Eitem Rhaglen

Arolygiaeth Gofal Cymru: Llythyr Gwiriad Gwella Awdurdod Lleol - Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad a chynllun gweithredu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor eu hystyried, Lythyr Gwiriad Gwella Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a’r Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad a luniwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cyflwynwyd yr eitem gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol a nododd bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn bresennol mewn cyfarfod o’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar a bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau sgriwtini allweddol. Cyfeiriodd yn fyr at gefndir yr arolygiad ar y Gwasanaethau Oedolion ym mis Mehefin 2024 a nododd bod cryfderau ac arfer dda wedi cael eu hamlygu, yn ogystal â meysydd i’w gwella. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, yn ogystal ag edrych ar gynnydd a wnaed yn dilyn yr arolygiad blaenorol a gwblhawyd ym mis Hydref 2022.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr adroddiad yn un cadarnhaol a’i fod yn tystio i’r cynnydd a wnaed ers yr arolygiad diwethaf yn erbyn yr 11 maes y nodwyd bod angen eu gwella.  Mae pum maes wedi cael eu gweithredu’n llawn erbyn hyn, ac mae angen cynnydd pellach mewn perthynas â’r chwe maes sy’n weddill. Ni nodwyd unrhyw feysydd risg penodol gan AGC. Mae’r adroddiad yn cymharu’n ffafriol ag adroddiadau Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Mae’r cynllun gwella’n cynnwys gweithredoedd allweddol yn gysylltiedig â’r 11 maes gwella a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Llongyfarchodd y Prif Weithredwr y Gwasanaeth am dderbyn adroddiad cadarnhaol o ystyried y pwysau a’r heriau a wynebir wrth ddarparu gwasanaeth ar Ynys lle mae’r boblogaeth yn heneiddio.

 

Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn gwerthfawrogi’r adroddiad. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion allweddol canlynol yn benodol:-

 

  • Roedd canlyniadau’r arolwg yn dangos bod 89% o bobl yn teimlo fod rhywun yn gwrando arnynt ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ ac roedd y Pwyllgor am wybod i ba raddau mae’r Gwasanaeth yn deall pam fod yr 11% sy’n weddill yn teimlo nad oedd rhywun yn gwrando arnynt, a beth sy’n cael ei wneud i ddatrys hyn. Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn credu fod canlyniadau’r arolwg yn gadarnhaol o ystyried natur heriol y Gwasanaeth a nododd pa mor bwysig yw cael trafodaeth agored a gonest gyda defnyddwyr gwasanaeth o’r cychwyn cyntaf.
  • Gofynnwyd sut fyddai’r Gwasanaeth yn parhau i wella o ystyried yr heriau ariannol sy’n ein hwynebu ac argaeledd gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion sy’n cael eu hasesu, yn enwedig mewn perthynas â gofal tymor byr neu ofal seibiant. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion yn cydnabod yr her barhaus hon, ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i geisio darparu gwasanaethau gofal effeithiol mor agos â phosib at gymunedau lleol yr unigolion hynny. Disgrifiodd y sefyllfa barhaus lle mae’r galw am wasanaethau gofal yn cynyddu tra bod y cyllid yn lleihau.
  • Pa gynlluniau sydd ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn y meysydd sydd angen sylw? Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cydnabod pa mor bwysig yw monitro’r rhaglen waith yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd yn unol â’r amserlenni a gyhoeddwyd. Mae’r rhaglen waith yn cael ei monitro’n fisol ar hyn o bryd, gan asesu’r ffordd orau o ddefnyddio arfer dda i ddysgu, rhannu a gwella. 
  • Holodd y Pwyllgor am ei rôl wrth fonitro’r rhaglen waith ac i ba raddau y dylai unrhyw adroddiadau monitro gynnwys enghreifftiau o sut mae gweithredoedd unigol yn y rhaglen waith wedi cael eu gweithredu. Argymhellodd y Prif Weithredwr y dylid cyflwyno diweddariad ffurfiol i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.
  • Holodd yr Aelodau hefyd am ddyfodol y system feddalwedd genedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o reoli achosion, cofnodi a monitro’r ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Pwyllgor bod cynlluniau ar y gweill i gyflwyno system feddalwedd genedlaethol newydd, sef Connect in Care, i gymryd lle’r system bresennol, system fydd yn cael ei defnyddio gan Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cynigiwyd y dylid cynnwys y mater ar raglen Sesiwn Briffio Misol yr Aelodau ym mis Rhagfyr 2024.

 

Roedd yr Aelod Portffolio yn cydnabod pa mor bwysig yw rôl Aelodau Etholedig o ran herio’r Gwasanaeth, ac roedd yn cydnabod hefyd y gwaith da sy’n cael ei wneud gan swyddogion o fewn y Gwasanaeth.

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a chynllun gweithredu’r Cyfarwyddwr Addysg a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, ynghyd â nodi ymatebion Swyddogion i’r pwyntiau trafod a godwyd, PENDERFYNWYD-

 

  • Bod y Pwyllgor wedi ystyried llythyr Gwiriad Gwella Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ynys Môn a gyhoeddwyd ar 22 Awst 2024.

 

  • Bod y Pwyllgor wedi cyflwyno sylwadau ar yr adroddiad a chadarnhau bod y cynllun datblygu ynghlwm, a luniwyd gan y Gwasanaeth, yn adlewyrchu’r prif feysydd i’w gwella a’r ffordd orau o gynorthwyo i gefnogi gwaith y Gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Gweithredoedd ychwanegol-

 

  • Bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad ffurfiol i’r Pwyllgor, ymhen 6 mis, ar gynnydd wrth roi’r rhaglen waith ôl-arolygiad ar waith.
  • Bod y bwriad i roi’r system feddalwedd genedlaethol newydd Connect in Care ar waith yn cael ei gynnwys fel mater i’w drafod yn ystod Sesiwn Briffio Misol Aelodau ym mis Rhagfyr 2024.

 

Dogfennau ategol: