Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Dablygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Ddatblygu Economaidd fod Llywodraeth newydd y DU wedi dewis cael gwared ar y term ‘Levelling Up’ gyda’r holl gyllid bellach yn cael ei hyrwyddo fel ‘Ariennir gan Lywodraeth y DU’. Dywedodd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU sy’n cael ei darparu gan Esgobaeth Bangor yn Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi. Cyfeiriodd ymhellach at agoriad llwyddiannus y ciosgau sydd wedi'u hadnewyddu ar Draeth Newry, Caergybi gyda phedwar busnes yn gweithredu o'r ciosgau hyn.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
· Gofynnwyd a all y rhaglen Ffyniant Bro effeithio ar economi Ynys Môn a chymunedau lleol. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen ei bod yn gynamserol ystyried effaith y newid mewn llywodraeth ar hyn o bryd. Nododd fod y gwaith o adnewyddu'r ciosgau ar Draeth Newry, Caergybi wedi agor gyda 4½ swydd wedi'u creu a 7 swydd adeiladu wedi'u caniatáu yn ystod y gwaith adnewyddu ar y ciosgau. Prynwyd deunyddiau adeiladu hefyd yn bennaf gan fasnachwyr adeiladu lleol.
· Codwyd cwestiynau ynghylch y mesurau sydd mewn lle ar hyn o bryd i hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith partneriaeth lleol effeithiol y tu ôl i'r rhaglen. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod ymgysylltu â'r gymuned yn hollbwysig er mwyn rhoi gwybod i breswylwyr Caergybi am y gwaith a wneir yn yr ardal. Nododd ymhellach fod cwmni cysylltiadau cyhoeddus, Ateb Cyntaf Cyf, wedi'i benodi i hyrwyddo'r rhaglen a chodi ymwybyddiaeth o gerrig milltir allweddol. Mae'r Tîm Cyflawni Rhaglen yn gweithio'n agos gyda phob un o'r Partneriaid Darparu i ddatblygu eu prosiectau a chynullir cyfarfod misol i fonitro materion a risgiau allweddol. Roedd o'r farn bod gweithio ar y cyd â'r Partneriaid Darparu wedi gosod sylfaen ar gyfer prosiectau ynys gyfan.
· Gofynnwyd i ba raddau y mae'r newid diweddar yn Llywodraeth y DU yn effeithio ar y Rhaglen bresennol a'r rhagolygon ar gyfer cyllid/rhaglenni yn y dyfodol mewn cymunedau lleol eraill. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad oes unrhyw newid i’r Rhaglen oherwydd y newid diweddar yn y llywodraeth gyda dim ond enw’r rhaglen wedi’i newid i ‘Ariennir gan Lywodraeth y DU’. Nododd fod prosiectau Arfor a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dal i fynd rhagddynt, fodd bynnag, y tu hwnt i 2026 mae'n ansicr a fydd cyllid ar gael tuag at y prosiectau hyn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cyllid ychwanegol am flwyddyn ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn y Gyllideb ym mis Hydref. Fodd bynnag, disgwylir i weld pa drefniadau ariannu fydd yn eu lle wedi hynny tuag at raglen o'r fath a'r gobaith yw y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i'r Cyngor i benderfynu sut i’w wario.
· Dywedwyd bod nifer o brosiectau wedi gorfod cael eu hail-dendro gan fod y costau tendro yn llawer uwch na'r gyllideb oedd ar gael. Codwyd cwestiynau ynghylch y risgiau na fydd modd cyflawni'r prosiectau. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen fod cyllid a'r amserlen gyflawni a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn ffactor risg wrth gyflawni'r prosiectau hyn. Fodd bynnag, mae'r Swyddogion yn hyderus y gellir cyflawni'r prosiectau presennol ac mae'r sefydliadau partner hefyd wedi bod yn mynd ati i sicrhau cyllid grant ar gyfer eu prosiectau. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y Tîm Ffyniant Bro wedi ymgysylltu'n barhaus â'r sefydliadau partner i sicrhau bod cwmpasau rhai prosiectau'n cael eu haddasu i sicrhau eu bod yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy.
· Gofynnwyd a fydd cyllid ar gael i gymunedau gwledig allu cyflwyno prosiectau o fewn y cynllun ‘Ariennir gan Lywodraeth y DU’. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ei fod yn ansicr, ar hyn o bryd, ynghylch y cyllid grant a fydd ar gael. Defnyddir y cyllid Ffyniant Gyffredin i dalu am brosiectau mewn ardaloedd gwledig y gellir mynd i'r afael â hwy yn y tymor byr tra'n aros a fydd cyllid pellach ar gael i fynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig.
· Cyfeiriwyd bod yr adroddiad yn amlygu mai un o amcanion strategol prosiect Sant Cybi yw sefydlu caffi menter gymdeithasol a chyfleusterau banc bwyd. Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y bydd y banc bwyd arfaethedig yn gweithredu mewn partneriaeth â Banc Bwyd presennol Ynys Môn yng Nghaergybi neu a fydd hon yn fenter annibynnol newydd. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch pwy fydd yn darparu'r caffi menter gymdeithasol a'r cyfleusterau banc bwyd gan fod Esgobaeth Bangor wedi penodi Rheithor newydd ar Eglwys Sant Cybi yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi'r cynnydd o ran darparu Rhaglen Caergybi a ariennir gan Lywodraeth y DU;
· Nodi gweithrediad y Rhaglen Caergybi a ariennir gan Lywodraeth y DU yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;
· Cydnabod rôl barhaus y Cyngor wrth gefnogi Partneriaid Cyflawni’r Rhaglen.
CAMAU: Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: