Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2023/24

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o weithgareddau iechyd a diogelwch y Cyngor yn ystod y cyfnod gan gynnwys dadansoddiad o ddamweiniau a digwyddiadau ynghyd â’r prif bethau a gyflawnwyd. Roedd hefyd yn cynnwys y cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a gyfeiriodd at ddau fater o bwys y bu’n rhaid rhoi sylw sylweddol iddynt yn ystod y flwyddyn. Un oedd Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) oedd yn bresennol mewn dwy o ysgolion yr Awdurdod a'r llall yr achosion o ffliw adar ac eglurodd sut yr ymdriniwyd â'r rhain. Cadarnhaodd fod nifer y damweiniau/digwyddiadau a adroddwyd i'r Cyngor dros y cyfnod adrodd wedi codi a bod nifer yr achosion o drais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff y Cyngor ac o fewn ysgolion, lle mae ymddygiad disgyblion yn broblem gynyddol yn enwedig yn y sector cynradd, wedi cynyddu hefyd. Amlinellodd rai o'r ffactorau sydd wedi cyfrannu at y canlyniadau hyn gan gynnwys newidiadau mewn agweddau ac ymddygiad ar ôl Covid a sut mae'r materion hyn yn cael sylw. Nodwyd cynllun gweithredu strategol i gefnogi gwelliant parhaus o ran rheoli iechyd a diogelwch a gofynnwyd i'r pwyllgor ei gymeradwyo.

 

Cadarnhaodd Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd ddadansoddiad y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ynghylch y pwysau ar staff sy'n wynebu'r cyhoedd gan gynnwys Gwarchod y Cyhoedd fel gwasanaeth rheng flaen a'r cynnydd mewn achosion o ymddygiad ymosodol tuag at staff yn y cyfnod ers y pandemig.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y pwyllgor -

 

  • Y dull o fynd i'r afael ag ymddygiad gwael disgyblion mewn ysgolion cynradd
  • P'un ai a oes angen i'r cynnydd mewn achosion o ymddygiad ymosodol a cham-drin tuag at staff y Cyngor gael ei godi i risg sylweddol a'i gydnabod felly.
  • P'un ai a yw'r cynnydd yn nifer y damweiniau llithro, baglu a syrthio yn arwain at oblygiadau cost i'r Cyngor

 

At hyn, dywedwyd wrth y pwyllgor fod achosion o ymddygiad heriol disgyblion mewn ysgolion yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Dysgu a gallant arwain at gefnogaeth gan y Tîm Ymyrraeth Gynnar. Mae gan y Cyngor bolisïau yn eu lle i ddelio â digwyddiadau treisgar a cham-drin yn erbyn staff, gan gynnwys system Nodi Risg o Drais sy'n nodi unigolion a allai beri risg i staff; os yw’r cam-drin yn digwydd ar lafar dros y ffôn mae'r Polisi Rheoli Cysylltiadau – Gweithredoedd Annerbyniol gan Gwsmeriaid yn caniatáu i staff roi gwybod i’r cleient bod eu hymddygiad yn annerbyniol a dod â’r alwad ffôn i ben. Pan fo digwyddiadau mewn adeilad cyhoeddus, gellir gwahardd y sawl sy’n ymddwyn yn annerbyniol rhag mynd i mewn. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 15 fod y Cyngor wedi'i yswirio ar gyfer atebolrwydd cyhoeddus ac, wrth hawlio iawndal, rhaid i hawlydd ddangos bod y Cyngor wedi bod yn esgeulus o ran peidio â sicrhau diogelwch ardal/adeilad cyhoeddus y mae'n gyfrifol amdano, er enghraifft. Mae'r Cyngor a'i yswirwyr yn delio ag achosion o lithro, baglu a syrthio yn rheolaidd ac ni fu cynnydd amlwg yn nifer y digwyddiadau hyn. Mae'n anodd mesur cost delio ag effaith achosion o lithro a syrthio oherwydd os yw un o weithwyr y Cyngor yn absennol o'r gwaith oherwydd ei fod wedi llithro neu syrthio, yna, yn dibynnu ar y math o waith y mae’n ei wneud e.e. gwaith gofal, efallai y bydd angen trefnu i gael gweithiwr dros dro. Felly, mae costau amrywiol ar gyfer gwahanol wasanaethau.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio –

 

  • Yn cadarnhau ei fod yn fodlon bod gweithgareddau'r Cyngor ynghylch Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn rhoi sylw digonol i risgiau a blaenoriaethau'r Cyngor
  • Derbyn sicrwydd bod mesurau rhesymol yn eu lle i reoli risgiau iechyd a diogelwch fel eu bod ar lefel dderbyniol.
  • Yn cefnogi gweithredu'r Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: