Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/
Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Caffael a Rheolau Gweithdrefn Contractau drafft i gael barn y Pwyllgor cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith i’w cymeradwyo.
Mae Llywodraeth y DU wedi diwygio’r ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â chaffael yn y sector cyhoeddus a bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sy’n gosod cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar sefydliadu sector cyhoeddus yng Nghymru yn gysylltiedig â chaffael. Comisiynodd y Cyngor gwmni allanol i adolygu parodrwydd y Cyngor ar gyfer y newidiadau a darparu cynllun gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth mewn sawl maes yn cynnwys y strategaeth gyffredinol. Mae’r Cynllun Strategol yn nodi sut y bydd y Cyngor yn mynd ati i gaffael er mwyn gwneud yn siŵr bod y Cyngor yn comisiynu a chael gafael ar wasanaethau, nwyddau a gwaith mewn modd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau mewnol ac sydd hefyd yn foesegol, teg ac agored ac sy’n ystyried ffactorau economaidd, cymdeithasol, llafur ac amgylcheddol fel rhan o’r broses.
Yn sgil yn newidiadau deddfwriaethol mae’n rhaid i’r Cyngor ddiweddaru ei RhGCau sy’n nodi’r broses ar gyfer ymgymryd ag ymarfer caffael a’r gwahanol ddulliau caffael a phryd y dylid eu defnyddio. Mae’r RhGCau diwygiedig wedi cael eu drafftio i sicrhau eu bod yn ddigon hyblyg i alluogi swyddogion gaffael yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol, cadw trefn ar ymarferion caffael a sicrhau bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 y gallai’r Cynllun Strategol gynnig mwy o gyfleodd i gynnig contractau i gwmnïau lleol a rhoi hwb i’r economi leol.
Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y pwyntiau a ganlyn –
Roedd ymateb y Swyddogion i’r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn –
Ar ôl craffu ar y Cynllun Strategol Caffael a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau drafft, penderfynwyd derbyn y Cynllun Strategol Caffael ar gyfer 2024-25 a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau drafft ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn gwneud yr un peth.
Dogfennau ategol: