helpu awdurdodau lleol i ymateb i'r heriau hyn. Er bod y Cyngor wedi bod yn ddarbodus yn y ffordd y mae wedi rheoli ei gyllideb ac wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i sicrhau ei fod yn gosod cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gofynnir i Lywodraeth Cymru gydnabod y baich ar awdurdodau lleol drwy gynyddu'r cyllid sydd ar gael fel y gellir parhau i ddiwallu anghenion allweddol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) y bydd yn rhaid i unrhyw orwariant yn y pen draw ar gyllideb refeniw 2024/25 ddod o gronfeydd wrth gefn y Cyngor a bydd hynny’n golygu y bydd goblygiadau ar gyfer pennu cyllideb 2025/26. Cadarnhaodd fod y dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2024/25 wedi'i gytuno a'i fod yn cael ei gynnwys yn fras gan y gyllideb ond mae cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi ar gyfer pwysau chwyddiant ar gael i ychwanegu at gyllidebau yn ôl yr angen. Yn yr un modd, mae'r dyfarniad cyflog ar gyfer staff addysgu wedi'i setlo ac er y bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r gost ychwanegol yn rhannol drwy grant, mae'r dyraniad i'w gadarnhau o hyd ac mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r Cyngor ariannu'r gost ychwanegol i ysgolion o'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi.
Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at y pwysau cyllidebol ar ofal cymdeithasol plant ac oedolion sy'n dod i gyfanswm o tua £3.4m y bydd yn rhaid mynd i'r afael ag ef yng nghyllideb 2025/26. Mae hyn wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan arbedion yn deillio o swyddi gwag staff a ffigurau incwm cadarn yng ngwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd sydd, ynghyd â chostau is o dan benawdau corfforaethol a’r Dreth Gyngor, wedi dod â'r gorwariant cyffredinol a ragwelir i lawr i £504k. Gallai'r sefyllfa newid yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol a gall tywydd garw a'r galw cynyddol am wasanaethau dros fisoedd y gaeaf arwain at gostau ychwanegol i'r Cyngor. Bydd y sefyllfa'n parhau i gael ei monitro'n ofalus.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer gwelliannau i Lyfryn Ffioedd a Thaliadau 2024/25 i gynnwys ffioedd newydd yn dilyn cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 ar gyfer ymarferwyr sy'n cyflawni gweithdrefnau arbennig, darperir manylion yn adran 8.
Penderfynwyd –
Dogfennau ategol: