Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Môn Actif 2024-2029

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys fersiwn drafft o Gynllun Strategol Môn Actif ar gyfer y cyfnod 2025 i 2029.

 

Mae Cynllun Strategol Môn Actif yn darparu cyfarwyddyd clir ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer creu cymunedau iachach dros y pum mlynedd nesaf.  Mae’r pum maes blaenoriaeth yn y Cynllun yn gysylltiedig â’r egwyddorion ehangach yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 ac maent yn canolbwyntio ar Gyfranogiad, Iechyd a Lles, Datblygu’r Gweithlu, Rheoli Cyfleusterau, Cynaliadwyedd Ariannol a Chydweithio. Ystyriwyd sefyllfa ariannol y Cyngor wrth ddatblygu’r Cynllun yn cynnwys y gostyngiad mewn cyllid craidd a grant ynghyd â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.  Mae’r Cynllun yn amlygu pwysigrwydd denu cyllid allanol a’r angen am fuddsoddiad addas ac amserol yng nghanolfannau hamdden y Cyngor.  Defnyddiwyd ffynonellau data amrywiol wrth baratoi’r Cynllun. Mae’r data’n darparu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag anghenion yr ynys a bydd yr anghenion hynny’n cael eu hasesu yn ystod y bum mlynedd i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y dewisiadau cywir a dewisiadau gwybodus i helpu i wella iechyd pobl ac annog cymunedau i gadw’n heini. Bydd Tîm Rheoli ac Is-grŵp Môn Actif yn monitro cynnydd y cynllun. 

 

Roedd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Rheolwr Hamdden wrth law i ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor. Roedd y prif bwyntiau trafod fel a ganlyn:

 

  • Y rhesymau dros baratoi cynllun strategol ar gyfer Môn Actif a chyswllt y cynllun â Chynllun y Cyngor.
  • A oes data lleol i brofi bod plant Ynys Môn yn rhy drwm/gordew. Nodwyd bod y cynllun strategol yn datgan bod 11.2% o blant 4 a 5 oed yn ordew a bod 14.5% dros eu pwysau. Holwyd ynglyn â ffynhonnell yr wybodaeth hon, cywirdeb y data a sut y caiff lefelau gordewdra eu pennu a pha gymorth/raglenni dilynol sydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â’r broblem.
  • A yw Môn Actif yn cydweithio ag ysgolion i hyrwyddo bwyta’n iach.
  • A yw canolfannau hamdden y Cyngor a’r gweithgareddau a gynhelir gan Môn Actif yn y canolfannau hamdden hynny a thu hwnt yn gynaliadwy.
  • Sut mae’r Cyngor, drwy Môn Actif yn dwyn perswâd ar y boblogaeth i wneud mwy o ymarfer corff a chadw’n heini.
  • A oes modd ehangu gweithgareddau Môn Actif i gynyddu nifer y plant sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ac a oes modd cynyddu nifer y caeau pob tywydd ar yr Ynys.
  • A yw Môn Actif yn cefnogi gweithgareddau gyda’r nos yn y gymuned.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod o’r pwyllgor, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai amlinelliad byr o’r cymorth sydd ar gael i bobl fregus, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig a chadarnhaodd mewn ymateb pellach bod croeso i’r aelodau alw heibio/cael sgwrs â’r tîm. Cytunwyd y byddai gwybodaeth am y gwasanaethau’n cael ei rhannu â’r aelodau.

 

Roedd ymateb y Swyddogion i’w pwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

 

·         Eglurwyd mai nod y cynllun strategol yw creu cymunedau iach gan fod manteision iechyd tymor byr a thymor hir ynghlwm â chadw’n heini. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Hamdden at y canllawiau a gyhoeddwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ynglyn â faint o ymarfer corff y dylai plant ac oedolion ei wneud ac amlygodd bod Cynllun Strategol Môn Actif yn strategaeth ataliol bwysig yn y cyswllt hwn.  Drwy ddod ag asiantaethau, sefydliadau a gwasanaethau’r Cyngor ynghyd mae’r strategaeth yn darparu cymaint o gyfleoedd â phosib i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff a bydd hynny’n lleihau’r pwysau ar y Bwrdd Iechyd ac yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau yn gysylltiedig ag oed a gordewdra. Mae’r strategaeth hefyd yn sicrhau y bydd y canolfannau hamdden, sy’n cael 500,000 o ymweliadau bob blwyddyn, yn derbyn buddsoddiad hanfodol.  Mae’r Cynllun yn cefnogi un o’r amcanion yng Nghynllun y Cyngor o dan yr amcan gofal cymdeithasol a llesiant i ddarparu cymunedau iachach, mwy diogel a thecach drwy ddarparu pob math o wasanaethau ataliol, llesol a chefnogol.

·         Cadarnhawyd bod data penodol ar gael ar gyfer Ynys Môn a bod 643 o blant 4 a 5 oed wedi cael eu mesur o dan y Rhaglen Mesur Plant yn 2022/23. Roedd hyn gyfystyr â 91.2% o’r holl blant rhwng 4 a 5 oed ar yr ynys. Roedd 25.7% ohonynt dros eu pwysau. 

·         Tra bo diffyg capasiti’n atal Môn Actif rhag cynnal mentrau bwyta’n iach mewn ysgolion mae’r rhaglen Pipyn Ynys Môn yn weithredol mewn pedair ardal ar ddeg ar hyd a lled yr ynys. Mae’r rhaglen yn cefnogi teuluoedd i wneud dewisiadau bwyd iach fel y gallant gynnal pwysau iach. Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod Cynllun Strategol Môn Actif yn gysylltiedig â phob math o wasanaethau a’i fod o’r herwydd yn ychwanegu gwerth ac yn gwneud defnydd o adnoddau a sgiliau penodol o fewn y gwasanaethau hynny i ymgysylltu ag ysgolion, teuluoedd a chymunedau ar faterion megis bwyta’n iach.

·         Wrth gadarnhau bod y data ynghylch gordewdra ymysg plant wedi dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd iechyd a llesiant o ran galluogi pobl i gyfrannu a chyflawni eu potensial. Gan fod y maes hwn mor gymhleth ac er mwyn gwneud cyfiawnder ag o, awgrymodd y dylid cael trafodaeth bellach ar y mater yn ystod sesiwn briffio misol i aelodau yn y dyfodol ac y dylid gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a/neu’r Bwrdd Iechyd i egluro’r ffynonellau data a’r broses casglu data a’r rhaglenni ac ymyraethau sydd ar gael yn lleol.

·         Oherwydd yr heriau’n gysylltiedig â rheoli’r ddarpariaeth hamdden yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae’n bwysig gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllido allanol ac mae £2.6m wedi cael ei fuddsoddi yn y ddarpariaeth hamdden ers 2017. Yr amcan yw sicrhau bod canolfannau hamdden yn hyblyg, eu bod yn parhau i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid a chymunedau a’u bod yn dal yn boblogaidd ac yn cael defnyddio’n rheolaidd.

·         Cadarnhawyd y bydd y cynlluniau datblygu chwaraeon yn cael eu disodli gan gynllun yn seiliedig ar leoedd chwarae ym mis Ebrill 2025, sy’n golygu defnyddio’r data sydd ar gael i ganolbwyntio ar blant sydd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff a gwneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau cymunedol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod yr unigolion cywir yn cael eu targedu. Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaeth Hamdden bod y dull hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i ymestyn y ddarpariaeth/gweithgareddau hamdden y tu hwnt i ganolfannau hamdden ac i leoliadau cymunedol er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl gymryd rhan.

 

Fe wnaeth y Prif Weithredwr gynghori'r Pwyllgor bod y Cyngor yn adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ar ei berfformiad yn erbyn y dangosydd perfformiad cenedlaethol ar y defnydd a wneir o ganolfannau hamdden. Fodd bynnag nid yw’r Dangosydd Perfformiad Allweddol yn cynnwys pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn y gymuned.  Awgrymodd efallai y byddai’n briodol i’r pwyllgor ystyried gofyn i’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n gofyn iddi ystyried ymestyn cwmpas y dangosydd hwn i gynnwys pobl  sy’n defnyddio’r ddarpariaeth hamdden yn y gymuned er mwyn cynrychioli’r holl waith sy’n cael ei gyflawni yn y maes hwn. 

 

·         Mae’r ffaith bod nifer yr ymweliadau wedi aros yn gyson, sef 500,000 o ymweliadau’r flwyddyn, yn dyst i boblogrwydd y canolfannau hamdden ac mae 12,000 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y gwyliau ysgol eleni. Er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch a chyfranogiad mae’n bwysig cynnal ansawdd y gwasanaeth a gofal cwsmer a sicrhau bod y ddarpariaeth hamdden yn dilyn y datblygiadau diweddaraf o fewn y diwydiant ac yn parhau i ddatblygu a moderneiddio ac ymateb i anghenion cwsmeriaid.  O ran y caeau 3G ar yr ynys dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Hamdden er bod sawl cae pob tywydd ar yr ynys eisoes, mae’r Gwasanaeth yn gobeithio ymestyn y ddarpariaeth os bydd cyllid a chyfleoedd i wneud hynny.

·         Mae Môn Actif yn canolbwyntio ar weithgareddau dydd ar hyn o bryd. Yn y cyswllt hwn cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cymdeithasol at y sesiynau dementia wythnosol ar yr ynys sy’n cael eu cefnogi gan wahanol wasanaethau ac sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gwaith sy’n cael ei gynnal yn y gymuned.

 

Ar ôl craffu ar y Cynllun Strategol drafft ar gyfer Môn Actif a derbyn sicrwydd ynglyn â’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn cynnwys y Cynllun Strategol a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo. 

 

Camau gweithredu ychwanegol:

 

·         Cael trafodaeth ynglyn â’r ffynonellau data a dulliau casglu data yn gysylltiedig â gordewdra ymysg plant yn ystod sesiwn briffio misol i aelodau. Gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a/neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r sesiwn.

·         Bod yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ystyried ymestyn cwmpas y dangosydd perfformiad allweddol cenedlaethol ar y defnydd a wneir o ganolfannau hamdden i gynnwys pobl sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gwasanaeth hamdden yn y gymuned.

·         Bod swyddogion yn darparu gwybodaeth ynglyn â’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i bobl fregus dros gyfnod y Nadolig.

 

Dogfennau ategol: