Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gyda’r galw’n cynyddu ac adnoddau’n lleihau. Mae Cynllun y Cyngor yn cadarnhau’r ymrwymiad i ofal cymdeithasol a llesiant, ac mae’n amserol cydnabod sut i foderneiddio’r gwasanaeth i gyflawni dyletswyddau’r Cyngor yn effeithiol ac effeithlon. Nod y Cynllun Strategol yw cadarnhau'r llwybr tuag at ddatblygu elfennau o'r gwasanaeth a sicrhau eu bod yn briodol a fforddiadwy i'r dyfodol, tra'n parhau i ddod yn Ynys Oed Gyfeillgar. Wrth i’r pwysau a’r galw barhau i gynyddu, a phoblogaeth yr Ynys heneiddio ynghyd â phobl ag anableddau dysgu a chorfforol, rhaid ystyried sut y gall yr Awdurdod foderneiddio’r gwasanaethau a ddarperir. Tra bod Strategaeth Moderneiddio’r Gwasanaethau Oedolion yn heriol bydd angen gweithio gyda phartneriaid allweddol, y Bwrdd Iechyd, y trydydd sector a sefydliadau eraill i wireddu’r weledigaeth o fewn y Strategaeth er budd trigolion yr Ynys.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau all y Gwasanaeth gyflawni'r holl amcanion o fewn y Strategaeth a beth yw'r risgiau a'r rhwystrau ariannol i'r Gwasanaeth. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod rhaid cydnabod nad y genhedlaeth hŷn sydd angen y gwasanaethau a ddarperir yn unig, ond bod pobl ifanc hefyd angen gwasanaethau’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n rhan sylweddol o’r galw am y gwasanaetha, a bydd bodloni’r angen yn heriol. Dywedodd y bydd angen ystyried opsiynau i ddarparu'r gwasanaeth am gost is i'r Cyngor gan nad yw'r cyllid yn cynyddu er bod y galw am y gwasanaeth yn cynyddu. Bydd gweithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector a sefydliadau eraill yn hollbwysig i lwyddiant y Cynllun Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion.
· Gofynnwyd, oherwydd cynnydd yn y galw am y gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, pa sicrwydd all y Gwasanaeth ei ddarparu bod cyllid cyfalaf digonol ar gael i fodloni’r galw a sut y bydd y Gwasanaeth yn denu grantiau a chefnogaeth ariannol allanol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er y derbynnir bod Gwasanaethau Oedolion yn gorwario bod yn rhaid mynd i’r afael â’r galw am y gwasanaethau. Nododd y bydd angen addasu'r gwasanaeth i sicrhau gwell gwasanaeth drwy weithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector a sefydliadau eraill.
· Cyfeiriwyd ei bod yn her cael llety ar gyfer cwpl pan fyddant yn wynebu gorfod cael gofal o fewn cartref preswyl. Derbyniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod her o ran llety i cyplau o fewn sector cartrefi preswyl oherwydd costau sy'n gysylltiedig â'r galw am ystafell ddwbl o'r fath o fewn y cartref preswyl. Dywedodd y Prif Weithredwr, tra bod y cydweithio rhwng y Gwasanaeth Tai a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn dda, bod angen gwneud rhagor o waith i gryfhau tai fforddiadwy a thai cymdeithasol i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth sy'n heneiddio. Nododd fod angen i'r ddwy Lywodraeth fynd i'r afael â'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch pryd y bydd awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n deg i fynd i'r afael â phoblogaeth yr Ynys sy'n heneiddio. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y fethodoleg o fewn setliad Llywodraeth Cymru yn nodi'r boblogaeth sy'n heneiddio yn hytrach na phoblogaeth sy'n tyfu ar Ynys Môn. Nododd i’r mater gael ei godi gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn pan ymwelodd ag Ynys Môn yn ddiweddar ac mae angen addasu’r fformiwla ariannu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn.
· Gofynnwyd a oes gan y sector gofal preifat ddigon o staff. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod heriau staffio tebyg yn y sector preifat a chyhoeddus. Nododd bod newid wedi bod gyda mwy o bobl yn dymuno gweithio o fewn maen gofal gan eu bod yn gweld y Gwasanaeth Gofal fel rhagolygon gyrfa. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Choleg Menai lle mae cwrs Gofal Arbennig ar gael i fyfyrwyr; darperir profiad gwaith o fewn Cartrefi Gofal yr Awdurdod i’r myfyrwyr hyn
· Cyfeiriwyd bod y Cynllun Strategol yn sôn am godi ymwybyddiaeth o fentrau oed-gyfeillgar trwy bartneriaethau gyda mentrau cymdeithasol a busnesau lleol. Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau sydd ar waith i alluogi’r gwaith partneriaeth hwn i lwyddo er budd cymunedau’r Ynys. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y fenter oed-gyfeillgar yn cael ei hariannu gan grant. Mae gwaith wedi'i wneud gyda chaffis a gyrwyr tacsis/bws i hyrwyddo'r fenter oed-gyfeillgar. Dywedodd fod gwaith yn cael ei wneud gyda'r cyfleusterau Dementia a ddarperir ar yr Ynys mewn partneriaeth â'r trydydd sector.
· Cyfeiriwyd bod y Cynllun Strategol yn trafod yr angen i ddod o hyd i gyfleusterau addas ar gyfer ail-leoli'r gwasanaeth seibiant i unigolion ag anableddau dysgu. Codwyd cwestiynau ynghylch pa heriau allweddol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu wrth geisio gwireddu’r amcan hwn a pha strategaeth y bydd y Gwasanaeth yn ei defnyddio i fynd i’r afael â’r heriau hyn a’u goresgyn gan fod yn rhaid i bobl ag anableddau dysgu gael eu lletya mewn Siroedd eraill i dderbyn gofal seibiant. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn cydnabod bod diffyg cyfleusterau ar yr Ynys i gynnig gofal seibiant a byw â chymorth i bobl ag anableddau dysgu. Nododd y ceisir arian cyfalaf i alluogi'r Awdurdod i brynu eiddo preifat i gynnig cyfleusterau i bobl ag anableddau dysgu. Dywedodd ymhellach fod menter i brynu eiddo ar gyfer gofal seibiant ar yr Ynys.
PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod ‘Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaethau Oedolion 2024-2029’ yn cael ei fabwysiadu.
Dogfennau ategol: