Eitem Rhaglen

Diweddariad ar Waith y Cyngor i Gyflawni'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net yn 2023/24

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol Cynllun Strategol Tuag at Sero Net ar gyfer 2023/24. Roedd yr adroddiad blynyddol yn cofnodi cynnydd y Cyngor o ran rheoli'r risg o newid yn yr hinsawdd ac i gyflawni amcanion blynyddol y cynllun yn ystod 2023/24. Yn atodiad 1 i'r adroddiad roedd dadansoddiad o ddata allyriadau 2023/24 a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru o dan ei rhaglen adrodd sero net flynyddol ynghyd â dadansoddiad o gyllidebau allanol a chyllideb y cyngor o fewn y cynllun gweithredu Tuag at Sero Net yn atodiad 2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Newid Hinsawdd. Roedd yn rhoi trosolwg o uchafbwyntiau'r flwyddyn a phrif gamau gweithredu cynllun gweithredu Tuag at Sero Net ar gyfer 2023/24 gan gynnwys gostyngiad o 19.7% yng nghyfanswm allyriadau carbon y Cyngor o'i gymharu ag uchafswm yr allyriadau yn 2021/22, datgarboneiddio eiddo'r Cyngor yn barhaus a gefnogir gan £14m o gyllid grant Llywodraeth Cymru dros 3 blynedd,  ychwanegu 28 o gartrefi carbon niwtral newydd at stoc tai'r Cyngor, ymestyn rhwydwaith gwefru EV a llwybrau teithio llesol, sefydlu meithrinfa goed newydd ger Llangoed a darparu hyfforddiant newid hinsawdd i aelodau etholedig ac uwch reolwyr. Prif negeseuon yr adroddiad yw bod nifer y cynlluniau gan y Cyngor o fewn y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net wedi cynyddu ond mae heriau sylweddol o hyd i gyrraedd y targed sero net erbyn 2030. Mae swm y cyllid allanol a sicrhawyd wedi rhagori ar ddisgwyliadau ac mae allyriadau carbon y Cyngor yn parhau i leihau ond mae angen gwneud rhagor o waith.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y pwyllgor -

 

  • Gan gydnabod y cynnydd a wnaed yn fewnol gan y Cyngor, gofynnwyd cwestiynau am allu'r Cyngor i ddatgarboneiddio ei gadwyni cyflenwi a maint ei ddylanwad yn hyn o beth. Awgrymwyd y gallai fod o gymorth pe bai’r adroddiad yn gwahaniaethu rhwng canlyniadau allyriadau carbon mewnol y Cyngor a pherfformiad cynaliadwyedd a rhai'r gadwyn gyflenwi heb ddyblygu data.
  • P'un ai a yw'r Cyngor yn gallu nodi uchafswm lefelau allyriadau ar gyfer cerbydau cyflenwyr er mwyn annog i newid o ddefnyddio petrol/diesel heb effeithio ar ddarpar ymgeiswyr ar gyfer contractau.
  • Mae’r graddau y mae’r Cyngor yn dibynnu ar gyllid grant allanol yn risg o ran cyflawni ei nodau sero net.

 

Hefyd dywedwyd wrth y Pwyllgor, gan fod allyriadau carbon y Cyngor yn cael eu rhannu'n bedwar prif gategori – Adeiladau, Trafnidiaeth, Gwastraff a'r Gadwyn Gyflenwi o fewn trefniadau adrodd Llywodraeth Cymru, mae'n bosibl sefydlu pa ffynonellau allyriadau sydd o fewn rheolaeth uniongyrchol y Cyngor ac sy'n dod o fewn Cwmpas 3 sy'n cael eu dosbarthu fel allyriadau anuniongyrchol a lle gallai dylanwad y Cyngor fod yn wannach. Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod holl ddata'r gadwyn gyflenwi sy'n cael ei fonitro'n cael ei gofnodi'n gywir e.e. cofnodir gwariant ar drafnidiaeth o dan drafnidiaeth yn hytrach nag o dan y gadwyn gyflenwi rhag dyblygu. Er bod y Cyngor yn y tymor hir yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda chyflenwyr gyda'r bwriad o nodi a lleihau eu hallyriadau carbon dros amser bydd yn cymryd mwy o amser i newid o gerbydau petrol/diesel mawr fel lorïau casglu sbwriel a bydd yn cynnwys ffactorau megis effeithiau ar lefelau gwasanaeth i gymunedau ac ystyriaethau eraill. Mae’r cyllid allanol sydd ar gael yn cael ei gydnabod fel risg ac mae unrhyw ostyngiad mewn cyllid grant neu arian a dynnir yn ôl yn debygol o effeithio ar ba mor gyflym y gwneir unrhyw gynnydd tuag at sero net. 

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn sicrwydd bod mesurau rhesymol yn eu lle i reoli risgiau newid hinsawdd fel eu bod ar lefel dderbyniol.

 

 

Dogfennau ategol: