Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 2 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a dangosodd fod gwarged refeniw y CRT ar ddiwedd Chwarter 2 yn danwariant o £604k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Ar ddiwedd y flwyddyn rhagwelir gorwariant o £424K fel y manylir yn adrannau 5 i 8 yr adroddiad ac yn Atodiad A. Rhagwelir y bydd gwariant cyfalaf £1,023k yn uwch na'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn fel y manylir yn adran 9 yr adroddiad ac yn Atodiadau B ac C. Disgwylir i incwm grant fod yn fwy o £1,612k a disgwylir hefyd £128k ychwanegol mewn derbyniadau cyfalaf. Mae'r diffyg a ragwelir (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) bellach yn £9,823k sydd £293k yn llai na'r gyllideb. Mae'r CRT wedi'i neilltuo a dim ond ar gyfer stoc tai’r Cyngor y gellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn. Ni ellir eu trosglwyddo i'r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol chwaith i ariannu'r CRT.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa’r CRT wedi newid dros amser. Yr egwyddor yw bod gwarged refeniw CRT o incwm rhent yn cael ei ail-fuddsoddi yn y stoc tai presennol ac mae'r gwarged, ynghyd â Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru, wedi bod yn ddigon yn y gorffennol i dalu costau'r buddsoddiad gyda datblygiadau tai newydd yn cael eu hariannu drwy fenthyca. Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd mewn rhent yn unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cymaint â chostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd, gan gynnwys cost deunyddiau, contractwyr a chyflog staff sy'n golygu bod gwarged y CRT wedi gostwng i bwynt lle nad yw'r arian dros ben a'r grant bellach yn ddigon i dalu costau cynnal y stoc a’u cadw mewn cyflwr da yn ogystal â chyflawni disgwyliadau uwch newydd SATC 2023. Er bod cronfeydd wrth gefn y CRT wedi cael eu defnyddio i wneud iawn am y diffyg, bydd yn rhaid adolygu'r sefyllfa yn y tymor hir a mynd ati i gynnal trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru am y polisi rhent a'r disgwyliadau ar gyfer cynnal tai cymdeithasol i'r safon ofynnol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu tai cymdeithasol newydd a rhagwelir y bydd yn gwario £18m ar ddatblygiadau newydd yn 2024/25 fel y gwelir yn Atodiad C yr adroddiad. Fel gyda chynnal a chadw stoc bydd yn rhaid ystyried y dull strategol o ddatblygu stoc yn y dyfodol a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Busnes y CRT a gyflwynir yn y flwyddyn newydd.
Tynnwyd sylw yn y Pwyllgor Gwaith at ddatblygu 192 o unedau tai cymdeithasol newydd yn 2024/25 fel y nodir yn Atodiad C sy'n dangos y pwyslais y mae'r Cyngor yn ei roi ar fuddsoddi mewn cartrefi cyngor newydd, ac er bod y Pwyllgor Gwaith yn cytuno ag egwyddor SATC 2023 i geisio sicrhau ansawdd tai cymdeithasol, nodwyd yr heriau a wynebir i fodloni gofynion y Safon newydd ynghyd â’r angen am yr adnoddau i sicrhau bod cynghorau sydd â’u stoc tai eu hunain yn gallu gwneud hynny.
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
Dogfennau ategol: