Eitem Rhaglen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards, groeso i Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Mrs Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod.

 

Nododd y Cadeirydd fod adroddiad wedi ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r Pwyllgor hwn.  Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:

 

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bwriedir datblygu cydweithio ymhellach rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod llais y claf yn bwysig wrth ddelio â'i anghenion gofal.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig a arweiniodd at ymyrraeth drwy fesurau arbennig.  Codwyd cwestiynau ynghylch yr heriau a'r risgiau allweddol a sut y bydd y rhain yn effeithio ar allu'r Bwrdd Iechyd i gynnal ei daith barhaus i wella.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae'r Bwrdd Iechyd yn rhannu a dysgu o enghreifftiau o arfer da mewn meysydd eraill i wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn a sut y gall Aelodau Etholedig anfon pryderon eu hetholwyr ymlaen i'r Bwrdd Iechyd.

·         Yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2023 nodwyd y cytunwyd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn enwi pwynt cyswllt ar gyfer ymateb i brosesau ymgynghori statudol sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio sylweddol.  Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Bwrdd Iechyd wedi enwi pwynt cyswllt i ymateb i'r broses ymgynghori statudol ar geisiadau cynllunio.

·         Cyfeiriwyd at yr oedi hir yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a chodwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â'r broblem hon.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch pa enghreifftiau y gall y Bwrdd Iechyd eu darparu i ddangos gwelliant yn niwylliant y sefydliad yn y Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf.

·         Cyfeiriwyd at y rhestr aros ar gyfer asesiad Anghenion Dysgu Ychwanegol. Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yn cydweithio i leihau'r rhestr aros.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch yr effaith ar y gwasanaeth iechyd pan nad yw pobl yn mynychu apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch trosiant staff o fewn y Bwrdd Iechyd oherwydd pwysau gwaith yn y sector iechyd.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod y gwasanaeth deintyddol ar gyfer plant dan 16 oed, wedi cau yn Ysbyty Penrhos Stanley yn ddiweddar.  Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r ddarpariaeth a roddir ar gyfer gwasanaethau deintyddol ar gyfer y rhai dan 16 oed ar Ynys Môn.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellir gwella’r broses gyfathrebu â chleifion sy'n aros am driniaeth.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae cyllid ar gyfer gofal hosbis diwedd oes yn cael effaith ar ryddhau cleifion yn effeithiol o'r ysbyty.

 

Dyma ymateb cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Swyddogion i'r cwestiynau a godwyd:

 

·     Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod yn gwerthfawrogi'r cydweithio cadarnhaol rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Ynys Môn ac ymrwymiad Prif Swyddogion y Cyngor i sicrhau perthynas waith dda gyda'r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod cydweithio gyda'r Awdurdod Lleol yn hollbwysig i ofal a lles cleifion.  Rhoddodd enghraifft o gydweithio gyda'r Awdurdod Lleol sef y prosiect Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghaergybi. 

·     Cytunodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd fod llais y claf yn hollbwysig i wella taith wella'r Bwrdd.  Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod gwaith wedi ei wneud yn ddiweddar o ran Iechyd Meddwl a'r profiad mae pobl wedi ei gael yn ystod eu sefyllfaoedd anodd.  Dywedodd fod y Bwrdd yn dymuno bod yn Fwrdd Iechyd agored, tryloyw sy’n gwrando.

·     O ran yr heriau a'r risg allweddol sy'n effeithio ar allu'r Bwrdd Iechyd i gynnal ei daith barhaus i wella, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod Asesiad Strwythurol Blynyddol a bod Archwilio Cymru yn paratoi adroddiad ar y cynnydd a gyflawnwyd ynghyd â risgiau a heriau.  Nododd fod y cynnydd diweddar wedi arwain at egluro'r materion y mae angen mynd i'r afael â nhw, a bod 5 amcan strategol wedi'u nodi.  At hyn, dywedodd gan fod y Bwrdd Iechyd yn dal o dan fesurau arbennig, bod yn rhaid i'r Bwrdd ddangos cynnydd parhaus i Lywodraeth Cymru.  Amlinellodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd sut mae angen i'r Bwrdd ddangos diwylliant o daith wella barhaus sy'n gysylltiedig ag Arweinyddiaeth a chynaliadwyedd staff.  Nododd fod trosiant uchel wedi bod o fewn Bwrdd y Tîm Arweinyddiaeth dros y blynyddoedd.

·     Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch sut y gall Aelodau Etholedig gyfathrebu â'r Bwrdd pan fydd mater yn codi o fewn eu wardiau etholiadol, awgrymodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd y gellid trefnu sesiwn friffio/fforwm i Aelodau Etholedig fynegi eu pryderon. 

·     O ran cwestiynau ynghylch gwella'r ddarpariaeth Gofal Iechyd mewn ardaloedd gwledig, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd ei fod o'r farn y dylai'r Bwrdd Iechyd arwain y drafodaeth ar sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu o fewn ardal wledig ac i ddysgu o arferion da mewn meysydd eraill i wella'r gwasanaeth a ddarperir.

·     Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â phwynt cyswllt yn y Bwrdd Iechyd i ymateb i ymgynghoriad statudol ar geisiadau cynllunio sylweddol, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd fod fframwaith wedi’i sefydlu i ymateb i geisiadau cynllunio sylweddol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n trafod gyda'r Arweinwyr Grwpiau y cyswllt rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol pan gyflwynir ceisiadau cynllunio sylweddol gan y gallai 10 i 15 o dai gael effaith sylweddol ar gymuned wledig o ran gwasanaethau iechyd yn yr ardal.   

·     O ran cwestiynau yn ymwneud â'r oedi hir yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys ymatebodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd gan ddweud ei bod yn derbyn bod oedi hir, yn enwedig yn ystod y penwythnosau oherwydd diffyg mynediad at gymorth meddygol arall.  Dywedodd mai ar gyfer argyfyngau meddygol yn unig y dylid defnyddio’r Adran Achosion Brys ac y dylai pobl ystyried yn ofalus a oes angen iddynt fynychu’r adran hon.  Nododd fod fferyllfa ar gael i roi cymorth, ynghyd â chyngor.  Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod gwasanaeth Gofal Brys ar yr un diwrnod ar gael yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi bod yn llwyddiannus.  Dywedodd fod angen gwell cyfathrebu â phobl o ran y cyfleusterau eraill sydd ar gael i roi cyngor ar faterion meddygol yn hytrach na mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys sy’n gallu achosi i’r adran fynd yn orlawn gyda chleifion yn aros am gyfnodau hir. 

·     Mewn ymateb i'r cwestiynau a godwyd ynghylch pa enghreifftiau y gall y Bwrdd Iechyd eu darparu i ddangos gwelliant yn niwylliant y sefydliad yn y Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd fod angen bod yn agored gyda phobl a staff y Bwrdd yn ystod taith wella'r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd eu bod yn cael cymorth arbenigwr ym maes gwella gwasanaethau.  Cytunodd fod ymgysylltu â staff yn bwysig mewn unrhyw sefydliad i wella'r gwasanaeth iechyd o fewn y Bwrdd.  Cynhaliwyd hyfforddiant ac ymgysylltwyd â staff ac ystyrir y byddant yn gallu ymateb a oes angen gwella diwylliant y sefydliad.

·     O ran y cwestiynau a godwyd ynghylch sut mae'r Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yn cydweithio i leihau'r rhestr aros ar gyfer asesiad Anghenion Dysgu Ychwanegol, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod pryder ledled y wlad ynghylch y rhestr aros ar gyfer asesiadau ADY.  Roedd yn derbyn bod atgyfeiriadau ar gyfer asesiad ADY yn gallu ymddangos yn broses hir, a bod angen nifer o apwyntiadau i gael diagnosis.  Nododd fod Cynhadledd Cymru gyfan i'w chynnal ddiwedd y mis hwn i drafod sut i fynd i'r afael â'r broses asesu ADY.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr oedi cyn cael asesiad ADY yn cael effaith o fewn yr ysgolion ac ar staff a bod angen datrysiad tymor hir.

·     Mewn ymateb i'r cwestiynau ynglŷn â'r effaith ar y gwasanaeth iechyd pan nad yw pobl yn mynychu apwyntiad meddyg teulu ac ysbyty, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd fod rhai pobl yn tueddu i fynychu'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn hytrach na mynychu apwyntiadau meddyg teulu sy'n achosi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys fod yn orlawn.  Roedd o'r farn bod angen addysgu pobl am yr angen i fynd i apwyntiadau wedi’u trefnu ac y dylai meddygon teulu hefyd dynnu sylw at y broblem o fethu apwyntiadau.

·     O ran y cwestiynau ynglŷn â throsiant staff o fewn y Bwrdd Iechyd oherwydd pwysau gwaith yn y sector iechyd, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod tua 8% o drosiant o fewn y Bwrdd Iechyd bob blwyddyn.  Nododd fod rhai staff dan gontract am gyfnod penodol, bod rhai staff yn ymddeol, a bod rhai staff yn cael dyrchafiad o fewn y gwasanaeth iechyd.  Yn ddiweddar bu proses recriwtio genedlaethol i recriwtio staff nyrsio.  Dywedodd ei bod yn bwysig bod staff yn teimlo bod eu rôl yn un gwerth ei gwneud a'u bod yn gwneud gwahaniaeth a bod eu sgiliau'n cael eu gwerthfawrogi. 

·     Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â chau'r ddarpariaeth ddeintyddol yn Ysbyty Penrhos Stanley, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn ddibynnol ar y modelau contractwyr annibynnol ar gyfer darpariaeth ddeintyddol.  Nododd fod contractwyr annibynnol yn symud i ffwrdd o'r ddarpariaeth ddeintyddol a bod practisau deintyddol yn dangos diddordeb mewn darparu cyfleusterau deintyddol.  At hyn dywedodd nad yw'r ddarpariaeth ddeintyddol yn ddigonol o fewn rhanbarth Gogledd Cymru ond mae 6 practis deintyddol ar Ynys Môn sy'n rhoi gwasanaethau deintyddol brys i'r GIG a gwasanaeth arall nad yw'n frys.    

·     Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â sut mae modd gwella’r broses gyfathrebu gyda chleifion sy'n aros am driniaeth, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd ei fod yn cytuno bod angen gwella’r cyfathrebu ar draws y Gwasanaeth Iechyd.  Dywedodd fod angen gwella profiad cleifion sy'n defnyddio’r system iechyd.  Er ei fod o dan fesurau arbennig, mae'r Bwrdd Iechyd yn ceisio gwella'r ddarpariaeth gyda'r sector iechyd a lles a sicrhau y gellir rhoi'r gofal iechyd gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.  

·     O ran y cwestiynau sy'n ymwneud â pha raddau y mae cyllid ar gyfer gofal hosbis diwedd oes yn cael effaith ar ryddhau cleifion yn effeithiol o'r ysbyty, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod Llywodraeth Cymru’n adolygu eu cynlluniau hyn o bryd o ran sut i ariannu hosbisau.  Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynyddu eu cyllid ar gyfer hosbisau yn ystod y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Dyfed Edwards a Mrs Carol  Shillabeer, am fynychu'r cyfarfod.

 

GWEITHREDU : Bod trefniadau’n cael eu gwneud i gynnal sesiwn briffio/fforwm gyda chynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd ac Aelodau Etholedig fel y gall Aelodau fynegi profiadau a phryderon eu hetholwyr o ran y gofal iechyd a ddarperir.

 

Dogfennau ategol: