Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan

FPL/2024/105

 

12.2 – FPL/2024/7 - 107-113, 116-122, 133-152 Stad Tan y Bryn, Y Fali

FPL/2024/7

 

12.3 – FPL/2024/78 - Fflatiau Bron Heulog, Y Fali

FPL/2024/78

 

12.4 – FPL/2024/29 – Tir yn Porth Amlwch

FPL/2024/29

 

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol am ymweliad safle oherwydd pryderon y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol ynglŷn â’r fynedfa a phroblemau traffig yn enwedig yn ystod y gwaith adeiladu.   Mae’r datblygwr wedi cadarnhau yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn lleol y bydd y datblygiad yn cymryd hyd at 2 flynedd i’w gwblhau ac y bydd y gwaith yn cael effaith sylweddol ar yr ystâd dai gerllaw.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol â chais yr Aelod Lleol. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2  FPL/2024/7 - Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â thirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn ymwneud ag eiddo Cyngor Sir Ynys Môn. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â saith bloc o fflatiau ar ystâd Tan y Bryn, sydd oddi mewn i ffin ddatblygu’r Fali.  Dyma i gais i adnewyddu’r fflatiau a gosod paneli solar ar y toeau ynghyd â gwaith tirweddu caled a gwaith cysylltiedig. Mae’r gwaith allanol yn cynnwys inswleiddio’r waliau a gosod toeau llechi a drysau a ffenestri newydd. Bydd y gwaith yn gwella a moderneiddio edrychiad y fflatiau, a bydd yn cael ei gwblhau i safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau a fydd yn sicrhau bod y fflatiau’n gweddu â’r hyn sydd o’u cwmpas.  Bydd tri deg dau o baneli solar yn cael eu gosod ar do pob bloc o fflatiau, naill ar y drychiad blaen neu’r cefn, gan ddibynnu ar ba ochr sy’n cael mwy o haul. Bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd yr eiddo ac yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy newydd. Bydd y gwaith tirweddu yn cynnwys cael gwared ar y ffensys rhwyll, paneli pren a rheiliau dur. Bydd ffensys pren 1.8m o uchder yn cael eu codi, ynghyd â llwybrau concrid a storfa finiau newydd. Bydd hyn yn gwella edrychiad y safle a’r ardal. Mae’r safle mewn ardal adeiledig, ac mae nifer o dai gerllaw’r blociau fflatiau. Bydd y gwaith yn gwella drychiad yr ardal ac ni fydd yn effeithio ar breifatrwydd a mwynderau cymdogion, yn unol â pholisi cynllunio PCYFF 2.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Robert Ll Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3  FPL/2024/78 - Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â thirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Bron Heulog, Y Fali

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn ymwneud ag eiddo Cyngor Sir Ynys Môn. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â bloc o fflatiau ar ystâd Bron Heulog, sydd oddi mewn i ffin ddatblygu’r Fali.  Dyma i gais i adnewyddu’r fflatiau a gosod paneli solar ar y toeau ynghyd â gwaith tirweddu caled a gwaith cysylltiedig. Mae’r gwaith allanol yn cynnwys inswleiddio’r waliau a gosod toeau llechi a drysau a ffenestri newydd. Bydd y gwaith yn gwella a moderneiddio edrychiad y fflatiau, a bydd yn cael ei gwblhau i safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau a fydd yn sicrhau bod y fflatiau’n gweddu â’r hyn sydd o’u cwmpas. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2024/29 – Cais llawn ar gyfer creu parc cyhoeddus yn cynnwys gwaith tirlunio caled a meddal, lle chwarae, codi strwythurau, rheoleiddio llwybrau troed presennol, creu llwybrau troed newydd a llwybrau pren ynghyd ag adeiladu lle parcio anabl ar dir ym Mhorth Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cael ei ystyried yn ddatblygiad sylweddol gan fod y safle yn fwy na 1ha, ac felly mae wedi bod yn destun proses ymgynghori cyn-ymgeisio statudol.   Mae Melin Mona, adeilad Rhestredig Gradd II, wedi’i lleoli yn y safle ddatblygu, ac mae nifer o Adeiladau Rhestredig eraill yn Harbwr Porthladd Amlwch. Mae’r safle hefyd o fewn Tirwedd Hanesyddol Mynydd Parys ac Amlwch, ac yn rhannol o fewn Ardal Gadwraeth. Ystyrir bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol yn y cynllun datblygu lleol, ac ni chredir y bydd y cais yn cael effaith ar fwynder eiddo cyfagos, asedau treftadaeth na chymeriad ac ymddangosiad yr ardal, gan gynnwys yr Ardal Gadwraeth ddynodedig. Aeth ymlaen i ddweud bod y Swyddog Ecolegol wedi gofyn am Arolwg Ymlusgiaid a fydd yn cael ei gyflwyno ddechrau mis Hydref a chyn belled nad yw’n peri’r angen am ddiwygiadau sylweddol neu faterol i’r cais, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gofyn am ddirprwyo pwerau i swyddogion er mwyn parhau i wneud penderfyniad ynghylch y cais.  Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol hefyd yn gofyn am ddirprwyo pwerau i swyddogion allu delio gydag unrhyw geisiadau er mwyn rhyddhau amodau cyn dechrau. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Jeff Evans bod pwerau’n cael eu dirprwyo i’r Swyddogion fel y nodir yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.  

 

PENDERFYNWYD dirprwyo pwerau i’r Swyddogion i’w galluogi i ddelio ag unrhyw  geisiadau i ryddhau amodau cyn dechrau ac yn amodol ar dderbyn ac ystyried yr Arolwg Ymlusgiaid sy’n weddill cyn belled nad yw’n peri’r angen am ddiwygiadau sylweddol neu faterol i’r cais.

 

Dogfennau ategol: