Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy
Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai adroddiad gan y
Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys yr Asesiad o’r
Farchnad Dai Leol 2023-2028.
Mae gofyniad statudol ar y cyngor i gynnal Asesiad
o’r Farchnad Dai Leol. Bob pum mlynedd, mae'n ofynnol i
awdurdodau lleol ailysgrifennu eu Hasesiad a’i ddiweddaru
unwaith yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwnnw. Pwrpas yr Asesiad yw
darparu dadansoddiad eang o Farchnad Dai Ynys Môn, gan
ystyried y gofynion hirdymor ar gyfer tai ar Ynys Môn. Bydd y
sail dystiolaeth yn yr asesiad hefyd yn cael ei defnyddio i lywio
Strategaeth Dai Ynys Môn, yn ogystal â rhan o'r Cynllun
Datblygu Lleol. Mae hefyd yn llywio blaenoriaethau tai strategol a
chynllunio gwasanaethau lleol, fel addysg a
thrafnidiaeth.
Fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Tai dywys yr
aelodau drwy’r manylion yn yr adroddiad yn cynnwys y broses
casglu data ac ymgynghori ac ymgysylltu a chyfeiriodd at rai
o’r heriau sydd ynghlwm â’r broses. Fel rhan o’r asesiad mae
Ynys Môn wedi’i rhannu’n naw ardal yn seiliedig
ar ble mae pobl yn byw ar hyn o bryd a ble maent yn debygol o
symud. Cyfeiriodd y
Pennaeth Gwasanaethau Tai at ganlyniadau’r Asesiad ac fe
amlygodd bod y galw am unedau rhent un ystafell wely yn dal i fod
yn uchel.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y materion a
ganlyn –
- Nodwyd bod yr
asesiad yn nodi bod angen anheddau un ystafell wely. Holwyd sut y
daethpwyd i’r casgliad hwn yn ogystal â sut y gellir
cwrdd â’r galw sydd heb ei gyfarch o dderbyn y gallai
newidiadau mewn demograffeg ychwanegu at y galw.
- I ba raddau fydd yr
asesiad yn dylanwadu ar bolisïau tai yn y dyfodol wrth
lunio’r Cynllun Datblygu Lleol. Holwyd i ba raddau y bydd y
data yn cael ei adlewyrchu yn y CDLl yn
enwedig mewn perthynas ag anheddau un ystafell wely, fel bod yr
angen hwn yn cael ei adlewyrchu yn y datblygiadau a
ganiateir.
- Y risgiau a’r
heriau sy’n wynebu’r Cyngor a’i bartneriaid
cyflawni.
- Nodwyd bod yr
asesiad yn rhoi cipolwg o’r farchnad dai leol ar gyfnod
penodol o amser yn unig a bod angen mynediad at ddata
“byw” ar y Cyngor i’w helpu i gynllunio ei
anghenion tai. Awgrymwyd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau
bod y data yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Nodwyd hefyd er bod
y ddogfen yn darparu asesiad ffeithiol o’r farchnad dai ac yn
amlygu’r galw, nid yw’n cynnig atebion i fynd i’r
afael â’r materion a nodwyd.
- P’un ai a oes
modd defnyddio’r data yn yr Asesiad i ddylanwadu ar
bolisïau’n ehangach.
- Effaith ail
gartrefi ar fforddiadwyedd ac argaeledd
tai ar gyfer pobl leol mewn ardaloedd sy’n boblogaidd â
thwristiaid yn lleol a chenedlaethol. Awgrymwyd y dylid cynyddu
premiwm y Dreth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi i’r lefel
uchaf a holwyd ynghylch ffyrdd eraill o fynd i’r afael
â’r cyflenwad tai a fforddiadwyedd yn ogystal â’r camau a
gymerwyd i liniaru effaith ail gartrefi ar y Gymraeg mewn
cymunedau.
Fe wnaeth y Swyddogion ddarparu’r ymatebion
canlynol i’r pwyntiau a drafodwyd –
- Mae’r ddogfen
yn rhoi cipolwg o’r anghenion tai ar yr adeg yn seiliedig ar
nifer yr unigolion/teuluoedd ar y gofrestr dai ac mae’n
rhagweld sut y gellir cyfarch yr angen hwnnw. Fodd bynnag, mae
Llywodraeth Cymru’n cydnabod na fydd yn bosib cyfarch yn
angen yn llawn yn ystod y cyfnod hwnnw.
- Bydd yr asesiad
o’r farchnad dai leol yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen
dystiolaeth wrth lunio polisïau tai o fewn y Cynllun Datblygu
Lleol newydd ac wrth benderfynu a oes angen diwygio’r
polisïau cyfredol. Rhoddwyd sicrwydd i’r pwyllgor y bydd
y data’n cael ei ddefnyddio wrth lunio’r polisïau
tai o fewn y CDLl yn cynnwys data
ynglyn â’r gymysgedd o
dai. Rhoddwyd gwybod
i’r pwyllgor bod bwriad i ddatblygu 84 o unedau un ystafell
wely ond y bydd yn cymryd amser i gwrdd ag unrhyw angen pellach
gyda’r eiddo sydd ar gael i’w rhentu neu
brynu.
- Mae’r prif
risgiau’n gysylltiedig â chyflawni’r asesiad yn
cynnwys peidio â darparu’r cartrefi cywir yn y llefydd
cywir, oedi neu leihad yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yn sgil
costau cynyddol tra bo’r galw’n dal i gynyddu; diffyg
tir addas yn yr ardaloedd y mae pobl yn dymuno byw ynddynt e.e.
ardaloedd gwledig; fe all ffactorau economaidd ehangach megis
cyfraddau llog a gwrthwynebiad lleol i ddatblygiadau hefyd
effeithio ar yr amser a gymerir i gwblhau datblygiadau.
- Mae modd i’r
Pwyllgor Gwaith ofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y data
perthnasol yn gyfredol ac yn yr un modd fe all y Pwyllgor Gwaith
wahodd Penaethiaid Tai yng Nghymru i drafod sut y gellid
defnyddio’r data i ddylanwadu ar bolisïau
cenedlaethol.
- Mae Llywodraeth
Cymru’n argymell bod awdurdodau lleol yn cynnal ymgynghoriad
os yw’n bwriadu cynyddu’r premiwm i dros 100% ac y
dylai unrhyw ymgynghoriad gael ei gynnal o leiaf chwe mis cyn
dechrau’r flwyddyn ariannol pan fydd y cynnydd yn dod i rym
ac felly nid yw’r amserlen yn caniatáu i’r
Cyngor gynyddu’r premiwm i dros 100% yn ystod blwyddyn
ariannol 2025/26.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed, dywedodd yr
Aelod Portffolio Cyllid y gellid ystyried yr opsiwn i gynyddu
Premiwm y Dreth Gyngor i fynd i’r afael â’r
materion y gysylltiedig ag ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac y
gallai hynny fod yn opsiwn wrth bennu’r gyllideb ar gyfer
2026/27. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Newid Hinsawdd at y darpariaethau yn y broses gynllunio i
warchod y Gymraeg a dywedodd y byddant yn cael eu hadolygu wrth
lunio’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn
er mwyn eu cryfhau a chyfeiriodd hefyd at y trafodaethau parhaus
â’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Ar ôl craffu ar yr
Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023-28 a derbyn sicrwydd yn
gysylltiedig â’r materion a godwyd, penderfynodd y
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
argymell –
·
Bod y
Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r Asesiad o’r Farchnad
Dai Leol 2023-28.
·
Bod y
Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r broses
ymgynghori.
·
Bod y
Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth
Tai mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Tai i gytuno
ar unrhyw fân newidiadau golygyddol i’r Asesiad drafft
o’r Farchnad Dai Leol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru.
Camau gweithredu
ychwanegol –
Argymell bod y Pwyllgor
Gwaith yn –
-
Gofyn
i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y data y mae’r Asesiad yn
seiliedig arno yn “fyw”, diweddar a
chyfredol.
-
Trafod sut y gellir defnyddio’r data i ddylanwadu ar
bolisïau cenedlaethol gyda Phenaethiaid Tai yng
Nghymru.
-
Ystyried adolygu lefel y Premiwm ar gyfer ail dai ac eiddo
gwag hirdymor.