Eitem Rhaglen

Asesiad y Farchnad Dai Leol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.              

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LMHA) 2023-28 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Pwrpas yr LMHA yw darparu dadansoddiad eang o farchnad dai Ynys Môn, gan ystyried gofynion hirdymor tai ar Ynys Môn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a'r asesiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai gan ei fod yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol gynnal Asesiad o'r Farchnad Dai Leol bob pum mlynedd a'i ddiweddaru hanner ffordd drwy’r cyfnod hwnnw. Bydd y sail dystiolaeth yn yr asesiad hefyd yn cael ei defnyddio i lywio strategaeth Dai Ynys Môn a'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hefyd yn llywio blaenoriaethau tai strategol a chynlluno gwasanaethau lleol fel addysg a thrafnidiaeth. Gellir defnyddio'r LHMA hefyd fel adnodd ar gyfer trafod darparu tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol (SHG) i helpu i ddarparu tai fforddiadwy. Ar ôl ei chymeradwyo, bydd y ddogfen yn destun ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i gael adborth a sylwadau ac ar ôl hynny bydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Tai drosolwg o'r LHMA yn cadarnhau ei fod wedi'i lunio gan ddefnyddio adnodd gan Lywodraeth Cymru sy'n ei alluogi i gyfrifo ffigurau’r angen am dai a’r galw am dai gan sicrhau bod dull cyson ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Mae'n seiliedig ar amrywiaeth cynhwysfawr o wybodaeth ystadegol ac mae'n cynnwys nifer o amcanestyniadau gan gynnwys rhagdybiaeth y bydd y cyflenwad tai a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu a bydd y rhestr aros ar y gofrestr dai bresennol yn cael ei chlirio. Y gymhareb prisiau incwm/tŷ ar gyfer Ynys Môn yw 7.2 sy'n sylweddol uwch na'r gymhareb ar gyfer Gogledd Cymru a Chymru gyfan sy'n golygu bod dros 60% o'r boblogaeth yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, er bod amrywiadau mewn prisiau ar draws y naw Ardal Farchnad Dai y mae'r Ynys wedi'i rhannu iddynt. Mae'r asesiad yn dangos bod y galw am dai fforddiadwy yn enwedig unedau rhent cymdeithasol un ystafell wely yn parhau i fod yn eithriadol o uchel a gallai nifer o ffactorau ddylanwadu ar hyn gan gynnwys yr angen i sicrhau darpariaeth addas ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol unigol sy'n dymuno symud i dŷ llai o lety maint teulu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth y pwyllgor sgriwtini ar yr LMHA o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd a chyfeiriodd at y materion a godwyd gan y pwyllgor. Roedd y rhain yn cynnwys y risgiau a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid darparu, y ffyrdd y bydd yr asesiad yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisïau tai wrth lunio'r Cynllun Datblygu Lleol a'r sail ar gyfer dod i'r casgliad bod angen anheddau un ystafell wely. Roedd y pwyllgor wedi nodi bod yr asesiad yn rhoi cipolwg ar y farchnad dai ar hyn o bryd ond nad yw'n cynnig atebion i ddiwallu'r anghenion tai a nodwyd. Roedd yr aelodau hefyd wedi codi pryderon am effaith ail gartrefi ar fforddiadwyedd ac argaeledd tai i bobl leol mewn ardaloedd twristiaeth poblogaidd yn lleol ac yn genedlaethol. Wrth argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r LMHA, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cytuno ar gamau pellach a oedd yn cynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y data sy'n sail i'r LMHA yn cael ei ddiweddaru, gan ddefnyddio'r data i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol i fynd i'r afael ag anghenion tai mewn cymunedau a gofyn i'r Pwyllgor Gwaith ystyried adolygu lefel Premiwm y Dreth Gyngor sy’n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i Graffu am yr adborth a nododd y pwyntiau a godwyd.

 

Penderfynwyd –

 

  • Cymeradwyo’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023-28.
  • Cymeradwyo’r broses ymgynghori.
  • Cymeradwyo dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Tai, i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: