Eitem Rhaglen

Archwilio Cymru : Adroddiad Gofal Brys ac Argyfwng - Llif allan o'r Ysbyty - Rhanbarth Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ms Fflur Jones a Mr Alan Hughes o Archwilio Cymru i'r cyfarfod.

 

Cafodd adroddiad Archwilio Cymru ei gyflwyno i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Archwilio Cymru wedi cynnal ymchwil i’r Llif Allan o'r Ysbyty - Rhanbarth Gogledd Cymru a'r berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Arweiniodd hwn at sawl argymhelliad ynghylch sut i hwyluso'r llwybr gwella i gleifion er mwyn i'r gwasanaeth allu bod yn fwy effeithiol ac i ystyried profiad yr unigolion.

 

Dywedodd Ms Fflur Jones, Archwilio Cymru fod yr adroddiad yn crynhoi sut mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn mynd i'r afael â'r risg o ganlyniad i’r oedi cyn bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty a'r goblygiadau i'r claf o ran gwella, adsefydlu a bod yn annibynnol a mynd i'r afael â'u hanghenion o fewn y gwasanaethau gofal.  At hyn dywedodd fod y sefydliadau partner yn deall ac yn dangos ymrwymiad i wella llif cleifion allan o'r ysbyty.   Mae gwella llif cleifion allan o'r ysbyty yn nodwedd allweddol o gynlluniau ar draws y partneriaid, sy'n cyd-fynd â chwe nod Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal brys ac argyfwng.  Mae angen i bartneriaid hefyd wneud y defnydd gorau o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF), er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir.  Nododd fod angen i staff Gofal Iechyd gael hyfforddiant cyson.   Mae Archwilio Cymru wedi amlinellu 16 o argymhellion o fewn yr adroddiad a chafwyd ymateb cadarnhaol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:

 

·     O ran oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty, sut mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cymharu â rhanbarthau eraill ar lefel Genedlaethol.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Fflur Jones fod tudalen 11 o'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau pob 100,000 o'r boblogaeth rhwng Ebrill 2023 a Chwefror 2024 sy'n cymharu â'r cyfartaledd drwy Gymru.  Mae atodiadau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gymariaethau ar draws y rhanbarth. 

·     Cyfeiriwyd at y ffaith fod 10 allan o'r 16 argymhelliad gan Archwilio Cymru yn gofyn am gydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Awdurdod Lleol.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd Archwilio Cymru yn monitro effeithiolrwydd y cydweithio hwn.  Dywedodd Ms Fflur Jones mai cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol fydd monitro a dogfennu effeithiolrwydd y cydweithio mewn ymateb i argymhellion Archwilio Cymru.  Nododd fod sefydliadau'n defnyddio gwahanol systemau i olrhain a monitro yn erbyn yr argymhellion a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru.  Mae angen sicrwydd gan Archwilio Cymru fod y gwaith monitro angenrheidiol yn cael ei wneud ynghyd â chynnydd.

·     Cyfeiriodd at gyhoeddiad diweddar gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru a oedd yn gosod her i Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i wella llif cleifion allan o’r ysbyty a gofal cymunedol.  Nodwyd bod adroddiad Archwilio Cymru yn cyfeirio at ddiffyg rhannu gwybodaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdodau Lleol.  Holwyd a fu gwelliannau o ran rhannu gwybodaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdodau Lleol.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen rhoi trefniadau gwell ar waith wrth rannu gwybodaeth rhwng y ddau sefydliad. Fodd bynnag, mae sensitifrwydd yn gysylltiedig â gwybodaeth cleifion ac mae angen caniatâd y claf hefyd.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith fod yr adroddiadau'n amlygu mai aros am asesiadau clinigol yw prif achos yr oedi yng Ngorllewin y rhanbarth o'i gymharu â chyfartaledd Cymru.  Holodd sut y gall asesiad ar y cyd gan y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol wella'r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty a'u rhyddhau ar ôl ychydig ddyddiau heb fod angen unrhyw gymorth arnynt neu ddim ond ychydig o gymorth.  Fodd bynnag, mae canran fach o gleifion ag anghenion cymhleth a fydd yn golygu bod anghenion gofal ychwanegol ganddynt a allai arwain at oedi wrth eu rhyddhau o'r ysbyty.  Nododd ei fod yn cael ei dderbyn bod angen gwella'r broses hon, a bod staff Gwasanaethau Cymdeithasol bellach yn ymweld ag Ysbyty Gwynedd i hwyluso'r broses o ryddhau cleifion gan sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartref eu hunain ar ôl cael eu rhyddhau.  Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod Rhanbarth y Gorllewin yn ffodus fod yr Awdurdodau Lleol yn barod i weithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael ag anghenion y cleifion.

·     Codwyd cwestiynau ynghylch y prosesau monitro sy'n bodoli o fewn Archwilio Cymru i sicrhau bod yr argymhellion a wnaed yn cael eu bodloni.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Fflur Jones mai dim ond i'r cyrff statudol y mae Archwilio Cymru yn gallu gwneud argymhellion a bod disgwyl i'r argymhellion hyn gael eu gweithredu drwy systemau olrhain ac adrodd yr Awdurdod Lleol.  Bydd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd yn adolygu ac yn ymateb i'r argymhellion a nodir gan Archwilio Cymru. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Archwilio Cymru yn adrodd ar y gwelliannau wrth fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad.  Dywedodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru fod y Cyngor yn derbyn adroddiadau mewnol gan y rheoleiddwyr a bydd adroddiadau cynnydd wedi hynny yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Nododd fod proses fewnol o fewn yr Awdurdod i ddiweddaru'r Aelodau ar y cynnydd a gyflawnwyd ac y dylid adroddir ar hyn i'r holl Aelodau Etholedig.  Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai'r Pwyllgor hwn ofyn i Archwilio Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn ar ganfyddiadau gwelliannau'r cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod hwn o fewn 18 mis.   

·     Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Awdurdod yn bwriadu cydweithio â'r Bwrdd Iechyd er budd y bobl sy'n gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty.  Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod staff o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod â staff y Bwrdd Iechyd o leiaf dair gwaith yr wythnos pan fydd cleifion yn barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.  Sicrhaodd fod trefn o gydweithio gyda'r Bwrdd Iechyd yn enwedig pan fydd angen cymorth ychwanegol ar rai cleifion ag anghenion cymhleth a phan fydd angen blaenoriaethu pobl o fewn y cymunedau y gallai fod angen ymyrraeth arnynt.  Codwyd cwestiynau pellach ynghylch y camau pellach y gellir eu cymryd i wella'r gwasanaeth yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cymru fod adroddiad Archwilio Cymru wedi ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn hon a bod rhaglen waith wedi ei chreu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad; mae modelau gwaith gwahanol ar y gweill i hwyluso’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, a rhoi sylw i’w hanghenion.

·     Dywedwyd bod CLlLC wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru’n ddiweddar at y ffaith bod bwlch sylweddol o ran cyllid o fewn Gofal Cymdeithasol.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y mae'n bosibl sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir yn y Sector Gofal Cymdeithasol.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o bwysau a gofynion gofal cymdeithasol, ond nid oes digon o gyllid i wneud gwahaniaeth.  Dywedodd mai'r gobaith yw y bydd mwy o gydnabyddiaeth o’r pwysau ar ofal cymdeithasol yn denu mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.  Dywedodd y Cadeirydd fod CLlLC wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Lywodraeth Cymru ar ran yr holl Awdurdodau Lleol yn mynegi pryderon ynghylch cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol gan nad yw'n gynaliadwy a bod angen mwy o gymorth ariannol. 

·     Cyfeiriwyd at baragraff 103 yn yr adroddiad lle nodir bod y Bwrdd Iechyd wedi sefydlu'r Bwrdd Gofal Brys ac Argyfwng.  Mae'r Bwrdd yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio a chyflawni'r rhaglen chwe nod, gan anelu at sicrhau cynlluniau cydweithredol a pherchnogaeth ymhlith rhanddeiliaid ar draws y system.  Darllenodd y Cadeirydd o'r adroddiad ‘er i ni gyflwyno sawl cais i’r Bwrdd Iechyd, ni fu modd i ni arsylwi ar y Bwrdd na chael unrhyw ddogfennaeth gysylltiedig a chan hynny, nid oeddem yn gallu adolygu ei effeithiolrwydd’.  Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw ddiweddariad ynglŷn â'r mater hwn.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Fflur Jones nad oedd ymateb wedi dod i law y Bwrdd Gofal Brys ac Argyfwng ond drwy waith mwy diweddar gyda'r Bwrdd Iechyd deellir bod trefniadau gwahanol ar waith.  Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod mecanweithiau mewnol yn eu lle gan fod pwysau am Ofal Brys ac Argyfwng. 

·     Cyfeiriwyd at Argymhelliad 10 – Mynd i'r afael â bylchau allweddol o ran capasiti o fewn yr adroddiad.  Codwyd cwestiynau p’un ai a oes gan Archwilio Cymru enghreifftiau o arfer gwaith da mewn Byrddau Iechyd eraill.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwaith wedi'i wneud o ran arferion gwaith a bod staff Tîm Teulu Môn y Cyngor yn gweithio o Ysbyty Gwynedd i asesu anghenion y cleifion.  Nododd ei bod wedi dod yn amlwg nad oes angen cymorth gweithiwr cymdeithasol ar rai cleifion ac y gallent gael eu rhyddhau i ofal eu teuluoedd.  Ystyriai fod ymyriadau a thrafodaethau cynnar gyda'r cleifion a'r teuluoedd yn hollbwysig er mwyn gallu rhyddhau cleifion yn gynnar o’r ysbyty.  Dywedodd Ms Fflur Jones bod tîm 'arfer da' o fewn Archwilio Cymru sy'n gallu rhannu arferion da. Codwyd cwestiynau pellach, er bod ffocws ar welliannau o fewn data cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, gofynnwyd a yw rhai cleifion yn cael eu rhyddhau'n rhy gynnar er mwyn gwella'r data.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Oedolion ei bod yn derbyn na ddylai cleifion gael eu rhyddhau'n rhy gynnar o'r ysbyty a gorfod cael eu haildderbyn wedyn.  At hyn dywedodd fod Tîm Gofal wedi ei sefydlu yng Nghaergybi i gynnig gofal i bobl o fewn eu cartrefi ac i roi cefnogaeth pan maen nhw wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty. 

·     Cyfeiriwyd at system WCCIS a oedd yn galluogi Awdurdodau Lleol a'r Bwrdd Iechyd i allu cyrchu data mewn perthynas â gofal cleifion. Gan y bydd system WCCIS yn cael ei dileu'n raddol, holwyd a fydd system arall ar gael.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn amlwg, gan fod gwahanol systemau digidol o fewn y Bwrdd Iechyd nad oeddent yn gydnaws â system WCCIS.  Nododd y rhagwelir y bydd system borth newydd ar gael, ond mae heriau o ran pwy fydd yn talu am system newydd.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms Fflur Jones a Mr Alan Hughes am fynychu'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion sydd yn adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: