Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae Cynllun Strategol Môn Actif yn darparu cyfeiriad clir ac yn nodi meysydd blaenoriaeth allweddol a’r weledigaeth ar gyfer creu cymunedau iach ar Ynys Môn dros y cyfnod pum mlynedd nesaf.
Cyflwynwyd Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol. Y nod yw sicrhau bod gan y Cyngor gynllun cynaliadwy, y gellir ei gyflawni ac sy’n addas i'r diben i ddarparu gwasanaethau i wella iechyd a llesiant trigolion ac ymwelwyr â'r Ynys. Mae'r cynllun yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yng nghyfleusterau hamdden y Cyngor a bydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd am gyllid allanol yn allweddol i'r ymdrech honno. Mae'r cynllun strategol yn nodi pum maes blaenoriaeth sy'n cysylltu ag egwyddorion ehangach Cynllun y Cyngor 2023-28 ac mae'r rhain yn ymwneud â Chyfranogiad, Iechyd a Llesiant, Datblygu'r Gweithlu, Rheoli Cyfleusterau, Cynaliadwyedd Ariannol a Chydweithio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Neville Evans at amrywiaeth y gweithgareddau hamdden gan Môn Actif ac at gynnydd mewn gweithgareddau yn y gymuned lle mae brand Môn Actif yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Mae rhaglenni gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn arbennig o boblogaidd ac mae lefelau presenoldeb yn dda. Er bod heriau'n parhau ac yn cael eu cydnabod, mae'r cynllun strategol yn nodi'r llwybr i sicrhau bod gwasanaeth Môn Actif yn dal i fod yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yn y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y cynllun strategol yn ymestyn y tu hwnt i'r gwasanaeth hamdden yn unig ac y bydd yn arwain at fanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd ehangach gan adeiladu ar ffordd gydweithredol o weithio sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Disgwylir i'w effeithiau gael eu teimlo dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i gyflwyno safbwynt y pwyllgor sgriwtini ar Gynllun Strategol Môn Actif o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024. Dywedodd y Cynghorydd Fowlie fod y pwyllgor wedi trafod sut mae'r cynllun strategol yn galluogi'r Cyngor i gyflawni Cynllun y Cyngor 2023-28. Roedd yr Aelodau wedi gofyn am sicrwydd ynghylch y ffynonellau data yn enwedig y data lleol mewn perthynas â gordewdra ymhlith plant a gofynnwyd cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd canolfannau hamdden y Cyngor a'r risgiau a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid wrth weithredu'r cynllun. Roedd y pwyllgor eisiau gwybod sut y gellid cynyddu’r niferoedd sy'n defnyddio cyfleusterau hamdden y Cyngor a nodwyd bod y DPA cenedlaethol presennol ond yn mesur y defnydd o ganolfannau hamdden ac nad yw'n cynnwys y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau Môn Actif yn y gymuned. Wrth argymell bod Cynllun Strategol Môn Actif yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cytuno ar gamau ychwanegol a oedd yn cynnwys gofyn i'r Arweinydd a'r Aelod Portffolio ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cwmpas y DPA cenedlaethol i gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau hamdden yn y gymuned leol.
Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r pwyllgor sgriwtini am yr adborth ac am dynnu sylw at gwmpas cyfyngedig y DPA cenedlaethol a phwysigrwydd adlewyrchu'r holl wasanaethau a ddarperir gan Môn Actif sy'n ymestyn y tu hwnt i'r defnydd o ganolfannau hamdden. Nododd y Pwyllgor Gwaith y gwahanol bartneriaid sy'n ymwneud â'r gwaith a'r cysylltiadau ag iechyd, llesiant, atal a byw'n annibynnol gan ddangos y berthynas rhwng strategaethau ar draws nifer o feysydd.
Holodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg a yw'n bosibl disgrifio gwasanaethau cymunedol Môn Actif fel ‘pop up’ dros dro er mwyn ei chynnwys yn y DPA cenedlaethol. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Hamdden fod y gwasanaeth yn coladu data ar y defnydd o wasanaethau hamdden yn y gymuned ac er bod y data'n cael ei fwydo i mewn i'r cynllun busnes gwasanaeth nid yw'n ofynnol rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts o'r farn bod hyn yn briodol a chytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylid anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru fel yr awgrymwyd gan y pwyllgor sgriwtini gyda data ategol ac enghreifftiau i ddangos gwerth gwasanaethau cymunedol Môn Actif a'r buddion sy'n deillio o'r ddarpariaeth fel cyfiawnhad dros gynnwys y gwasanaethau hynny yn y DPA cenedlaethol. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai sylwadau’n cael eu hanfon.
Dywedodd y Prif Weithredwr pe bai amcanion hyn a'r cynllun strategol blaenorol yn cael eu cyflawni, gellid dynodi'r Ynys yn ynys sy’n "ystyriol o oedran" ac sy’n "actif." Yng nghyd-destun y cyfeiriadau niferus at bartneriaethau a chydweithio, cyfeiriodd at y berthynas waith ardderchog rhwng Môn Actif ac ysgolion yr Ynys sydd wedi dod yn rhan naturiol o weithgareddau bob dydd y ddau wasanaeth. Cyfeiriodd hefyd at y rôl sydd gan Gynllun Strategol Môn Actif wrth ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Y rhesymeg yw bod pobl ifanc yn fwy tebygol o siarad Cymraeg pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn mwynhau eu gwneud ac felly mae'r cynllun yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer hyrwyddo'r defnydd o'r iaith fel un o amcanion strategol y Cyngor.
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29.
Dogfennau ategol: