Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Ynys Môn gan GwE : 2023/2024

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Gwenno Jones, Mrs Sharon Vaughan a Mr Rhys Williams o GwE i'r cyfarfod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg mai dyma Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2023/2024.  Dywedodd fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw'r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn i wella ysgolion, rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau lleol a meithrin gallu. Mae'r adroddiadau'n amlygu prif gryfderau ysgolion Ynys Môn a'r blaenoriaethau y mae angen eu datblygu ymhellach.  Nododd fod gwaith da wedi cael ei wneud o fewn yr ysgolion ynglŷn â'r Cwricwlwm i Gymru.  At hyn, dywedodd fod adolygiad o rolau a chyfrifoldebau ‘haen ganol’ y system addysg yng Nghymru wedi ei gynnal rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2023.  Edrychodd yr adolygiad ar rôl y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gyda'r nod o nodi'n glir eu rolau a'u cyfrifoldebau a'u ffrydiau cyllido.  Nodwyd y bydd symud i ffwrdd o'r trefniadau presennol ar gyfer cymorth rhanbarthol i bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu dulliau mwy lleol.  Yn sgil hyn, bydd GwE yn cael ei ddiddymu fel gwasanaeth ar 1 Ebrill, 2025.  Nododd fod cydweithio rhwng awdurdodau lleol i sicrhau bod y trefniadau trosiannol ar waith i sicrhau bod ysgolion yn cael cymorth addas yn ystod y cyfnod hwn. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cydweithio agos wedi bod rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE.  Mae'r Adroddiad Blynyddol gerbron y Pwyllgor hwn yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn 2023/2024.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-

 

·     Yn sgil y Fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd newydd, beth yw'r dulliau gorau o graffu ar addysg.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai partneriaeth yw hon o ran y Fframwaith ac mae Uwch Swyddog o'r Awdurdod Addysg wedi bod yn hwyluso a chadeirio'r bartneriaeth ranbarthol.  Nododd nad yw'r Fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd newydd yn statudol ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae gwaith da wedi dechrau yn ysgolion yr Awdurdod.  Fel rhan o ganllawiau'r Fframwaith mae’r broses graffu’n dal i allu dal yr Aelod Portffolio Addysg yn atebol am safon yr addysg a'r gwasanaethau i gefnogi ysgolion o fewn yr awdurdod.   At hyn, dywedodd fod Rhaglen Waith wedi'i sefydlu i asesu’r gwaith sy'n cael ei wneud o fewn ysgolion ac yr edrychir ar adroddiadau Estyn i sicrhau bod eu hargymhellion yn cael eu gweithredu.  Credai fod sawl llwybr posibl i gynnal y broses graffu a dywedodd fod llywodraethwyr ysgol hefyd yn rhan o'r broses.

  • Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd yr Aelod Portffolio yn hyderus fod y trefniadau trosiannol yn eu lle i sicrhau bod ysgolion yn derbyn cefnogaeth addas pan ddaw GwE fel endid i ben.  Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd Swyddogion yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod i sicrhau bod ysgolion yn derbyn cefnogaeth addas.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid trefnu Sesiwn Briffio i Aelodau i hysbysu a diweddaru'r Aelodau Etholedig ynglŷn â’r broses ar gyfer y trefniadau trosiannol wrth i GwE fel endid ddod i ben.  Cytunodd y Prif Weithredwr y gellid trefnu sesiwn briffio i Aelodau, a nododd y bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith maes o law gyda threfniadau craffu yn dilyn hynny. 
  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â beth yw'r prif heriau y mae ysgolion Ynys Môn a'r Gwasanaeth Dysgu yn eu hwynebu wrth symud ymlaen.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwaith a wneir yn ysgolion yr Awdurdod i’w ganmol.  Cyfeiriodd yn benodol at heriau o fewn Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig materion ymddygiad a chynhwysiant.  At hyn, dywedodd fod llawer o blant dros y blynyddoedd yn dechrau yn yr ysgol heb sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol a gydag anghenion arbennig.  Mae niferoedd y dosbarthiadau’n cynyddu, ac mae adnoddau'n brin, sy’n gallu achosi pwysau ychwanegol ar ysgolion unigol.  Mae nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn cynyddu fel sy'n cael ei weld yn genedlaethol ynghyd â materion presenoldeb, yn enwedig ers y pandemig.  Dywedodd fod newidiadau o fewn y systemau addysgol yn heriol gyda'r Cwricwlwm i Gymru newydd a bod ysgolion yn gorfod addasu i'r gofynion o fewn y cwricwlwm yma.  Mae cadw a recriwtio staff yn her drwy Gymru, ond mae Ynys Môn yn ffodus ar hyn o bryd gyda nifer o staff yn ymgeisio am swyddi fel Penaethiaid.  Ailadroddodd cynrychiolwyr GwE sylwadau’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a nodwyd y bydd pwysau hefyd ar ysgolion uwchradd gyda'r system raddio TGAU newydd yng Nghymru. Pwrpas y system newydd hon yw gwahaniaethu rhwng myfyrwyr o wahanol alluoedd ac adlewyrchu'r cwricwlwm newydd.  Mae disgwyl i'r system newydd gael ei chyflwyno yng Nghymru o 2025.  Nodwyd hefyd fod Ysgolion Uwchradd wedi mynegi heriau o ran geirfa Gymraeg disgyblion. Dywedwyd bod system yn ei lle i fynd i'r afael â'r materion llythrennedd a geirfa o fewn yr ysgolion a'r gobaith oedd y byddai hon yn cael ei datblygu i fynd i'r afael â'r mater hwn a bod gan bob plentyn, pan fydd yn gadael yr ysgol, eirfa Gymraeg a Saesneg o’r safon ofynnol.   

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn problemau Iechyd Meddwl ymhlith plant a phobl ifanc ledled Cymru sy'n dylanwadu ar eu haddysg.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Cyngor hwn yn ymateb yn strategol i'r problemau Iechyd Meddwl.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod anghysondeb mewn ysgolion o ran yr arferion sy'n Seiliedig ar Drawma.  Nododd fod arferion sy'n Seiliedig ar Drawma yn flaenoriaeth o fewn y Gwasanaeth Dysgu ynghyd â helpu a chefnogi pob ysgol ar draws yr Ynys i weithredu mewn modd mwy cyson.  Gwnaed sylwadau pellach fod gan Benaethiaid ac Athrawon bryderon ynghylch plant ifanc â phroblemau iechyd meddwl.  Codwyd cwestiynau ynghylch y gefnogaeth ar gael gan yr Awdurdod Addysg Lleol i Benaethiaid ac Athrawon wrth fynd i'r afael â materion Iechyd Meddwl gan blant.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod trafodaethau parhaus gyda Phenaethiaid ac Athrawon o ran materion lles plant o fewn ysgolion.  Nododd fod sesiynau hyfforddi llesiant yn cael eu rhoi i Athrawon a staff cymorth. At hyn, dywedodd fod y cydweithio gydag ysgolion eraill yn bwysig i Benaethiaid a bod hwyluso'r cydweithio’n bwysig er mwyn trafod a chydweithio i rannu profiadau. 

  • Codwyd cwestiynau i ba raddau mae gwaith GwE wedi cael effaith ar safonau yn yr ysgolion ar Ynys Môn.  Dywedodd cynrychiolwyr GwE mai'r staff addysgu sy'n cael yr effaith ar safonau ysgolion ac mai rôl GwE yw cefnogi a chynorthwyo'r staff addysgu i godi safonau.  Cyfeiriwyd at y ffaith fod GwE wedi gallu cefnogi ysgolion yn dilyn adroddiadau Estyn lle nodwyd bod angen am ymyrraeth o fewn meysydd penodol. 
  • Cyfeiriwyd o fewn yr adroddiad at y ffaith fod sawl athro ym Môn wedi dilyn y Rhaglenni Arweinyddiaeth Cenedlaethol gan ddatblygu capasiti arweinyddiaeth ar draws yr Awdurdod ar bob lefel gydag ugain o athrawon wedi cyrraedd y safon i dderbyn cymhwyster CPCP.  Gofynnwyd a fydd yr athrawon hyn yn symud ymlaen i fod yn Benaethiaid yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd y cynrychiolydd o GwE fod rhai o’r athrawon sy'n ennill cymhwyster CPCP yn dangos parodrwydd i symud ymlaen i wneud cais am rolau penaethiaid addysg.   Nodwyd bod yr Awdurdod Lleol mewn sefyllfa dda gyda nifer o athrawon ifanc wedi'u penodi i rolau uwch. 

·         Cyfeiriwyd yn yr adroddiad fod GwE wedi bod yn parhau i gefnogi pob clwstwr i ddatblygu eu trefniadau pontio.  Gyda rhieni yn penderfynu mynd â'u plant i ysgolion y tu allan i'r dalgylch gofynnwyd a oes modd cynnal y trefniadau pontio.  Mewn ymateb, dywedodd y cynrychiolwyr o GwE fod y trefniadau pontio, yn flaenorol, yn cyfeirio at drosglwyddo disgyblion o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd gan ganiatáu i ddisgyblion ymweld ag ysgolion uwchradd.   Mae'r trefniadau pontio o fewn ei gyd-destun ehangach yn golygu parhad addysg fel rhan o'r cwricwlwm a bod profiadau dysgu yn cyfuno o'r cynradd i'r ddarpariaeth uwchradd ac yn adeiladu ar y cynnydd y mae plant wedi'i wneud.

  • Cyfeiriwyd at y ffaith fod disgyblion chweched dosbarth o'r 5 ysgol uwchradd ar yr Ynys yn gorfod teithio o un ysgol i'r llall neu i'r coleg lleol ar ôl dewis pwnc i astudio ar lefel uwch.  Holwyd sut y gallai hyn barhau i fod yn gynaliadwy. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Addysg Lleol wedi cyhoeddi ei Raglen Amlinellol Strategol yn ddiweddar sy'n cyfeirio at y ffaith y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal o fewn y 3 blynedd nesaf ynghylch darpariaeth addysgol ôl-+16. Mae trafodaethau cychwynnol eisoes wedi'i gynnal gyda'r ysgolion uwchradd ac mae data wedi'i gasglu ynghylch pa mor gynaliadwy yw'r ddarpariaeth bresennol ar hyn o bryd.  Y flaenoriaeth yw sicrhau'r ddarpariaeth addysg fwyaf effeithiol ar gyfer disgyblion ôl-16 ac mae yna enghreifftiau lle caiff pynciau penodol eu haddysgu gyda dim ond un neu ddau o ddisgyblion wedi dewis y pwnc hwnnw.  Nododd y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal pan fydd yn briodol.

 

Gan y bydd darpariaeth GwE yn dod i ben ym mis Ebrill 2025 roedd y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor yn awyddus i ddymuno’r gorau i gynrychiolwyr GwE ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2023/2024.

 

GWEITHREDU : Bod Sesiwn Briffio Aelodau yn cael ei threfnu i hysbysu a diweddaru'r Aelodau Etholedig ynghylch y broses ar gyfer y trefniadau trosiannol wrth i GwE fel endid ddod i ben. 

 

Dogfennau ategol: