Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24.
Cyflwynwyd yr eitem hon gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol. Mae hwn yn adroddiad statudol y mae’n rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei baratoi, ei gyhoeddi a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, yn unol ag Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Pwrpas yr adroddiad yw darparu gwybodaeth i Bartneriaid ynglŷn â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’i weithgareddau yn ystod 2023/24. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, fel Awdurdod Lleol, yn cael ei gynrychioli ar y Bwrdd, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a nifer o sefydliadau ac asiantaethau eraill, yn ogystal ag aelodau o’r trydydd sector. Amcanion allweddol y Bwrdd yw:
Disgrifiodd yr Aelod Portffolio sut fyddai gweithio mewn partneriaeth o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a chyda phartneriaid yn cynorthwyo i ddatblygu cymunedau a gwasanaethau gwydn ar gyfer unigolion y mae angen gofal a chymorth arnynt.
Cyflwynodd Siobhan Gothorp, Rheolwr Busnes Rhanbarthol Tîm Cefnogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, drosolwg o Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24:
Daeth y cyflwyniad i ben trwy nodi prif flaenoriaethau’r Bwrdd Datblygu Rhanbarthol ar gyfer 2024/25.
Cyflwynodd Ms Gothorp grynodeb lefel uchel o gynlluniau sy’n cael eu hariannu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar Ynys Môn. Mae’r cynlluniau hyn yn cyfateb i 10.35% o gyfanswm y gronfa (£1.76m yn ystod 2023/24) a defnyddiwyd yr arian i gefnogi 19 o wasanaethau a chynlluniau.
Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn gwerthfawrogi’r adroddiad ac, yn sgil y wybodaeth a ddarparwyd, cododd yr Aelodau y materion canlynol i’w trafod:
· Gofynnwyd cwestiynau am effeithiolrwydd canlyniadau ar gyfer pob ymyrraeth a phrosiect a gefnogwyd gan y Bwrdd ac i ba raddau y mae ansawdd bywyd unigolion wedi gwella o ganlyniad i’r ymyraethau hyn. Gofynnodd yr Aelodau hefyd pa ganran o’r gwariant sy’n cael ei wario ar ganlyniadau uniongyrchol ar gyfer unigolion a pha ganran a ddyrennir ar staffio a chefnogaeth swyddfa gefn, ac i ba raddau y gellir dangos hyn ar ddangosfwrdd ar wefan y Bwrdd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod tîm Cefnogi’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu adroddiad manwl, ar bob ffrwd ariannu, bob chwarter ac mae arfarniad manwl yn cael ei gyflwyno’n flynyddol ym mhob Rhanbarth, er mwyn darparu sicrwydd.
· Gofynnodd y Pwyllgor pa drefniadau a wnaed i’r Aelod Portffolio adrodd yn ôl i’r Cyngor yn dilyn cyfarfodydd allweddol gyda’r Bwrdd ac Awdurdodau Lleol eraill er mwyn rhoi diweddariad ar faterion allweddol. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod trefniadau ar waith i ddarparu adborth i’r Gwasanaeth. Cynigiodd y Prif Weithredwr weithred ar y cyd â’r Pennaeth Democratiaeth, sef ystyried datblygu system adrodd rwydd ac effeithiol; byddai unrhyw opsiynau’n cael eu hystyried mewn cyfarfod gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn y dyfodol.
· I ba raddau mae’r Bwrdd wedi cyflawni ei brif flaenoriaethau ar gyfer 2023/24? Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio fod y Bwrdd yn fodlon â’r hyn a gyflawnwyd ganddo yn ystod 2023/24 er mwyn darparu cymorth i sicrhau fod gwahaniaeth yn cael ei wneud i fywydau unigolion. Cyfeiriwyd at y Ganolfan Ddementia yn Hwb Glanhwfa a’r cynllun Cartrefi Clyd fel enghreifftiau o lwyddiannau a gafodd effaith leol yn ystod 2023/24.
· Holwyd pa mor hygyrch yw’r Ganolfan Dementia yn Hwb Glanhwfa i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Gwasanaeth yn cydnabod bod angen gwella mynediad i’r Ganolfan ac mae hynny’n derbyn sylw ar hyn o bryd.
· Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r angen i hyrwyddo a rhannu llwyddiannau’r Bwrdd a sut gellid gwneud hynny. Nododd y Bwrdd fod y Grŵp Stori Newyddion Da wedi cael ei sefydlu a bydd yn llywio’r maes gwaith pwysig hwn fesul chwarter. Nodwyd y byddai’r Bwrdd yn cydweithio â Thimau Cyfathrebu Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a digwyddiadau’n cael eu rhannu’n eang a’u bod yn derbyn cyhoeddusrwydd ar hyd a lled y Rhanbarth.
· Sut all y Bwrdd Partneriaeth gynorthwyo i liniaru rhai o’r heriau parhaus a’r pwysau ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol rheng flaen, o ystyried nad oes unrhyw arwydd y bydd y sefyllfa’n gwella’n sylweddol yn y tymor canol. Mewn ymateb, disgrifiodd Ms Gothorp rôl y Bwrdd o ran cynorthwyo Awdurdodau Lleol i rannu arfer dda ledled y rhanbarth drwy gyd-drafod mewn ymgais i leihau dyblygu ac annog arloesi. Mae’r Bwrdd hefyd yn parhau i hyrwyddo Gogledd Cymru mewn perthynas â chyfleoedd ariannu.
Ar ôl adolygu Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24, a nodi ymatebion Swyddogion i’r pwyntiau trafod a godwyd, PENDERFYNWYD-
· Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei gyflawni.
· Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2023/24 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu datblygu drwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.
Gweithredoedd ychwanegol-
· Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol statudol, ar y cyd â’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn gwahodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i greu dangosfwrdd lefel uchel i grynhoi canran yr arian sy’n cael ei wario ar ganlyniadau uniongyrchol ar gyfer defnyddwyr a chanran y gwariant ar weinyddu fesul prosiect. Dylid cyhoeddi’r dangosfwrdd ar wefan y Bwrdd.
· Y Prif Weithredwr ar y cyd â’r Pennaeth Democratiaeth i ystyried a fyddai’n briodol datblygu proses i ganiatáu i’n cynrychiolwyr ar y Bwrdd Partneriaeth ddarparu adborth lefel uchel i’r Cyngor ar ganlyniadau / datblygiadau’r Bwrdd. Gwahodd Arweinyddion Grwpiau i ystyried y cynnig.
Dogfennau ategol: