12.1 – ADV/2024/7 - Cartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch
12.2 – FPL/2024/263 - Canolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi
12.3 – FPL/2024/254 - Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed
12.4 – HHP/2024/139 – Gwynedd, Ffordd Warren, Rhosneigr
12.5 – FPL/2024/232 - Cae Pêl Droed, Llannerchymedd.
Cofnodion:
12.1 ADV/2024/7 – Cais i osod tri arwydd heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer tri arwydd dwyieithog heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog a chyfeiriodd at fanylion yr arwyddion fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Disgrifiodd y cynnig fel datblygiad ar raddfa fach o ddyluniad a graddfa briodol i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio o fewn y safle ac na fyddent yn cael unrhyw effaith ar eiddo, y ffyrdd na'r ardal gerllaw. Felly argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2024/263 - Cais llawn ar gyfer gosod rhwyd 2 metr o uchder uwchben y ffens bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys safle sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai'r bwriad yw gosod rhwyd 2m o uchder uwchben ochr ddeheuol y ffens 3m bresennol o amgylch yr ardal gemau amlddefnydd yng Nghanolfan Jesse Hughes i atal peli rhag mynd i erddi cefn yr eiddo ar Ffordd y Brenin. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar yr ardal na’r eiddo gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2024/254 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Disgrifiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynnig a'r safle a dywedodd fod yr adeilad gofal plant arfaethedig a lleoliad, graddfa, dyluniad ac edrychiad y maes parcio yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac na fyddant yn cael unrhyw effaith negyddol ar y safle presennol nac ar yr eiddo neu'r ardal gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog i benderfynu ar y cais ar ôl derbyn gwybodaeth bellach a newidiadau i’r cynlluniau fel y gofynnwyd amdanynt gan yr Awdurdod Priffyrdd.
12.4 HHP/204/139 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys dymchwel ynghyd a gosod paneli solar a phwmp gwres o'r aer yn Gwynedd, Warren Road, Rhosneigr
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch yr effaith ar eiddo gerllaw a materion parcio.
Disgrifiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynnig a'r safle a dywedodd fod y cynnig gwreiddiol yn cynnwys dymchwel yr ystafell amlbwrpas a’r cwt glo, ynghyd â chodi estyniad deulawr. Mae’r cynlluniau diwygiedig yn dangos estyniad unllawr yn hytrach nag
estyniad deulawr. Mae'r cynlluniau diwygiedig a dderbyniwyd yn cynnwys newid yr estyniad deulawr am estyniad unllawr, addasu’r atig i greu estyniad dormer yn y cefn a gosod paneli solar a phwmp gwres o’r aer. Bydd yr estyniad unllawr yn creu ystafell fyw ychwanegol a bydd addasu’r atig yn creu ystafell wely ychwanegol ond nid ydynt yn newid y gofynion parcio yn unol â'r safonau parcio fel y cadarnhawyd gan yr Awdurdod Priffyrdd. Ystyrir bod y rhain yn addasiadau cymedrol ac na fyddant yn cael effaith andwyol ar eiddo preswyl gerllaw nac ar gymeriad yr annedd na'r ardal gerllaw. O ystyried maint y dormer, byddai fel arfer yn cael ei ystyried fel datblygiad a ganiateir, yn ogystal â'r estyniad unllawr pe bai 0.17m yn is. Ni ystyrir y bydd y cynnig yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol lle mae chwe ffenestr yn wynebu i gyfeiriad yr eiddo gerllaw, nad yw'n anarferol mewn ardal adeiledig yng nghanol y pentref. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ac argymhellir cymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, oedd hefyd yn Aelod Lleol, ei fod yn siarad ar ran cymydog drws nesaf a chyfeiriodd at adroddiad gan ymgynghorwyr a anfonwyd ato gan y cymydog. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch colli golau'r haul o ganlyniad i'r estyniad arfaethedig, gwaethygu problemau parcio ar Warren Road a'r testun pryder mwyaf, sef y byddai’r newidiadau arfaethedig a'r cynnydd yn y nifer yr ystafelloedd gwely yn ei gwneud yn debygol y bydd yr eiddo yn dod yn llety gwyliau neu'n llety Airbnb. Dyfynnodd y Cynghorydd Evans o'r adroddiad gan ddweud ei fod yn awgrymu bod cyfle i'r awdurdod cynllunio lleol ddangos ymrwymiad i'r polisi a chyfyngu ar brosiectau llety gwyliau mewn ardaloedd fel Rhosneigr lle mae llety gwyliau wedi cyrraedd pwynt lle mae’n orlawn ac, os bydd y dyluniad diwygiedig yn cael ei ganiatáu, bod amod yn cael ei osod i atal y perchennog rhag newid defnydd yr eiddo yn llety gosod tymor byr defnydd dosbarth C6 neu C5. Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Alwen Watkin.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gallu gosod amod sy'n cyfyngu ar y defnydd o'r eiddo i ddefnydd dosbarth C3 (defnyddiau preswyl fel unig breswylfa neu brif breswylfa) gan y gellir newid defnydd o eiddo preswyl o ddosbarth defnydd C3 i C5 neu C6 heb ganiatâd cynllunio o dan hawliau datblygu a ganiateir. Mae'r cais gan ddeiliaid y cartref ar gyfer mân newidiadau ac mae'n rhaid ei ystyried ar y sail honno ac nid ar sail defnydd posibl o’r eiddo yn y dyfodol, a dyna pam nad yw effeithiau'r cynnig yn cael eu hystyried yn sylweddol neu'n niweidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, sydd hefyd yn Aelod Lleol, ei fod yn cydnabod bod y gallu i weithredu ynglŷn â’r cais yn gyfyngedig ond credai fod ychwanegu ystafell wely heb orfod darparu lle parcio ychwanegol yn annerbyniol, fel y mae gosod carafán mewn gardd yn annerbyniol, rhywbeth sy'n digwydd yn yr ardal ac sy'n broblem. Cyfeiriodd at gymeradwyo cais ym Mryn Du lle'r oedd y ddarpariaeth parcio’n bell oddi wrth y datblygiad arfaethedig, roedd hyn yn gosod cynsail ac roedd yn clymu dwylo aelodau lleol o ran eu gallu i godi materion priffyrdd a pharcio.
At hyn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw newid yr eiddo o eiddo 3 i 4 ystafell wely yn newid y gofynion parcio ac felly nid yw'n fater i'w ystyried. Mae safonau parcio yn berthnasol yn achos pob cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel datblygiad ar raddfa fach. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd pum aelod o blaid y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a phleidleisiodd pum aelod yn erbyn y cais. Cymeradwywyd y cais drwy bleidlais fwrw'r Cadeirydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 FPL/2024/232 – Cais llawn i greu llwybr concrid i gysylltu’r cae pêl-droed oedolion a’r cae plant yng Nghae Pêl-droed, Llannerch-y-medd
Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn.
Disgrifiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynnig a'r safle a chyfeiriodd at bwrpas y llwybr, sef sicrhau bod y safle’n edrych yn broffesiynol ac er budd iechyd a diogelwch. Fel datblygiad graddfa fach o ddyluniad a graddfa briodol a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio o fewn y safle a heb unrhyw effaith ar eiddo, ffyrdd gerllaw na'r ardal gerllaw, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol a'r argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: