Derbyn cyflwyniad gan Menter Môn.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr - Menter Môn i'r cyfarfod i gyflwyno trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan Fenter Môn.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd â staff Menter Môn sydd wedi colli aelod gwerthfawr o staff yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr - Menter Môn fod Menter Môn wedi ei sefydlu gan y Cyngor Sir yn 1995, a bod penderfyniad wedi’i wneud i sefydlu'r cwmni fel cwmni 'nid er elw' yn 1996 i ddarparu rhaglen LEADER yr UE, oedd yn ceisio datblygu atebion i’r heriau’n wynebu ardaloedd gwledig. Ymhlith y prosiectau yn y blynyddoedd cynnar roedd prosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn, adfer Bwthyn Swtan, sefydlu Gŵyl Cefni a datblygu'r llwybr arfordirol a Lôn Las Cefni. Mae'r cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd, gan gyflawni prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae amrywiaeth a phwyslais y gwaith ar Ynys Môn wedi aros yn gyson. Cynlluniau fel Afon Menai, sy'n gwarchod Llygod y Dŵr, gwaith y Fenter Iaith, cynnal Castell Aberlleiniog, cefnogi Theatr Ieuenctid Môn a threfnu Gŵyl Cefni. Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 85 o staff, sy'n gweithio ar brosiectau a chontractau yn amrywio o gymorth busnes, ynni adnewyddadwy, i gadwraeth amgylcheddol a thechnoleg SMART. At hyn, dywedodd fod y rhan fwyaf o'r gwaith a wneir yn rhanbarthol ac yn genedlaethol trwy gontractau, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei gadw o fewn y cwmni i gefnogi ei brosiectau amrywiol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Un o'r prosiectau mwyaf yw Morlais, sy'n anelu at ychwanegu gwerth at y llanw a sicrhau bod Ynys Môn yn elwa drwy greu swyddi, cefnogi cadwyni cyflenwi a chynhyrchu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol. At hyn, dywedodd Mr Gruffydd fod Brexit yn fygythiad sylweddol i Fenter Môn gan mai'r UE oedd prif ffynhonnell cyllid y rhan fwyaf o brosiectau'r cwmni. O ganlyniad i'r ansicrwydd hwn, ehangodd y cwmni ei bortffolio, gan edrych ar feysydd newydd a datblygu gweithgareddau cynhyrchu incwm. Mae Menter Môn wedi ailedrych ar nodau'r cwmni ac wedi ystyried y prif feysydd i ddatgloi potensial pobl ac adnoddau i sicrhau dyfodol cymunedau. Y nodau yw cefnogi a meithrin pobl; cryfhau'r economi; hyrwyddo'r amgylchedd a dathlu ein diwylliant. Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd yn parhau, yn enwedig o fewn gweithgareddau cymunedol. Mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn parhau o bosibl tan fis Mawrth 2025 ac arian ARFOR hefyd tan fis Mawrth 2025 gydag estyniad posibl; mae'r cynlluniau hyn yn cyflogi 25 o staff.
Cyfeiriodd Mr Gruffydd at ymrwymiadau Menter Môn ar Ynys Môn a’u bod yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor 2023-2028. Mae'r rhain yn gyson ag amcanion strategol Cynllun y Cyngor, yn enwedig yr iaith Gymraeg, yr economi a newid hinsawdd fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd ymhellach fod Menter Môn yn ymgysylltu'n gyson ag amryw o grwpiau a chymunedau ar draws yr Ynys. Nid yw Menter Môn yn derbyn cyllid craidd ac felly mae'n rhaid i bob gweithgaredd, gan gynnwys ymgysylltu, fod ynghlwm â chontract neu gynllun grant. Serch hynny, mae Menter Môn yn awyddus i feithrin perthynas sefydlog gyda chymunedau a gwella’r broses gyfathrebu. Cynigiodd y bydd gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i'r holl aelodau etholedig erbyn mis Tachwedd 2024 h.y. bydd gwybodaeth yn cynnwys gweledigaeth y cwmni, trosolwg o brosiectau presennol, manylion cyswllt uwch aelodau o staff ac amlinelliad o gynlluniau'r dyfodol. Yn ail, bydd cyfarfod yn cael ei drefnu gydag aelodau etholedig wardiau etholiadol dros gyfnod o 12 mis. Bydd hwn yn gyfle i roi trosolwg o waith y cwmni, tynnu sylw at gynlluniau perthnasol yn eu hardaloedd, a thrafod y cyfleoedd a'r pryderon.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
· Sut y gall gwell cydweithredu â'r Cyngor Sir a chyrff lleol eraill sicrhau bod ardaloedd lleol yn elwa cymaint â phosibl. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr - Menter Môn fod trafodaethau wedi eu cynnal yn ddiweddar gyda'r Cyngor i roi strwythur ar waith i wella cydweithio a bydd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng Uwch Swyddogion Menter Môn a'r Cyngor. Er y derbynnir bod cydweithio rhwng Uwch Swyddogion Menter Môn ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, dywedodd fod angen ymgysylltu ag aelodau etholedig eraill i'w hysbysu am fanteision cymunedol. Cytunodd y Prif Weithredwr fod angen cydweithio’n well, a bydd fframwaith ymgysylltu blynyddol yn cael ei drefnu o fewn wardiau etholiadol i hysbysu'r aelodau etholedig ynghylch y cyfleoedd sy'n digwydd o fewn y wardiau hyn. Nododd y bydd y broses gydweithio hon yn sicrhau y gall aelodau etholedig hysbysu eu cymunedau lleol a Chynghorau Tref / Cymuned.
· Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad sefydlwyd Menter Môn gan y Cyngor i gyflawni prosiectau ar yr Ynys. Gofynnwyd pa sicrwydd sydd yna fod ffocws Menter Môn ar waith a darpariaeth ar yr Ynys a beth arall y gellir ei gyflawni o ran ymgysylltu pe bai adnoddau ar gael. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Mr Dafydd Gruffydd fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed gan Fenter Môn. Dywedodd y rhagwelir y bydd prosiect Morlais yn cynhyrchu incwm er mwyn dibynnu llai ar gyllid grant a grantiau tymor byr. Fodd bynnag, pe bai gan Fenter Môn ffynhonnell debyg o gyllid, fel oedd ar gael ar y dechrau pan sefydlwyd y cwmni, gellid cyflawni mwy o brosiectau cymunedol. Codwyd cwestiynau pellach a fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gallu darparu cyllid a oedd yn debyg i gyllid blaenorol yr UE. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Mr Gruffydd fod yr ansicrwydd ynghylch yr adnoddau sydd ar gael yn golygu ei bod yn amhosibl darogan faint o gyllid fydd ar gael. Fodd bynnag, roedd o'r farn y gallai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid tebyg i'r grantiau SPF a Ffyniant Bro neu y bydd estyniad i'r prosiectau presennol sy’n rhan o’r rhaglen.
· Gofynnwyd cwestiynau i ba raddau y mae digon o gydweithio gyda'r Cynghorau Tref a Chymuned a chynghreiriau lleol. Mewn ymateb, dywedodd Mr Gruffydd fod trefn o ymgysylltu â gwahanol grwpiau ar draws yr Ynys ond pe bai mwy o gyllid ar gael gallai ymgysylltu a chydweithio i raddau helaethach. Drwy’r broses ymgysylltu flynyddol gydag aelodau lleol, y gobaith yw y bydd yn helpu i ddarparu gwybodaeth ac adborth i'r Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch y gweithgareddau a'r cyfleoedd o fewn y cymunedau. Codwyd cwestiynau pellach gan holi a yw'r gwaith a wneir gan Fenter Môn yn gorgyffwrdd â gwaith Medrwn Môn. Mewn ymateb, dywedodd Mr Gruffydd fod yna berthynas waith dda rhwng Menter Môn a Medrwn Môn. Dywedodd fod Ynys Môn yn ffodus bod ganddyn nhw amryw o gynghreiriau sy'n cefnogi cymunedau'r Ynys.
· Cyfeiriwyd at y parciau solar mawr arfaethedig yng Ngogledd yr Ynys. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gall Menter Môn barchu barn y rhai o blaid ac yn erbyn y cynigion a bod â diddordeb yn y datblygiad. Mewn ymateb, dywedodd Mr Gruffydd nad oes gan Fenter Môn ddiddordeb busnes yn y datblygiad ac na fydd yn elwa o'r datblygiad arfaethedig hwn yng Ngogledd yr Ynys. Dywedodd mai rôl Menter Môn yw hwyluso'r broses a sicrhau bod y cymunedau lleol yn elwa o ddatblygiadau o'r fath. Er na fyddai Menter Môn yn elwa'n ariannol o'r parciau solar arfaethedig, holwyd oni fyddai Grŵp Cymunedol yn fwy buddiol i sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o'r datblygiadau. Dywedodd Mr Gruffydd fod Menter Môn wedi sefydlu fforwm 'Ynni Cymunedol Môn' sy'n cael ei weinyddu gan Fenter Môn. Bydd gan 'Ynni Cymunedol Môn' ei 'gylch gorchwyl' ei hun ac mae cynrychiolwyr o'r Cyngor Sir ar y fforwm. Nododd y bydd pwyllgorau lleol yn cael eu sefydlu o fewn y cymunedau a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion a bydd y cyrff hyn yn penderfynu sut i ddosbarthu'r arian a grëir o'r parciau solar arfaethedig hyn er budd y cymunedau lleol. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Menter Môn yn gallu ariannu'r gwaith sydd ei angen i weinyddu prosiect mor fawr. Mewn ymateb, dywedodd Mr Gruffydd fod gan Menter Môn ei phrosiectau ynni ei hun, a rhagwelir y bydd rhaglen Morlais yn creu incwm yn y tair blynedd nesaf er mwyn gallu ariannu 'Ynni Cymunedol Môn'.
· Codwyd cwestiynau ynghylch yr heriau i sicrhau bod y sefydliad yn gynaliadwy oherwydd ansicrwydd ynghylch cyllid cyhoeddus a grantiau tymor byr yn sgil Brexit. Mewn ymateb, dywedodd Mr Gruffydd fod Menter Môn yn parhau i wneud ceisiadau am grantiau o wahanol ffynonellau cyllid i sicrhau bod prosiectau cymunedol yn parhau.
· Codwyd cwestiynau ynghylch y budd y bydd yr Ynys yn ei gael gan brosiect Morlais a phrosiectau ynni eraill. Ymatebodd Mr Gruffydd mai rôl Menter Môn yw sicrhau bod budd lleol yn sgil y prosiectau ynni. Rhagwelir y bydd incwm sylweddol yn cael ei gynhyrchu o brosiect Morlais yn y 10 i 15 mlynedd nesaf. Wedi hynny, bydd angen penderfynu’n lleol sut i ddosbarthu'r incwm er budd y gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn amlwg bod cysylltiad agos rhwng yr Awdurdod a Menter Môn. Mae Menter Môn wedi'i sefydlu’n gadarn yn yr Ynys gyda phrosiectau llwyddiannus o fewn y cymunedau. Oherwydd yr hinsawdd ariannol bresennol mae'r cydweithio rhwng y Cyngor a Menter Môn yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod prosiectau’n gallu cael eu cynnal mewn cymunedau ar draws yr Ynys.
Diolchodd y Pwyllgor i Mr Dafydd Gruffydd o Fenter Môn am y cyflwyniad.
GWEITHREDU: Nid oedd unrhyw gamau gweithredu ychwanegol.
Dogfennau ategol: