Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor 2025/26

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddiben gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn nodi'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26. Rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn, fel awdurdod bilio, gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal ac ar gyfer gwahanol rannau o’i ardal a rhaid rhoi gwybod am y symiau hyn i’r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2024. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth er mwyn gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 15 Tachwedd 2024, ac er mwyn pennu’r dreth (wedi cadarnhad gan y Pwyllgor Gwaith) erbyn 5 Ionawr 2025. Y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2025/26 yw 31,445.15 sy'n gynnydd o 0.65% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys addasiadau am bremiymau a disgowntiau a roddir gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B, ac C (nid yw hyn yn effeithio ar Ynys Môn gan na roddir disgowntiau o’r fath). Cyfanswm y sylfaen dreth a gynigir ar gyfer 2025/26 er mwyn gosod trethi sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,472.17 ac mae'n gynnydd o 0.91% ar y flwyddyn flaenorol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses o gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor er mwyn i Lywodraeth Cymru bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd er mwyn gosod trethi lleol a'r ffactorau dan sylw. Cyfeiriodd at newidiadau yn sylfaen y dreth o'r flwyddyn flaenorol ar gyfer y Dreth Gyngor safonol, eiddo gwag, ac ail gartrefi a sut mae'r rhain yn effeithio ar refeniw treth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.  Bydd y cynnydd yn nifer yr eiddo gwag yn cynyddu incwm premiwm ar eiddo gwag yn ogystal â'r cynnydd yn nifer yr eiddo sy'n gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi er bod y symudiad yn y gronfa dreth o ran yr olaf yn adlewyrchu newid yn nifer yr eiddo ym mhob band yn hytrach na newid yng nghyfanswm nifer yr eiddo. Er bod ffactorau sy'n gallu dylanwadu ar nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, mae'r ffigyrau'n codi cwestiynau am y premiwm ym mhob achos a ph’un ai a yw'r premiwm yn dal i fod yn effeithiol ar y lefelau presennol, i sicrhau’r canlyniad arfaethedig o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o dai mewn cymunedau. Bydd y newidiadau yn y sylfaen dreth yn effeithio ar fan cychwyn y Cyngor ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd -

 

  • Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2025/26, sef 31,445.15 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o Sylfaen y Dreth Gyngor at y diben yma - Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).
  • Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2025/26 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o sylfaen y dreth – Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).
  • Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2025/26 sef 33,472.17, ac am y rhannau hynny o'r ardal sydd wedi eu rhestru yn argymhelliad 3 yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: