Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaeth Oedolion 2024-2029

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn cynnwys Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y Cynllun yn nodi blaenoriaethau Gwasanaeth Oedolion am cyfnod 2024-2029 i gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor 2023-2028.

 

Cyflwynwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fel un sy'n nodi cyfeiriad cadarn a chlir ar gyfer gwasanaethau oedolion gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn, anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r cynllun yn amlinellu camau pendant i ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil y disgwyliadau a’r galw cynyddol, argaeledd staff, adnoddau ariannol cyfyngedig a phoblogaeth sy'n heneiddio ac i foderneiddio elfennau o'r gwasanaeth fel eu bod yn briodol, yn fforddiadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector i ddarparu'r math o gefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. O ystyried yr heriau, mae'r cynllun strategol o reidrwydd yn uchelgeisiol ac yn drawsnewidiol ar gyfer gwasanaethau oedolion ac mae'n ceisio sicrhau bod gwasanaethau i bobl agored i niwed yn cael eu darparu'n effeithiol, yn effeithlon a'u bod o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion nad yw aros yn yr unfan yn opsiwn, a bod yn rhaid i wasanaethau oedolion barhau i ddatblygu er mwyn ymateb i heriau parhaus. Er bod cost darparu gofal yn uchel mae risgiau os na fyddwn yn darparu'r gofal priodol. Nod y strategaeth yw sicrhau'r ddarpariaeth orau ar hyn o bryd yn ogystal â symud y gwasanaeth yn ei flaen yn seiliedig ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd, darparu gwasanaethau'n lleol, pwyslais ar atal a darparu'r cymorth priodol ar yr adeg briodol. Cyfeiriodd at y cyd-destun ac at gynnydd a ragwelir o 70% yn y boblogaeth dros 85+, y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy’n dioddef o ddementia a'r ganran uchel o staff gofal y Cyngor sydd ar eu deng mlynedd olaf o wasanaeth fel rhai o'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Er bod y cynllun strategol yn nodi saith maes blaenoriaeth allweddol, o ystyried y cyfyngiadau ariannol, cydnabyddir efallai na fyddant i gyd yn cael eu cyflawni fel y byddai'r Cyngor yn dymuno ac efallai y bydd yn rhaid blaenoriaethu rhai elfennau o'r cynllun.

 

Gan siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, adroddiad o gyfarfod 20 Tachwedd 2024 y pwyllgor lle trafodwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion. Roedd y pwyllgor sgriwtini wedi cydnabod yr angen i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau oedolion er mwyn gwasanaethu dinasyddion Ynys Môn yn well nawr ac yn y dyfodol yn unol ag amcanion Cynllun y Cyngor ac roeddent hefyd wedi nodi'r heriau demograffig, ariannol ac o ran adnoddau a allai effeithio ar allu'r gwasanaeth i weithredu'r cynllun strategol. Roedd y pwyllgor wedi gofyn am sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn gallu cyflawni ei amcanion a'r canlyniadau arfaethedig yn y cynllun. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig gweithredu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol ar draws holl gymunedau Ynys Môn er mwyn sicrhau bod lleisiau trigolion lleol yn cael eu clywed a'u cynrychioli'n briodol. Ar ôl craffu'r Cynllun Strategol roedd Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi penderfynu argymell ei fod yn cael sêl bendith y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Gynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 fel cynllun lefel uchel. Bydd gweithredu’r cynllun yn cynnwys nifer o feysydd gwasanaeth y Cyngor yn ogystal â gwasanaethau oedolion a bydd yn golygu lefel uchelgeisiol o wariant cyfalaf. Felly tynnodd sylw at bwysigrwydd cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, hebddo ni fydd yn bosibl cyflawni nodau ac amcanion y cynllun a chadarnhaodd fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo yn y cefndir i sicrhau bod y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau’r grantiau sydd ar gael i allu darparu'r math o lety addas, o ansawdd y mae'r cynllun yn ei ragweld ac y mae pobl fregus sy’n dibynnu ar gymorth y Cyngor, ei angen ac yn ei haeddu.

 

Wrth ganmol y cynllun strategol a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â rhoi'r cynllun ar waith yn enwedig o safbwynt cyllid ac adnoddau. Wrth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid cyfalaf ychwanegol, awgrymodd y Pwyllgor Gwaith fod achos i'w wneud dros rannu'r cyllid yn deg ac yn gyfartal ledled Cymru gan sicrhau ei fod yn cael ei ddyrannu i ble mae ei angen, yn enwedig lle mae newidiadau demograffig yn arwain at gynnydd yn y galw a'r pwysau. Roedd y Pwyllgor Gwaith hefyd yn cydnabod y cyfraniad y bydd gweithio mewn partneriaeth o fewn a heb y Cyngor yn ei wneud tuag at gyflawni sawl agwedd ar y cynllun a chydnabu ymhellach bwysigrwydd yr amrywiaeth o waith ataliol sy'n cael ei wneud ar yr Ynys i helpu pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts fod materion cyllido wedi bod yn destun pryder yn nhrafodaethau’r pwyllgor sgriwtini ynghylch Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion ac felly mae neges glir i Lywodraethau Cymru a San Steffan fod angen mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector gofal yn enwedig yr angen i ariannu'r sector yn briodol a bod y sector cael yr un tegwch ac yn cael ei gydnabod yn gyfartal â Gofal Iechyd.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion 2024-2029.

 

Dogfennau ategol: