Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnydd mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth ar gyfer 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd o hyd at 2.7% mewn lefelau rhenti cymdeithasol ar gyfer 2025/26. Mae’r taliadau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod yn ystod 2025/26 yn seiliedig ar y costau gwirioneddol a gafwyd yn 2023/24 ac maent yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng y tenantiaid a’r lesddeiliaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Gan nad yw Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru’n darparu unrhyw ganllawiau ar sut i gynyddu rhenti garejys, mae’r Cyngor felly’n cynnig codi rhenti garejys gan 10%, neu £1.00 yr wythnos, i £11.02 yr wythnos. Bydd hyn yn cynhyrchu incwm o £290k ar ôl hepgor garejys gweigion, a bydd yn cael ei ddefnyddio i greu cynllun strategol ar gyfer garejys. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod rhenti garejys y Cyngor yn sylweddol is na’r taliadau ar gyfer llogi cynhwysyddion. Nododd hefyd y bwriedir ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu nad yw’r cynnydd blynyddol mewn rhenti yn ddigonol i ganiatáu i’r CRT ariannu costau ychwanegol o ganlyniad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol gan y cyflogwr a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ym mis Hydref, y safonau SATC 2023 newydd a chwyddiant mewn costau adeiladu. Bydd gweithredu’r cynnydd o 2.7% yn golygu cynnydd o rhwng £2.20 a £3.98 yr wythnos ar gyfer pob tenant. Er hynny, ni fydd 2,931 (74.5%) o denantiaid y Cyngor yn wynebu unrhyw galedi ychwanegol yn sgil y cynnydd mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth gan eu bod yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu rannol, neu’r Credyd Cynhwysol. Bydd yr un cynnydd o 2.7% yn berthnasol hefyd i 37 eiddo rhent canolradd y Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod polisi rhenti 5 mlynedd Llywodraeth Cymru’n dod i ben ar ddiwedd 2025/26 a bod un ar ddeg trysorydd y cynghorau sydd wedi cadw eu stoc dai wedi cychwyn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn arwain ar y polisi newydd, er mwyn codi pryderon nad yw lefelau rhenti’n ddigonol i gwrdd â’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r CRT yn 2025/26 a thu hwnt. Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar bolisi rhenti newydd yn y Flwyddyn Newydd a bydd y Cyngor, fel cyngor sydd wedi cadw ei stoc dai, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y broses honno. Un awgrym sy’n cael ei gwneud yw y dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn y fformiwla ar gyfer penderfynu ar y cynnydd mewn rhenti a defnyddio mesur o chwyddiant yn ei le sy’n adlewyrchu’n fwy cywir y cynnydd mewn costau a wynebir gan y sector tai. Er y derbynnir bod angen i dai cymdeithasol fod yn fforddiadwy i denantiaid, mae angen i gynghorau sicrhau bod y CRT yn parhau i fod yn ariannol hyfyw.
Dywedodd y Cadeirydd iddo fanteisio ar y cyfle i godi’r mater mewn cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru yn ystod ei hymweliad diweddar ag Ynys Môn ac roedd yr arweinydd yn cydnabod bod llinell denau iawn rhwng cadw rhenti’n fforddiadwy a sicrhau fod y CRT yn cael ei ariannu’n ddigonol er mwyn caniatáu i’r Cyngor barhau i gynnal a datblygu tai cymdeithasol o ansawdd ar gyfer trigolion Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd, na fydd 75% o denantiaid y Cyngor yn cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn rhenti gan eu bod yn derbyn budd-daliadau, ond gallai rhai o’r 25% sy’n weddill gael eu heffeithio ac, yn yr achos hwnnw, mae’n hanfodol fod unrhyw un sy’n profi caledi’n derbyn cyngor. Tynnodd sylw at Gyngor Ar Bopeth fel sefydliad sy’n arbennig o dda am roi cyngor ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael, yn ogystal â llinell gymorth Advice Link Cymru, ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, sy’n gallu helpu pobl gymwys i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Cyfeiriodd at y cynnydd rhenti ar gyfer garejys, gan ddweud ei fod yn gynnydd rhesymol ar gyfer cyfleusterau storio sy’n cael eu rhentu gan eraill yn ogystal â thenantiaid y Cyngor, a dywedodd ei bod yn cefnogi’r cynigion.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno ei bod yn bwysig i bobl hawlio’r budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt a bod gan aelodau rôl o ran codi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau o’r ffynonellau cymorth a chymorth ariannol sydd ar gael.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
Dogfennau ategol: